{"id":173,"date":"2022-06-01T12:08:53","date_gmt":"2022-06-01T12:08:53","guid":{"rendered":"https:\/\/tht.cymru\/en\/?p=173"},"modified":"2023-11-16T12:17:47","modified_gmt":"2023-11-16T12:17:47","slug":"terrence-higgins-trust-appoints-new-medical-director","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/terrence-higgins-trust-appoints-new-medical-director\/","title":{"rendered":"Terrence Higgins Trust yn penodi Cyfarwyddwr Meddygol newydd"},"content":{"rendered":"\n<p>Penodwyd Dr Kate Nambiar fel ein Cyfarwyddwr Meddygol newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd hi\u2019n chwarae rhan ganolog trwy ei harbenigedd clinigol wrth sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar \u00f4l a mynd i\u2019r afael ag anghydraddoldebau iechyd rhywiol mewn cymunedau ymylol wrth i ni weithio tuag at ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hi&#8217;n cymryd yr awenau oddi wrth Dr Michael Brady, sy&#8217;n rhoi&#8217;r gorau i&#8217;r swydd y mis hwn ar \u00f4l bron i 15 mlynedd yn y r\u00f4l.<\/p>\n\n\n\n<p>Dechreuodd Dr Nambir weithio i\u2019r GIG yn 1999 ac mae wedi arbenigo mewn iechyd rhywiol ers 2003. Mae\u2019n angerddol am sicrhau bod gan bawb hawl i ofal iechyd da a\u2019I fod yn realiti i bawb ac mae ganddi gyfoeth o brofiad, gan gynnwys gweithio fel Meddyg Arbenigol mewn Iechyd Rhywiol a HIV yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Sussex ac Ymchwilydd Doethurol yn Ysgol Feddygol Brighton a Sussex. Ar hyn o bryd mae Dr Nambir yn gweithio fel Clinigydd Rhyw ac Arbenigwr Endocrinoleg yng Ngwasanaeth Rhywedd Cymru yng Nghaerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2012 sefydlodd Dr Nambiar Clinic-T, clinig iechyd rhywiol ac atal cenhedlu a arweinir gan ac ar gyfer pobl traws ac anneuaidd yn Brighton, mewn partneriaeth \u00e2 ni. Mae\u2019r clinig yn darparu gwasanaeth cynhwysol ac anfeirniadol ac yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r bwlch mewn gwybodaeth iechyd rhywiol ac atgenhedlu ar gyfer y gymuned hon.<\/p>\n\n\n\n<p>Dim ond ers 2015 y mae diagnosis HIV ymhlith pobl traws wedi\u2019u cynnwys yn ystadegau blynyddol y DU \u2013 roedd Dr Nambir yn rhan o\u2019r t\u00eem a eiriolodd dros y newid hwn. Mae hi wedi bod yn hyrwyddwr hirsefydlog o ofal iechyd traws-gynhwysol ac yn ddiweddar bu\u2019n rhan o d\u00eem yn Brighton a lansiodd ganllawiau ar ofal amenedigol sy\u2019n gynhwysol o ran rhywedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bu Dr Nambiar hefyd yn ymwneud \u00e2 datblygu ein gwybodaeth iechyd rhywiol traws-benodol, dan arweiniad ac yn dathlu pobl trawsrywiol, anneuaidd ac amrywiol o ran rhywedd. Wrth siarad am yr adnodd, dywedodd Dr Nambiar: \u2018Mae iechyd rhywiol da yn hanfodol i bawb ond yn rhy aml mae pobl trawsrywiol, anneuaidd ac amrywiol o ran rhywedd yn cael eu gadael allan o wybodaeth brif ffrwd sy\u2019n ymwneud ag iechyd rhywiol ac yn teimlo\u2019n anghyfforddus wrth gael mynediad at wasanaethau prif ffrwd. Fel pobl traws, mae angen i ni weld ein hunain mewn ymgyrchoedd iechyd rhywiol a gwybod bod y wybodaeth wedi\u2019i hysgrifennu gyda ni mewn golwg.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd ein prif weithredwr Ian Green:<\/strong> \u2018Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu Dr Kate Nambiar fel Cyfarwyddwr Meddygol Terrence Higgins Trust. Mae Kate yn llais blaenllaw ym maes iechyd rhywiol &#8211; bydd ei phrofiad yn amhrisiadwy i Terrence Higgins Trust wrth i ni weithio i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol ac atgenhedlol da a gwybodaeth sydd wedi&#8217;u teilwra i&#8217;w hanghenion; a bod HIV, iechyd rhywiol ac atgenhedlol yn rhydd rhag cywilydd a stigma.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Dr Kate Nambir:<\/strong> \u2018Mae\u2019n anrhydedd cael fy mhenodi\u2019n Gyfarwyddwr Meddygol newydd Terrence Higgins Trust. Rwy wedi edmygu gwaith yr elusen ers tro ac yn edrych ymlaen at ddefnyddio fy mhrofiad ym maes iechyd rhywiol a hunaniaeth rhywedd i gefnogi Terrence Higgins Trust yn ei chenhadaeth i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 a gwella iechyd rhywiol y genedl \u2013 a sicrhau bod pawb yn teimlo cynnydd gan bob cymuned yn ddieithriad.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Dr Kate Nambiar yn cymryd yr awenau fel ein Cyfarwyddwr Meddygol oddi wrth Dr Michael Brady.<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":323,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-173","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/173","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=173"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/173\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1203,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/173\/revisions\/1203"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/323"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=173"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=173"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=173"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}