{"id":3691,"date":"2026-01-29T12:46:24","date_gmt":"2026-01-29T12:46:24","guid":{"rendered":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/?p=3691"},"modified":"2026-01-29T16:00:05","modified_gmt":"2026-01-29T16:00:05","slug":"arddangos-cwilt-coffa-aids-terry-higgins-yng-nghymru-am-y-tro-cyntaf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/arddangos-cwilt-coffa-aids-terry-higgins-yng-nghymru-am-y-tro-cyntaf\/","title":{"rendered":"Arddangos Cwilt Coffa AIDS Terry Higgins yng Nghymru am y tro cyntaf"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"10651\" height=\"10955\" src=\"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Higgins_Gallery_cropped.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3693\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Bydd cwilt i gofio Terry Higgins, un o&#8217;r bobl gyntaf yn y DU i farw o afiechyd yn gysylltiedig ag AIDS, yn cael ei ddangos yn oriel \u2060Cymru\u2026 yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru o 29 Ionawr 2026.<\/p>\n\n\n\n<p>Gannwyd Terrence Higgins, neu Terry i chi a fi, \u2060yn Sir Benfro yn 1945. \u202fCafodd ei fagu yn Hwlffordd, cyn symud i Lundain. Ar \u00f4l iddo farw yn Ysbyty Sant Thomas yn Llundain ar 4 Gorffennaf 1982, sefydlwyd elusen yn ei enw fyddai&#8217;n newid cwrs yr epidemig HIV ac yn arbed miloedd o fywydau.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhyrchwyd y cwilt, sydd ar fenthyg gan Ymddiriedolaeth Terry Higgins, i nodi 40 mlynedd ers ei farw a dathlu ei ddylanwad rhyfeddol. Mae&#8217;r wyth panel yn dathlu gwahanol rannau o&#8217;i fywyd, fel Cymro, dyn hoyw, ac aelod o&#8217;r Llynges Frenhinol. Yn ogystal \u00e2 phaneli yn dathlu ei ffrindiau a Pride LHDTQ+ mae teyrnged bersonol gan ei bartner, Rupert. Cynhyrchwyd y panel olaf gan ddefnyddwyr, gwirfoddolwyr, a staff Ymddiriedolaeth Terrence Higgins i ddathlu&#8217;r gwelliannau rhyfeddol yn y frwydr yn erbyn HIV dros y 40 mlynedd diwethaf.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Mark Etheridge, Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTQ+ yn Amgueddfa Cymru<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae&#8217;n fraint arddangos Cwilt Coffa AIDS Terry Higgins yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru &#8211; y tro cyntaf i&#8217;r cwilt gael ei arddangos yng Nghymru. Effeithiodd yr epidemig HIV\/AIDS ar fywydau cenhedlaeth gyfan, yn enwedig bywydau dynion hoyw. Does dim gwellhad llawn o hyd, ond mae triniaeth effeithiol yn golygu gall pobl gyda HIV fyw bywydau hir ac iach, heb basio&#8217;r afiechyd ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bwysig bod straeon LHDTC+ yn dod yn rhan o&#8217;n cof cenedl, gan sicrhau y gall cenedlaethau&#8217;r dyfodol ddysgu am hanes a diwylliant LHDTC+ yng Nghymru.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Richard Angell OBE, Prifweithredwr Terrence Higgins Trust:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Roedd Terry yn Gymro i&#8217;r carn oedd yn byw yn ei famwlad am dros hanner ei fywyd. Mae&#8217;n wych bod ei ddylanwad yn cael ei dathlu yn amgueddfa genedlaethol Cymru. Roedd sawl agwedd o&#8217;i fywyd yn rhyfeddol ond bydd ei brofiadau &#8211; o&#8217;i fagwraeth mewn tref fechan, i ganfod ei hunaniaeth a&#8217;i gymuned yng nghanol bwrlwm ei hoff gerddoriaeth &#8211; yn gyffredin i bawb, yn enwedig pobl cwiar.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fu farw Terry, doedd dim prawf am HIV, hab s\u00f4n am driniaeth. Nawr, mae gan Gymru gyfle i fod y wlad gyntaf yn y byd i stopio unrhyw achosion HIV newydd. Ein dyletswydd ni dros Terry, a phawb arall rydyn ni wedi&#8217;u colli, yw gwireddu&#8217;r freuddwyd hon.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2&#8217;r cwilt bydd cyfle i weld portread o Terry gan yr artist Nathan Wyburn sy&#8217;n rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru. \u2060 Mae&#8217;r portread wedi&#8217;i greu o stampiau inc ar si\u00e2p logo calon Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, gyda&#8217;r lliwiau coch a gwyrdd yn cyfleu gwreiddiau Cymreig Terry.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cwilt Coffa AIDS Terry Higgins i&#8217;w weld yn oriel <em>Cymru<\/em>\u2026 rhwng 29 Ionawr a 29 Mehefin 2026. \u2060Bydd y portread i&#8217;w weld rhwng 29 Ionawr a 27 Ebrill 2026.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch chi weld rhagor o wrthrychau sy&#8217;n ymwneud \u00e2 hanes LHDT+ yn Nhymru yng nghasyn parhaol \u2060<em>Cymru\u2026 Balchder<\/em> yn yr oriel.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd cwilt i gofio Terry Higgins, un o&#8217;r bobl gyntaf yn y DU i farw o afiechyd yn gysylltiedig ag AIDS, yn cael ei ddangos yn oriel \u2060Cymru\u2026 yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru o 29 Ionawr 2026. Gannwyd Terrence Higgins, neu Terry i chi a fi, \u2060yn Sir Benfro yn 1945. \u202fCafodd ei fagu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":3693,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-3691","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3691","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3691"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3691\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3695,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3691\/revisions\/3695"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3693"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3691"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3691"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3691"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}