{"id":1861,"date":"2025-02-12T12:50:56","date_gmt":"2025-02-12T12:50:56","guid":{"rendered":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/?p=1861"},"modified":"2025-03-20T12:53:44","modified_gmt":"2025-03-20T12:53:44","slug":"neges-grindr-yn-annog-defnyddwyr-yr-ap-yng-nghymru-i-fanteisio-ar-brofion-hiv-gan-fod-ymchwil-newydd-yn-dangos-nad-yw-80-a-mwy-o-oedolion-prydain-yn-ymwybodol-or-ffaith-bod-modd-cynnal-prawf-hiv-gart","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/neges-grindr-yn-annog-defnyddwyr-yr-ap-yng-nghymru-i-fanteisio-ar-brofion-hiv-gan-fod-ymchwil-newydd-yn-dangos-nad-yw-80-a-mwy-o-oedolion-prydain-yn-ymwybodol-or-ffaith-bod-modd-cynnal-prawf-hiv-gart\/","title":{"rendered":"Neges Grindr yn annog defnyddwyr yr ap yng Nghymru i fanteisio ar brofion HIV gan fod ymchwil newydd yn dangos nad yw 80% a mwy o oedolion Prydain yn ymwybodol o&#8217;r ffaith bod modd cynnal prawf HIV gartref"},"content":{"rendered":"<p>Mae neges Grindr wedi bod yn atgoffa defnyddwyr yr ap ledled y DU i gael prawf HIV, gan fod arolwg barn newydd gan YouGov yn dangos nad yw dros 80% o oedolion Prydain yn ymwybodol y gallan nhw wneud prawf HIV yn eu cartref. Pan gynigiwyd hwn fel opsiwn, y dewis profi gartref oedd y ffordd fwyaf poblogaidd o brofi am HIV.\u00a0<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ymgyrch brofi yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Profi HIV yn Lloegr.\u00a0 Mae Wythnos Genedlaethol Profi HIV Lloegr yn cael ei hariannu gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac fe&#8217;i cyflwynir gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ar ran HIV Prevention England i annog pobl i gael prawf. Mae&#8217;r neges Grindr yn cael ei hanfon ledled y DU, felly bydd defnyddwyr yng Nghymru hefyd yn cael eu hatgoffa i gymryd prawf. Gall pawb yng Nghymru gael profion am HIV ac am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) am ddim gydol y flwyddyn.\u00a0<\/p>\n<p>Mae gan Lywodraeth Cymru sawl menter i ddarparu profion rhad ac am ddim, cwbl gyfrinachol i bwy bynnag sydd eisiau hynny. Mae Iechyd Rhywiol Cymru yn darparu pecyn prawf am ddim ar gyfer chlamydia a gonorea ynghyd \u00e2 HIV, syffilis, hepatitis B, a hepatitis C. Gallwch ddefnyddio&#8217;r pecynnau hyn yn eich cartref eich hun ac yna postio\u2019r pecyn i&#8217;r labordy yn yr amlen ragdaledig.<\/p>\n<p>\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"800\" height=\"394\" src=\"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Hero-image-Wales-Testing-Week-24-noshashtag2-1024x504.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Hero-image-Wales-Testing-Week-24-noshashtag2-1024x504.jpg 1024w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Hero-image-Wales-Testing-Week-24-noshashtag2-300x148.jpg 300w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Hero-image-Wales-Testing-Week-24-noshashtag2-768x378.jpg 768w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Hero-image-Wales-Testing-Week-24-noshashtag2.jpg 1440w\" sizes=\"(max-width: 800px) 100vw, 800px\" \/>\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t\t<\/p>\n<p>Er mwyn cyrraedd y targed o ddileu achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030, bydd yn hollbwysig dod o hyd i bawb sy&#8217;n byw gyda HIV heb ddiagnosis a sicrhau eu bod yn cael triniaeth sy&#8217;n achub bywydau. Er mwyn gwneud hyn, mae&#8217;n rhaid i ni gynyddu\u2019r profion HIV ledled y wlad. Er bod y pandemig COVID-19 wedi effeithio ar brofion HIV yng Nghymru, mae&#8217;r cyfraddau profi wedi cynyddu&#8217;n raddol ers hynny. Wrth gyfuno profion labordy a phrofion cartref, dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 113,097 o bobl wedi cael prawf HIV yn 2023, cynnydd o 12.8% ers 2022. O&#8217;r nifer hwn, fe wnaeth 21.4% o bobl benderfynu gwneud y prawf gartref. Mae&#8217;n rhaid i ni gynyddu ymwybyddiaeth o&#8217;r opsiwn i brofi gartref ar hyd a lled y DU, er mwyn cynyddu cyfraddau profi HIV.\u00a0<\/p>\n<p>Mae&#8217;r prawf yn un rhad ac am ddim ac yn gwbl gyfrinachol. Hefyd, dyma&#8217;r unig ffordd i wybod a oes gennych chi HIV ac mae&#8217;n werth gwneud hyn oherwydd gall pobl fyw gyda HIV am amser hir heb unrhyw symptomau. Os ydych chi&#8217;n HIV negatif, gallwch ddefnyddio amddiffyniad fel PrEP neu gondoms i barhau\u2019n negyddol. Os ydych chi&#8217;n HIV positif, gallwch gael triniaeth am ddim a byw bywyd hir ac iach \u2014 a dyw pobl ar driniaeth HIV effeithiol ddim yn gallu ei drosglwyddo i bartneriaid.\u00a0<\/p>\n<p>Dysgwch fwy am brofion HIV yng Nghymru\u00a0<a href=\"https:\/\/tht.cymru\/cy\/prawf\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">yma<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae neges Grindr wedi bod yn atgoffa defnyddwyr yr ap ledled y DU i gael prawf HIV, gan fod arolwg barn newydd gan YouGov yn dangos nad yw dros 80% o oedolion Prydain yn ymwybodol y gallan nhw wneud prawf HIV yn eu cartref. Pan gynigiwyd hwn fel opsiwn, y dewis profi gartref oedd y [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":1402,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1861","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1861","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1861"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1861\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1875,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1861\/revisions\/1875"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1402"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1861"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1861"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1861"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}