{"id":2439,"date":"2025-06-09T11:58:00","date_gmt":"2025-06-09T11:58:00","guid":{"rendered":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/?p=2439"},"modified":"2025-07-23T12:10:41","modified_gmt":"2025-07-23T12:10:41","slug":"portread-newydd-o-terry-higgins-yn-cael-ei-arddangos-yng-nghaerdydd-i-nodi-ei-ben-blwydd-yn-80-mlwydd-oed","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/portread-newydd-o-terry-higgins-yn-cael-ei-arddangos-yng-nghaerdydd-i-nodi-ei-ben-blwydd-yn-80-mlwydd-oed\/","title":{"rendered":"Portread newydd o Terry Higgins yn cael ei arddangos yng Nghaerdydd i nodi ei ben-blwydd yn 80 mlwydd oed"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"779\" height=\"1024\" src=\"http:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Terry-Higgins-Portrait-779x1024.jpeg\" alt=\"Portread o Terry Higgins\" class=\"wp-image-2443\" srcset=\"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Terry-Higgins-Portrait-779x1024.jpeg 779w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Terry-Higgins-Portrait-228x300.jpeg 228w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Terry-Higgins-Portrait-768x1009.jpeg 768w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Terry-Higgins-Portrait.jpeg 1053w\" sizes=\"(max-width: 779px) 100vw, 779px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Terry Higgins gan Darren Varnam.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Bydd arddangosfa sy&#8217;n cael ei lansio yn PWSH yng Nghaerdydd ddydd Llun yma (9 Mehefin 2025) yn cynnwys portread newydd o Terry Higgins, i nodi\u2019r diwrnod y byddai wedi troi\u2019n 80 oed ddydd Mawrth. Mae&#8217;r darn, gan yr artist Darren Varnam, yn rhan o <em>Brosiect Rhuban Rhudd<\/em>, arddangosfa amlddisgyblaethol sy&#8217;n archwilio profiadau o HIV ac o fod yn cwiar yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r arddangosfa yn olrhain taith HIV yng Nghymru, o argyfwng i ddyfodol gobeithiol. Heddiw, mae datblygiadau mewn meddygaeth yn golygu y gall pobl sy&#8217;n byw gyda HIV ac yn cael triniaeth fyw bywydau normal, iach ac na allan nhw ei basio ymlaen i bartneriaid. Mae&#8217;r cynnydd meddygol hwn, ynghyd \u00e2 phrofion HIV a PrEP, yn golygu ei bod hi\u2019n bosibl rhoi terfyn ar drosglwyddiadau HIV newydd yng Nghymru erbyn 2030.<\/p>\n\n\n\n<p>Terry Higgins oedd y person cyntaf i farw o salwch cysylltiedig ag AIDS yn y DU. Cafodd ei eni yn Hwlffordd ym 1945, a bu farw ym 1982 yn ddim ond 37 mlwydd oed. Yn sgil ei farwolaeth, sefydlodd ei bartner Rupert Whitaker OBE a&#8217;i ffrind agos Martyn Butler OBE y Terrence Higgins Trust, er cof amdano. Heddiw, mae&#8217;r elusen yn cefnogi pobl sy&#8217;n byw gyda HIV i fyw&#8217;n dda, gan gynnwys darparu cymorth gan gymheiriaid ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae portread Varnam yn dal Terry mewn iwnifform yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol. Mae&#8217;r gair &#8216;Cymru&#8217;, wedi&#8217;i guddio yn y cymylau y tu \u00f4l iddo, yn atgoffa\u2019r sawl sy\u2019n edrych ar y darlun o wreiddiau Cymreig Terry, gyda ffigyrau yn y cefndir yn cynrychioli&#8217;r ymgyrchu a\u2019r gweithredu a ysbrydolwyd gan ei farwolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Ariannwyd y prosiect gan T\u0177 Cerdd a Chyngor Celfyddydau Cymru, mewn ymateb i Gynllun Gweithredu HIV Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2023.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Wrth i ni nodi&#8217;r hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd Terry yn 80 mlwydd oed, rydyn ni\u2019n dathlu ei fywyd a&#8217;i waddol anhygoel. Rydyn ni wedi\u2019n cyffwrdd gymaint gan bortread Darren Varnam, sy&#8217;n cyfleu hunaniaeth Gymreig falch Terry a&#8217;i gyfnod yn y Llynges Frenhinol. Rwy&#8217;n gobeithio y bydd y rhai sy&#8217;n ymweld yn mynd oddi yma gan wybod ychydig mwy am ei fywyd anhygoel.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Bob dydd, er cof am Terry, rydyn ni&#8217;n gweithio&#8217;n ddiflino dros fyd heb unrhyw drosglwyddiadau HIV newydd a lle nad yw HIV yn dal neb yn \u00f4l. Gyda&#8217;n gilydd, i Terry ac i bawb rydyn ni wedi\u2019u colli, gallwn roi terfyn ar achosion newydd o HIV yng Nghymru a chefnogi pawb sy&#8217;n byw gyda HIV i fyw&#8217;n dda.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd yr artist Darren Varnam:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Fel dyn hoyw a wnaeth fyw trwy&#8217;r argyfwng AIDS, rwy&#8217;n teimlo\u2019n wylaidd iawn i fod yn rhan o&#8217;r prosiect ymwybyddiaeth o HIV hwn. Trwy fy nghelfyddyd, rydw i bob amser wedi ceisio dal hanfod yr ysbryd dynol. Nawr, rwy&#8217;n falch o fenthyg fy mhortreadau i achos sy&#8217;n parhau i fod yn bwysig tu hwnt \u2013 gan daflu goleuni ar obaith, gwytnwch, a hanes bywydau sy&#8217;n cael eu cyffwrdd gan HIV.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Doeddwn i ddim yn teimlo y byddai\u2019n iawn i mi fod yn rhan o brosiect ymwybyddiaeth o HIV yng Nghymru heb i mi s\u00f4n am ddyn ac elusen mor eiconig \u00e2 Terrence Higgins a&#8217;r Ymddiriedolaeth. Dyma&#8217;r gyntaf yn y DU i gael ei sefydlu mewn ymateb i&#8217;r epidemig, ac maen nhw wedi gweithio&#8217;n ddiflino ers hynny. Rydw i wedi bod yn falch iawn o fod yn rhan o Brosiect Rhuban Rhudd, ac rydw i bellach yr un mor falch o allu anrhydeddu Terrence Higgins, ar y diwrnod y byddai wedi nodi ei ben-blwydd yn 80 mlwydd oed.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Gon\u00e7alo Fernandes, Cyfarwyddwr y Prosiect:<\/strong><br>&#8216;Dechreuais fyfyrio ar y stigma cynnil ond parhaus a brofais, yn enwedig ar apiau d\u00eatio, lle gofynnwyd i mi yn aml a oeddwn i&#8217;n &#8216;l\u00e2n.&#8217; Er fy mod i&#8217;n HIV negatif, roedd y cwestiwn bob amser yn fy ngwneud i\u2019n anghyfforddus. Daeth ag atgof yn \u00f4l o fy 20au cynnar ym Mhortiwgal, pan oedd yn rhaid i mi ymladd am PEP ar \u00f4l dod yn agored i\u2019r feirws. Doedd staff yr ysbyty ddim hyd yn oed yn gwybod am beth roeddwn i\u2019n s\u00f4n, ac roeddwn i&#8217;n teimlo cywilydd, mod i\u2019n cael fy marnu, ac ar fy mhen fy hun. Mae&#8217;r profiad cynnar hwnnw, ynghyd \u00e2&#8217;r stigma y gwelwn ar-lein, wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i eisiau ymateb yn greadigol &#8211; gyda phrosiect amlddisgyblaethol sy&#8217;n canolbwyntio ar ymwybyddiaeth o HIV ac yn herio&#8217;r naratifau sy&#8217;n cywilyddio pobl i dawelwch.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae&#8217;r prosiect hwn hefyd yn fath o ymgyrchu a gweithredu. Gyda chefnogaeth fy mhartner\u2014Ruan Martins\u2014a ddaeth \u00e2&#8217;i gefndir mewn bale a ffilm i&#8217;r broses fel Cyfarwyddwr Clyweledol a chyd-gynhyrchydd, a sefydliadau fel On Your Face Collective, yn enwedig Africa a Cerian, rydw i wedi medru siapio nid yn unig y cyfeiriad artistig ond yr ochr ymgysylltu \u00e2&#8217;r gymuned o&#8217;r gwaith. Roedd yr artistiaid Darren a Niamh hefyd yn allweddol, gan fy helpu i adeiladu a chynnal y prosiect. Rwy&#8217;n credu bod rhaid i gelf siarad \u00e2&#8217;n hamseroedd ni. Mae gormod o bobl yn dal i deimlo nad oes ganddyn nhw lais. I mi, mae&#8217;r gwaith hwn yn ymwneud \u00e2 rhoi lle i&#8217;r lleisiau hynny, chwalu stigma, ac atgoffa eraill &#8211; trwy gelf &#8211; nad yw ymwybyddiaeth, urddas, ac empathi yn ddewisol.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r arddangosfa i\u2019w gweld am y tro cyntaf yn PWSH, Hypha Studios, 111 Heol y Frenhines, Caerdydd, am 18:30 ddydd Llun 9 Mehefin. Bydd yno tan ddydd Sadwrn 14 Mehefin.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r manylion llawn ar gael yn y <a href=\"https:\/\/arts.wales\/cy\/newyddion-swyddi-chyfleoedd\/prosiect-rhuban-rhudd\">Cyngor Celfyddydau Cymru<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd arddangosfa sy&#8217;n cael ei lansio yn PWSH yng Nghaerdydd ddydd Llun yma (9 Mehefin 2025) yn cynnwys portread newydd o Terry Higgins, i nodi\u2019r diwrnod y byddai wedi troi\u2019n 80 oed ddydd Mawrth. Mae&#8217;r darn, gan yr artist Darren Varnam, yn rhan o Brosiect Rhuban Rhudd, arddangosfa amlddisgyblaethol sy&#8217;n archwilio profiadau o HIV ac [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":2443,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-2439","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2439","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2439"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2439\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2445,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2439\/revisions\/2445"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2443"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2439"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2439"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2439"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}