{"id":3251,"date":"2025-11-06T11:37:43","date_gmt":"2025-11-06T11:37:43","guid":{"rendered":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/?p=3251"},"modified":"2025-11-06T11:54:43","modified_gmt":"2025-11-06T11:54:43","slug":"gostyngiad-mawr-mewn-achosion-newydd-o-hiv","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/gostyngiad-mawr-mewn-achosion-newydd-o-hiv\/","title":{"rendered":"Gostyngiad mawr mewn achosion newydd o HIV"},"content":{"rendered":"\n<p><em>Mae data newydd yn dangos gostyngiad sylweddol o 20% mewn achosion newydd o HIV yng Nghymru y llynedd, gan fod mwy o bobl nag erioed wedi cael eu profi.<\/em><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"576\" src=\"http:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Wales-flag-768x576-1.jpg\" alt=\"Baner Cymru yn erbyn cefndir awyr.\" class=\"wp-image-1331\" srcset=\"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Wales-flag-768x576-1.jpg 768w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Wales-flag-768x576-1-300x225.jpg 300w\" sizes=\"(max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/icc.gig.cymru\/cyhoeddiadau\/cyhoeddiadau\/tueddiadau-mewn-atal-diagnosio-a-thrin-hiv-yng-nghymru\">data<\/a> diweddaraf yn adroddiad blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar HIV, sy&#8217;n cael ei gyhoeddi heddiw, ddydd Mercher 5 Tachwedd, yn dangos bod nifer y rhai sy&#8217;n cael diagnosis newydd o HIV wedi gostwng i 73 yn 2024, i lawr o 91 yn 2023.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar yr un pryd, bu cynnydd o 8.3% yn nifer y profion a gynhaliwyd, gyda mwy na 133,000 o bobl yn cael eu profi am HIV. Roedd bron i un rhan o bump o bobl yn defnyddio gwasanaeth profi gartref am ddim, naill ai drwy&#8217;r gwasanaeth profi a phostio ar-lein neu drwy gasglu pecyn profi o leoliad cymunedol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae presgripsiynau ar gyfer meddyginiaeth atal ar eu lefel uchaf ers 2020.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwelwyd cynnydd o fwy na 4% yn nifer y bobl sy&#8217;n cymryd meddyginiaeth PrEP (Proffylacsis Cyn-gysylltiad), sydd, o&#8217;i gymryd yn gywir, yn gallu atal trosglwyddiadau o HIV.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r cynnydd yn nifer y bobl sy&#8217;n cymryd PrEP yn cyd-fynd \u00e2&#8217;r duedd am i lawr yn nifer yr achosion newydd o HIV yn y DU, yn enwedig ymhlith dynion hoyw a deurywiol sy&#8217;n cael rhyw gyda dynion. Er y gall bron pawb ddefnyddio PrEP, dynion yw 98% o&#8217;r bobl sy&#8217;n ei gymryd, ac mae mwy na thraean ohonynt yn y gr\u0175p oedran 25 i 34 oed.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae Cymru yn gwneud cynnydd calonogol tuag at ein huchelgais o ddim trosglwyddiadau newydd o HIV erbyn 2030 drwy ein Cynllun Gweithredu HIV uchelgeisiol, sy&#8217;n cynnwys creu mwy o fynediad at brofion, hyrwyddo dulliau atal a mynd i&#8217;r afael \u00e2 stigma.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Rwy&#8217;n falch o weld y data diweddaraf hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy&#8217;n dangos cynnydd yn nifer y bobl sy&#8217;n profi am HIV a chynnydd yn nifer y bobl sy&#8217;n cymryd PrEP.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae&#8217;r gostyngiad sylweddol yn nifer y rhai sy&#8217;n cael diagnosis newydd o HIV yn rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd yr Athro Daniel Thomas, epidemiolegydd ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae&#8217;r adroddiad hwn yn dangos bod Cymru yn gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau trosglwyddiadau newydd o HIV, tra mae lefelau atal a thriniaeth ar eu huchaf erioed.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Dyma enghraifft wych o sut mae rhoi blaenoriaeth i atal yn gweithio \u2013 gan helpu pobl i fyw bywydau iachach.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae&#8217;r data a gafodd ei ryddhau heddiw yn dangos y gall profion rheolaidd \u2013 yn flynyddol fel arfer \u2013 a&#8217;r defnydd priodol o PrEP a meddyginiaethau gwrth-retrofeirysol wneud gwahaniaeth dramatig o ran lleihau trosglwyddiadau o HIV a sicrhau bod pawb yn gallu byw bywyd normal gyda diagnosis positif.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae profi bellach yn haws nag erioed \u2013 mae&#8217;r gwasanaeth profi a phostio poblogaidd ar gael ar-lein gan Iechyd Rhywiol Cymru. Erbyn hyn, mae&#8217;r gwasanaeth profi rhad ac am ddim hwn hefyd ar gael gan nifer o leoliadau cymunedol, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol ond hefyd rai llyfrgelloedd, undebau myfyrwyr a gwasanaethau cymorth&#8217;.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Richard Angell OBE, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Terrence Higgins:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae data heddiw yn dangos bod cynnydd gwirioneddol wedi&#8217;i wneud tuag at roi terfyn ar achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030. Mae&#8217;r nifer sy&#8217;n cymryd PrEP wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers y pandemig ac mae cyfraddau profi am HIV wedi cynyddu. Mae&#8217;r ffaith ein bod yn profi mwy o bobl ond yn dod o hyd i lai o achosion yn dangos tuedd galonogol.<br><br>&#8216;Mae Cymru wedi arwain y ffordd wrth gyflwyno pecynnau profi gartref am HIV a heintiau sy&#8217;n cael eu trosglwyddo&#8217;n rhywiol i bawb yn y wlad ac, o&#8217;u cyfuno \u00e2&#8217;r rhaglenni brechu ar gyfer gonorea a brech M a doxyPEP, mae hyn yn golygu bod gan y cyhoedd yng Nghymru adnoddau newydd a phrofedig i reoli eu hiechyd rhywiol.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae&#8217;n rhaid inni gadw ein troed ar y sbardun i ysgogi&#8217;r cynnydd hwn a gweithio i sicrhau bod pawb sy&#8217;n byw gyda HIV yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i fyw&#8217;n dda, heb stigma.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae data newydd yn dangos gostyngiad sylweddol o 20% mewn achosion newydd o HIV yng Nghymru y llynedd, gan fod mwy o bobl nag erioed wedi cael eu profi. Mae&#8217;r data diweddaraf yn adroddiad blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar HIV, sy&#8217;n cael ei gyhoeddi heddiw, ddydd Mercher 5 Tachwedd, yn dangos bod nifer y rhai [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":1331,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-3251","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3251","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3251"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3251\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3263,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3251\/revisions\/3263"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1331"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3251"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3251"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3251"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}