{"id":3949,"date":"2026-02-27T15:13:06","date_gmt":"2026-02-27T15:13:06","guid":{"rendered":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/?p=3949"},"modified":"2026-02-27T15:14:31","modified_gmt":"2026-02-27T15:14:31","slug":"gyda-thristwch-mawr-y-maer-terrence-higgins-trust-yn-cyhoeddi-marwolaeth-sydyn-ein-cyd-sylfaenydd-ein-noddwr-an-ffrind-martyn-butler-obe","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/gyda-thristwch-mawr-y-maer-terrence-higgins-trust-yn-cyhoeddi-marwolaeth-sydyn-ein-cyd-sylfaenydd-ein-noddwr-an-ffrind-martyn-butler-obe\/","title":{"rendered":"Gyda thristwch mawr y mae\u2019r Terrence Higgins Trust yn cyhoeddi marwolaeth sydyn ein cyd-sylfaenydd, ein noddwr a\u2019n ffrind, Martyn Butler OBE"},"content":{"rendered":"\t\t<div data-elementor-type=\"wp-post\" data-elementor-id=\"3949\" class=\"elementor elementor-3949\" data-elementor-post-type=\"post\">\n\t\t\t\t\t\t<section class=\"elementor-section elementor-top-section elementor-element elementor-element-6e7505ae elementor-section-boxed elementor-section-height-default elementor-section-height-default\" data-id=\"6e7505ae\" data-element_type=\"section\" data-e-type=\"section\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-container elementor-column-gap-default\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-column elementor-col-100 elementor-top-column elementor-element elementor-element-467c7493\" data-id=\"467c7493\" data-element_type=\"column\" data-e-type=\"column\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-widget-wrap elementor-element-populated\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-2d4743b3 elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"2d4743b3\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t\n<p><em>Yn arwain y teyrngedau i Martyn mae ei frawd, Guy Hewett, cyn-gapten y Llewod Gareth Thomas CBE, y Gwir Anrhydeddus Wes Streeting, Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Jeremy Miles AS Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yr Aelod Seneddol lleol Jessica Morden, Tony Whitehead MBE, cadeirydd cyntaf y Terrence Higgins Trust a Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust, yr elusen a gydsefydlodd Martyn ym 1982.<\/em>\u202f<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" class=\"wp-image-3953\" src=\"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/Martyn-Butler.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/Martyn-Butler.jpg 1024w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/Martyn-Butler-300x200.jpg 300w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/Martyn-Butler-768x512.jpg 768w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-center\"><strong>Martyn Butler OBE &#8211; 30 Gorffennaf 1954-21 Chwefror 2026<\/strong><\/h2>\n\n<p>Cafodd Martyn ei eni a&#8217;i fagu yng Nghasnewydd cyn symud i Lundain yn y 1970au i weithio ym myd hysbysebu, sinema ac adloniant. Ar y s\u00een hoyw cyfarfu \u00e2&#8217;i gyd-Gymro Terry Higgins. Byddent yn mynd ymlaen i weithio yng nghlwb nos Heaven gyda&#8217;i gilydd, Martyn ar y lasers a Terry ar y deciau.\u202f\u00a0<\/p>\n\n<p>Pan ddaeth Terry y person cyntaf i farw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS yn y DU, ymunodd Martyn \u00e2 chariad Terry, Rupert Whitaker, i greu sefydliad ymateb i HIV cyntaf Ewrop. Cr\u00ebwyd y Terrence Higgins Trust ym 1982 i ddyneiddio&#8217;r epidemig, cefnogi pobl a oedd yn byw gydag AIDS a rhannu&#8217;r wybodaeth a fyddai&#8217;n atal trosglwyddo HIV.\u202f\u00a0<\/p>\n\n<p>Martyn drefnodd y sesiwn codi arian gyntaf \u2013 gan godi \u00a3400 (\u00a31400 yn nhermau arian heddiw). Aeth ati i siarad yn y gynhadledd AIDS gyntaf a drefnwyd gan y Gay Switchboard a&#8217;r Gay Medics Association, dyluniodd taflen gyntaf y Terrence Higgins Trust ac ym 1983 defnyddiodd ei rif ff\u00f4n cartref fel y llinell gymorth AIDS gyntaf.\u202f\u00a0<\/p>\n\n<p>Am bum degawd mae wedi cefnogi\u2019r Terrence Higgins Trust, pobl sy&#8217;n byw gyda HIV, ac wedi brwydro dros hawliau LHDT. Ym mis Mehefin 2022, cydnabu\u2019r Frenhines Elizabeth II gyfraniad enfawr Martyn gydag OBE a dyfarnwyd &#8216;Gwobr Cyflawniad Oes&#8217; Rainbow Honours iddo yn yr un flwyddyn. Mae stori Martyn wedi&#8217;i hanfarwoli yn nrama Russell T. Davies, <em>It&#8217;s a Sin<\/em>, a gadawodd rhestr chwarae o&#8217;i hoff ganeuon ef a Terry o&#8217;u cyfnod yng nghlwb Heaven: <a href=\"https:\/\/open.spotify.com\/playlist\/0QPW3RBg7ENAJFvqHedC1Q\"><strong>Gwrandewch ar restr chwarae The Spirit of Heaven ar Spotify.<\/strong><\/a>\u00a0<\/p>\n\n<p>Mae&#8217;n gadael ei fam Diane, ei frodyr iau Guy, Andrew a&#8217;i chwaer Jacqueline.<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Guy Hewett, brawd Martyn:<\/strong><\/p>\n\n<p>&#8216;Roedd Martyn yn fab a brawd yn gyntaf, dyna sut y byddwn ni&#8217;n ei gofio. Rydyn ni wedi torri&#8217;n calonnau o&#8217;i golli mor sydyn ond yn llawn balchder am bopeth a gyflawnodd. \u00a0<\/p>\n\n<p>\u2018Roedd yn ystyried hysbysu&#8217;r wlad, ac yn enwedig y gymuned hoyw, o&#8217;r ychydig wybodaeth a oedd ar gael am HIV ac AIDS ddechrau&#8217;r 1980au, fel dyletswydd. Roedd mor falch o\u2019r hyn yw\u2019r Terrence Higgins Trust erbyn heddiw, ac roedd yn rhan o&#8217;r elusen tan y diwedd un. Galar yw pris ofnadwy cariad, ond rydyn ni&#8217;n gwybod y bydd ei waddol yn para am byth.&#8217;<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Gareth &#8216;Alfie&#8217; Thomas CBE, cyn-chwaraewr rygbi Cymru a&#8217;r Gweilch a chyn-gapten y Llewod a noddwr y Terrence Higgins Trust:<\/strong><\/p>\n\n<p>&#8216;Wrth sefydlu&#8217;r Terrence Higgins Trust, cyflwynodd Martyn Butler naws Gymreig i waith sefydliad a oedd wedi\u2019i gyflwyno i\u2019w gyd-Gymro. Roedd yn arloeswr a lynodd at y nod o gefnogi pobl sy&#8217;n byw gyda HIV am bum degawd. Byddaf yn cofio ei w\u00ean am byth, a byddwn ni&#8217;n parhau \u00e2&#8217;r frwydr er cof amdano.&#8217;<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Wes Streeting, Aelod Seneddol a\u2019r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:<\/strong>\u00a0<\/p>\n\n<p>&#8216;Roedd Martyn Butler yn ymgyrchydd brwd dros bobl sy&#8217;n byw gyda HIV. Roedd ganddo&#8217;r weledigaeth i sefydlu\u2019r Terrence Higgins Trust a&#8217;r craffter i&#8217;w enwi ar \u00f4l ei ffrind er mwyn rhoi&#8217;r ochr ddynol i epidemig AIDS, sydd wedi siapio ymateb y DU i HIV.\u202f\u00a0<\/p>\n\n<p>&#8216;Fel Ysgrifennydd Iechyd, roedd yn fraint i mi fod yn rhan o&#8217;i bumed degawd o hyrwyddo dulliau atal HIV, cefnogi a chofio. Rydyn ni&#8217;n ddyledus iddo am byth a bydd ei waddol yn parhau&#8217;.<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Jeremy Miles, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn Llywodraeth Cymru:<\/strong>\u00a0<\/p>\n\n<p>&#8216;Cwta dri mis yn \u00f4l yr aeth Martyn Butler a minnau ati i ddadorchuddio plac glas yn Hwlffordd ar gyfer Terry Higgins. Siaradodd yn wylaidd am ei ffrind a&#8217;i angerdd yn ystod y 43 mlynedd ddilynol. Am golli cymaint o ffrindiau, y cynnydd mewn hawliau LHDT a&#8217;r datblygiadau mewn gofal, triniaeth ac atal HIV.\u202f\u00a0<\/p>\n\n<p>&#8216;Roedd yn llais grymus pan oedd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu ei Chynllun Gweithredu ar HIV ei hun. Er mwyn Martyn, rhaid inni fodloni&#8217;r uchelgais hwn: rhoi terfyn ar achosion newydd o HIV a bod y wlad gyntaf i wneud hynny.&#8217;<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Jessica Morden, Aelod Seneddol Dwyrain Casnewydd:<\/strong>\u00a0<\/p>\n\n<p>&#8216;Rwy&#8217;n drist iawn o glywed am farwolaeth Martyn. Dyn annwyl y cefais y fraint enfawr o ddod i&#8217;w nabod fel etholwr.\u00a0\u00a0<\/p>\n\n<p>&#8216;Defnyddiodd ei rif ff\u00f4n cartref ei hun fel y llinell gymorth AIDS gyntaf ym 1983 a daeth yn ymgyrchydd diflino, gydol oes a phenderfynol i helpu&#8217;r rhai sy&#8217;n byw gyda HIV ac wedi&#8217;u heffeithio ganddo. Dyn ysbrydoledig a hyfryd dros ben.&#8217;<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Tony Whitehead MBE, cadeirydd cyntaf y Terrence Higgins Trust:<\/strong>\u00a0<\/p>\n\n<p>&#8216;Clywed Martyn Butler yn siarad yn y Gynhadledd AIDS gyntaf yn Conway Hall a&#8217;m hysgogodd i ymuno \u00e2\u2019r Terrence Higgins Trust. Cefais fy ysbrydoli gan ei ddewrder i siarad a&#8217;i benderfyniad i wneud pethau.\u00a0\u00a0<\/p>\n\n<p>&#8216;Roedd ef a llond llaw o\u2019i ffrindiau wedi bod yn codi arian fel slecs yng nghlwb nos Heaven ac ati, ond ar yr achlysur hwn, anfonodd alwad i&#8217;r gymuned i gymryd rhan a llywio&#8217;r epidemig. Diolch byth, dilynodd cymaint ei esiampl. Bydd colled enfawr ar ei \u00f4l.&#8217;<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Rupert Whitaker OBE am ei gyd-sylfaenydd o\u2019r Terrence Higgins Trust:<\/strong><br \/><br \/>\u2018Dangosodd Martyn y gall pobl gyffredin wneud pethau anghyffredin gyda digon o ofal ac angerdd \u2013 ac fe wnaethon ni ddilyn ei esiampl benderfynol. Doedd e ddim yn ddyn mawreddog, yn hytrach roedd yn wylaidd, direidus, brwdfrydig, ymroddedig, a gofalgar dros ben. Yn ei ddegawd olaf, dechreuodd ffynnu o&#8217;r diwedd yn y cynhesrwydd, y parch a&#8217;r cariad yr oedd wir yn eu haeddu&#8217;.<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust:<\/strong><\/p>\n\n<p>\u2018Torcalon oedd clywed y newyddion bod Martyn Butler wedi marw&#8217;n sydyn. Daw ei farwolaeth fel sioc i gynifer ohonom: roedd i fod i siarad mewn digwyddiad gan y Terrence Higgins Trust ddydd Gwener nesaf.\u00a0<\/p>\n\n<p>&#8216;Fyddai\u2019r Terrence Higgins Trust yn sicr ddim wedi bodoli oni bai am Martyn. O ran y sefydliad a phobl sy&#8217;n byw gyda HIV, doedd dim byd yn ormod o drafferth iddo. O&#8217;n hymgyrch codi arian gyntaf, i\u2019n digwyddiad siarad cyhoeddus cyntaf a&#8217;n taflen gyntaf, i orymdeithio yn Pride Caerdydd, dadorchuddio plac glas Terry Higgins yn Hwlffordd a siarad \u00e2&#8217;r cyfryngau, mae Martyn wedi cerdded gyda ni bob cam o&#8217;r ffordd. Bydd hiraeth mawr am Martyn yma yn y Terrence Higgins Trust a bydd ei fam, ei frodyr a&#8217;i chwiorydd a&#8217;r ffrindiau a oedd mor lwcus i dreulio amser yn ei gwmni yn gweld ei eisiau\u2019n fawr iawn.\u202f\u00a0<\/p>\n\n<p>&#8216;Roedd yn benderfynol, yn llawn ysbryd a doedd byth yn cymryd &#8216;na&#8217; fel ateb. Roedd ganddo galon enfawr ac roedd hefyd yn ddewr \u2013 gan roi ei rif ff\u00f4n cartref fel y llinell gymorth AIDS gyntaf ym 1983. Roedd hefyd yn ofalgar, ac yn ysbrydoliaeth i bobl fyddar eraill ym mhob cwr. Bydd colled enfawr ar ei \u00f4l.&#8217;<\/p>\n\n<p><strong>Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Nick Thomas-Symonds, Gweinidog Swyddfa&#8217;r Cabinet:<\/strong><\/p>\n\n<p>&#8216;Neilltuodd Martyn ei fywyd i gefnogi ac ymladd dros y rhai \u00e2 HIV. Fe wnaeth ei ymroddiad anhunanol drawsnewid y ffordd y mae&#8217;r DU yn trin salwch a gludir gan waed.<\/p>\n\n<p>&#8216;Fel Gweinidog sy&#8217;n goruchwylio brwydr dros gyfiawnder yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig, mae&#8217;n anrhydedd o fod wedi gweithio gyda Martyn i sefydlu&#8217;r cynllun iawndal cyntaf. Bydd ei gof a&#8217;i waddol yn para am byth.\u2019<\/p>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-e33ac00 elementor-widget elementor-widget-button\" data-id=\"e33ac00\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"button.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-button-wrapper\">\n\t\t\t\t\t<a class=\"elementor-button elementor-button-link elementor-size-lg\" href=\"https:\/\/tht.tributefunds.org.uk\/In-Memory\/Martyn-Butler-OBE\">\n\t\t\t\t\t\t<span class=\"elementor-button-content-wrapper\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<span class=\"elementor-button-text\">Cyfrannu at gronfa deyrnged Martyn Butler OBE<\/span>\n\t\t\t\t\t<\/span>\n\t\t\t\t\t<\/a>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-a55a0fb elementor-widget elementor-widget-button\" data-id=\"a55a0fb\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"button.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-button-wrapper\">\n\t\t\t\t\t<a class=\"elementor-button elementor-button-link elementor-size-lg\" href=\"https:\/\/tht.org.uk\/about-us\/our-history\/martyn-butler-obe-co-founder-terrence-higgins-trust-his-own-words-1-december-2025\">\n\t\t\t\t\t\t<span class=\"elementor-button-content-wrapper\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<span class=\"elementor-button-text\">Martyn Butler OBE yn ei eiriau ei hun<\/span>\n\t\t\t\t\t<\/span>\n\t\t\t\t\t<\/a>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/section>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn arwain y teyrngedau i Martyn mae ei frawd, Guy Hewett, cyn-gapten y Llewod Gareth Thomas CBE, y Gwir Anrhydeddus Wes Streeting, Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Jeremy Miles AS Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yr Aelod Seneddol lleol Jessica Morden, Tony Whitehead MBE, cadeirydd cyntaf y Terrence Higgins Trust a Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":3955,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-3949","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3949","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3949"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3949\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3977,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3949\/revisions\/3977"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3955"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3949"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3949"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3949"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}