{"id":368,"date":"2021-05-12T10:01:23","date_gmt":"2021-05-12T10:01:23","guid":{"rendered":"https:\/\/tht.cymru\/en\/?p=368"},"modified":"2023-11-16T10:30:16","modified_gmt":"2023-11-16T10:30:16","slug":"marlons-tiktok-mission-to-educate-young-people-about-hiv","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/marlons-tiktok-mission-to-educate-young-people-about-hiv\/","title":{"rendered":"Cenhadaeth TikTok Marlon i addysgu pobl ifanc am HIV"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"833\" src=\"http:\/\/tht.cymru\/en\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/marlon-van-der-mark-1024x833.jpeg\" alt=\"Marlon Van Der Mark\" class=\"wp-image-369\" style=\"aspect-ratio:1;width:840px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/marlon-van-der-mark-1024x833.jpeg 1024w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/marlon-van-der-mark-300x244.jpeg 300w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/marlon-van-der-mark-768x624.jpeg 768w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2023\/07\/marlon-van-der-mark.jpeg 1134w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Mae Jordan Page yn siarad \u00e2 Marlon Van Der Mark o Gaerdydd, dyn 23 oed sydd wedi bod yn byw gyda HIV am y pedair blynedd diwethaf &#8211; ond sydd wedi rhannu ei statws \u00e2&#8217;r byd yn ddiweddar. Ers gwylio It\u2019s A Sin, mae wedi gosod ei hun ar genhadaeth i addysgu pobl ifanc am realiti byw gyda HIV heddiw.<\/em><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>\u2018TikTok oedd y lle cyntaf i mi ddweud erioed \u201cRwy\u2019n HIV positif\u201d yn uchel. Allwn i byth ei ddweud o\u2019r blaen,\u2019 meddai Marlon, a gafodd ddiagnosis o HIV yn 20 oed yn unig.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Pe bawn i gartref ac yn gorfod siarad am fy statws HIV \u2013 hyd yn oed os oedd eisoes gyda rhywun yn y t\u0177 \u2013 byddai\u2019n rhaid i mi anfon neges destun atynt. Roeddwn i\u2019n teimlo gormod o gywilydd i\u2019w ddweud yn uchel.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd Marlon ddiagnosis o HIV ar \u00f4l cael ei dderbyn i&#8217;r ysbyty oherwydd haint firaol, ac I ddechrau y credwyd mai septisemia ydoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Roedden nhw\u2019n gofyn am fy nghaniat\u00e2d i brofi am HIV , ac i ddechrau fe wrthodes i\u2013 roeddwn i\u2019n meddwl nad oes unrhyw ffordd y gallai fod yn HIV\u2026 Ond fe wnes i ildio, a dyna pryd ges i\u2019r diagnosis.<br>\u2018Roeddwn i\u2019n hollol ar fy mhen fy hun pan glywais i, ac fe wnes i ei gadw i mi fy hun am y misoedd cyntaf. Roedd ofn cael fy ngwrthod yn ormod \u2013 roeddwn i\u2019n gwrthod fy hun felly roedd yn hawdd ofni gwrthodiad fy nheulu.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Marlon yn cyffelybu rhannu ei statws HIV gyda\u2019i deulu \u00e2 dod allan fel dyn hoyw: \u2018Roedd dod allan fel dyn hoyw yn teimlo\u2019n llawer haws nag yr oeddwn i\u2019n meddwl. Ond pan wnes i ddarganfod fy mod yn byw gyda HIV meddyliais, \u201cAi hwn fyddai&#8217;r diwedd? A fyddai\u2019r drws ar gau yn fy wyneb?\u201d \u2026 Roedd yn bryder mawr i mi.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>Er gwaethaf dechrau triniaeth effeithiol ar unwaith, datblygodd Marlon obsesiwn \u00e2 glanhau ei hun i gael gwared ar HIV.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Roeddwn i\u2019n teimlo\u2019n fudr \u2013 yn fudr iawn. Fy ngobaith oedd po fwyaf y byddwn yn glanhau, y gorau y byddwn yn teimlo. Ceisiais a cheisiais, cael cawod dair neu bedair gwaith y dydd, ond nid oedd byth yn gweithio. Roedd yn rhaid i mi geisio cymorth ar ei gyfer yn y diwedd, roeddwn i&#8217;n sgwrio fy nghorff cymaint roedd gen i ddoluriau dros fy nghorff i gyd.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p>Rhag ofn trosglwyddo&#8217;r firws, dechreuodd Marlon rannu ei statws gyda ffrindiau. \u2018Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y firws ac roedd arna\u2019 i ofn y byddwn i\u2019n ei drosglwyddo iddyn nhw.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Roeddwn i&#8217;n darllen cymaint ar-lein &#8211; pobl yn dweud bod \u201cpobl sy&#8217;n byw gyda HIV yn afiechyd, yn hynod heintus, yn fudr,\u201d\u2026 roeddwn i&#8217;n ofni pe bai gen i gymaint \u00e2 thoriad ar fy llaw byddwn yn ei drosglwyddo, felly fe ddywedais wrthynt. Roedden nhw\u2019n iawn ag e, ond hyd yn oed os oedden nhw, doeddwn i ddim.\u2019<br>Pan rannodd Marlon ei statws gyda&#8217;i deulu agos, credai ei fam yn gyntaf ei fod yn cellwair.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Fe geisiodd hi chwerthin, ond rwy\u2019n meddwl mai\u2019r rheswm am hynny oedd ei bod wedi cael cymaint o ofn a sioc.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n dweud wrthyf iddi dyfu i fyny gyda phobl a oedd yn byw gyda HIV, a bu farw un o&#8217;i ffrindiau agosaf yn y pen draw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Dyna ei hatgof olaf o HIV\u2026 Pan fydd rhywun yn dweud wrthych eu bod yn HIV positif, dydych chi ddim yn meddwl am yr holl feddyginiaeth sydd ar gael. Nid dyna sy&#8217;n dod i&#8217;r meddwl. Rydych chi&#8217;n mynd yn syth nol i&#8217;r HIV yn yr 1980au.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-css-opacity is-style-default\"\/>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-text-align-center is-style-large is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-left\">&#8220;Rwy bob amser yn gweld pobl h\u0177n yn siarad am eu bywydau gyda HIV, ond rwy\u2019n meddwl bod angen I\u2019r genhedlaeth iau gael rhywbeth i uniaethu ag ef.&#8221;<\/p>\n<cite>\u2014 <em>Marlon Van Der Mark<\/em><\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-css-opacity is-style-default\"\/>\n\n\n\n<p>Ond portread anhygoel Russell T Davies o\u2019r union gyfnod hwnnw a daniodd symudiad Marlon tuag at dderbyn a rhannu ei fywyd gyda HIV gyda\u2019r byd ehangach.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Mae It\u2019s A Sin wedi fy ngadael i mewn sioc. Cefais fy syfrdanu. Dysgais i bethau na wyddwn i erioed, fel pa mor ynysig oedd pobl sy\u2019n byw gyda HIV.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Fe wnaeth I mi fod yn ddiolchgar fy mod yn byw yn yr oes sydd ohoni gyda\u2019r feddyginiaeth, yr ymchwil a\u2019r gefnogaeth sydd gennym. Mae\u2019n gwneud i mi deimlo mor ddiolchgar i wybod pa mor hawdd yw hi heddiw, hyd yn oed os ydych chi weithiau\u2019n dod ar draws y lleiafrif o bobl ag agweddau negyddol.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Es i drwy gyfnod lle rhoddais y gorau i gymryd fy meddyginiaeth oherwydd byddai\u2019n well gennyf i\u2019r firws wneud yr hyn y mae ei eisiau i mi na cheisio brwydro yn ei erbyn\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Ar \u00f4l gwylio It\u2019s A Sin roeddwn i\u2019n teimlo mor hunanol \u2013 chawson nhw erioed y dewis hwnnw. Cafodd y gyfres effaith fawr arna i, mewn ffordd dda iawn.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Marlon eisiau i bobl sy&#8217;n gwylio&#8217;r gyfres sylweddoli ei bod wedi&#8217;i gosod yn y gorffennol, ac i beidio \u00e2&#8217;i drysu \u00e2&#8217;r oes fodern.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydyn ni wedi dod mor bell \u00e2 HIV \u2013 rydyn ni\u2019n cael triniaeth effeithiol nawr ac rydyn ni\u2019n gallu byw bywydau normal\u2026 rydw i eisiau i bobl sylweddoli bod HIV yn dal i fod yn beth mawr. Dydw i ddim eisiau i bobl golli\u2019r stori y tu \u00f4l iddo.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cByddwn i wrth fy modd yn gweld rhywbeth ar y teledu am bobl sy\u2019n byw gyda HIV heddiw.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Ers gwylio It\u2019s A Sin, mae Marlon wedi siarad am ei fywyd gyda HIV gyda WalesOnline ac wedi dechrau postio fideos am HIV ar blatfform rhannu fideos TikTok, gydag un fideo yn derbyn 150k o ymweliadau o fewn 24 awr.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth I mi ofyn i Marlon am y stigma y mae\u2019n ei wynebu, mae\u2019n ochneidio: \u2018Rydw i wedi bod yn aros am hyn.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Roedd rhai o\u2019r sylwadau ar y fideo yn ddrwg iawn. Cefais fy ngalw&#8217;n fudr, cefais fygythiadau marwolaeth, dywedwyd wrthyf y dylwn gael fy ysbaddu, bod angen fy rhoi mewn siambr, y dylwn gael fy rhoi i gysgu \u2026 Petawn yn agor TikTok ar fy ff\u00f4n ar hyn o bryd gallaf warantu byddai rhywun yn dweud rhywbeth.&#8217;<br>Ond mae Marlon eisiau ei gwneud hi&#8217;n glir nad yw&#8217;r cyfan wedi bod yn negyddol.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Dw i wedi cael llawer o gefnogaeth wrth fod yn agored \u2013 rydw i mor ddiolchgar am ba mor ffein mae pobl wedi bod. Mae&#8217;r da yn gorbwyso&#8217;r drwg, hyd yn oed os oes mwy o ddrwg na da &#8211; mae&#8217;r da yn gwneud ichi anghofio amdano.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Rwy wedi cael pobl yn dod ataf a dweud wrthyf am eu diagnosis newydd, yn dweud wrthyf nad ydynt yn gwybod beth i&#8217;w wneud neu beth i&#8217;w ddweud &#8211; maent yn dod ataf yn gyntaf ac yn ymddiried ynof, ac mae wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod yn gwneud rhywbeth da ac yn helpu pobl.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p>Sut mae Marlon yn meddwl y gallwn fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r stigma y mae pobl sy&#8217;n byw gyda HIV yn ei wynebu, a chyrraedd ein nod o ddod \u00e2 throsglwyddiadau newydd i ben erbyn 2030.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Petawn I\u2019n cael fy ffordd, byddai\u2019n cael ei ddysgu mewn ysgolion. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd HIV nes i mi ei ddal. Mae pobl yn gofyn imi, \u201cSut na wyddech chi?\u201d wel, oherwydd ni sonnir amdano. Gallwch chi droi\u2019r teledu ymlaen a gweld hysbysebion am atal cenhedlu a chondomau, ond does dim byd am HIV.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Dim ond nifer penodol o bobl sydd ar TikTok, ar gyfryngau cymdeithasol, a dim ond nifer penodol o bobl sy\u2019n darllen y papurau neu\u2019n gwylio\u2019r teledu. Mae angen inni roi pwyslais ar addysgu pobl am HIV mewn ysgolion.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Rwy\u2019n meddwl y dylai pobl sy\u2019n byw gyda HIV siarad am y peth, mae\u2019n agoriad llygad i bobl\u2026 dwi bob amser yn gweld pobl h\u0177n yn siarad am eu bywydau gyda HIV, ond rwy\u2019n meddwl bod angen I\u2019r genhedlaeth iau gael rhywbeth I uniaethu ag ef.. Dydyn ni ddim yn ei weld ynom ni. Yn enwedig o fewn y gymuned hoyw \u2013 mae llawer o bobl i\u2019w gweld yn meddwl mai dim ond pobl h\u0177n sy\u2019n ei gael, sydd ddim yn wir.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Mae yna lawer o gam-gyfathrebu o hyd yngl\u0177n \u00e2 HIV. Rwy&#8217;n cael llawer o bobl yn rhoi sylwadau \u201cRIP\u201d neu \u201cmor drist rydyn ni&#8217;n mynd i&#8217;ch colli chi&#8217;n fuan\u201d ar fy fideos \u2026 dydw I ddim yn gwneud y fideos yma jyst I fi fy hun, ond rydw i eisiau addysgu a helpu eraill.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Mae gen i bobl eraill y mae angen i mi barhau i wneud hyn ar eu cyfer &#8211; mae pobl wedi ymddiried ynof ac yna wedi mynd i gael diagnosis neu wedi dechrau eu meddyginiaeth. Rydw i eisiau dal ati oherwydd mae pobl allan yna angen fy nghefnogaeth.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Dydw i ddim yn mynd i stopio\u2026 All dim fy rhwystro.\u2019<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydyn ni&#8217;n siarad \u00e2 Marlon, 23 oed, a gafodd ei ysbrydoli gan It&#8217;s A Sin i bostio fideos ar TikTok am fyw gyda HIV.<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":369,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-368","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/368","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=368"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/368\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1192,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/368\/revisions\/1192"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/369"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=368"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=368"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=368"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}