{"id":3981,"date":"2026-03-04T09:52:12","date_gmt":"2026-03-04T09:52:12","guid":{"rendered":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/?p=3981"},"modified":"2026-03-04T09:52:14","modified_gmt":"2026-03-04T09:52:14","slug":"datganiad-gan-bashh-cosrh-ar-terrence-higgins-trust-ar-bryderon-a-godwyd-gyda-gwasanaeth-profion-sti-ar-lein-profi-a-phostio-iechyd-cyhoeddus-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/datganiad-gan-bashh-cosrh-ar-terrence-higgins-trust-ar-bryderon-a-godwyd-gyda-gwasanaeth-profion-sti-ar-lein-profi-a-phostio-iechyd-cyhoeddus-cymru\/","title":{"rendered":"Datganiad gan BASHH, CoSRH a\u2019r Terrence Higgins Trust ar bryderon a godwyd gyda gwasanaeth profion STI ar-lein Profi a Phostio Iechyd Cyhoeddus Cymru"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Cymdeithas Iechyd Rhywiol a HIV Prydain (BASHH), y Coleg Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu (CoSRH), a\u2019r Terrence Higgins Trust wedi galw ar Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithredu i sicrhau&#8217;r cyhoedd a chleifion bod y gwasanaeth profi ar-lein yn bodloni safonau diffinieidig llywodraethu clinigol a gwybodaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau materion diogelu a llywodraethu gwybodaeth difrifol sydd wedi&#8217;u nodi o fewn eu gwasanaeth profi Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STI) o bell. Mae&#8217;r gwasanaeth ar-lein yn elfen hanfodol o\u2019r ddarpariaeth profion STI a HIV yng Nghymru, sy&#8217;n cwmpasu cyfran sylweddol o brofion STI asymptomatig ac sy\u2019n hanfodol i wella tegwch mynediad, yn enwedig i gymunedau gwledig ac i gefnogi Cymru i gyflawni\u2019r nod o roi terfyn ar drosglwyddiadau HIV erbyn 2030.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae BASHH, CoSRH, a\u2019r Terrence Higgins Trust wedi cwrdd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ofyn am fanylion y materion a nodwyd ac am sicrwydd ar unwaith bod mesurau wedi&#8217;u rhoi ar waith sy&#8217;n sicrhau diogelwch y gwasanaeth yn y tymor byr. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu clir \u00e2&#8217;r cyhoedd fel y gellir atal dryswch a phryder diangen ac y gall y rhai yr effeithir arnyn nhw ofyn am y cyngor pellach sydd ei angen arnyn nhw ar unwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r sefydliadau (BASHH, CoSRH a\u2019r Terrence Higgins Trust) hefyd wedi ysgrifennu at Brif Swyddog Meddygol Cymru yn galw am broses adolygu lawn, dryloyw i ddeall a mynd i&#8217;r afael \u00e2 pham y digwyddodd y gwendidau systemig hyn yn y gwasanaeth sgrinio STI, er mwyn sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu a bod y gwasanaeth yn cael ei gefnogi i gael ei optimeiddio yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Meddai Dr Cara Saxon, Llywydd BASHH:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Bydd yr adroddiadau heddiw yn anochel yn destun pryder i gleifion a&#8217;r gweithwyr proffesiynol sy&#8217;n gweithio i&#8217;w cefnogi. Rydyn ni wedi ymgysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall y camau a gymerwyd hyd yma. Ein prif bryder yw sicrhau bod y system bellach yn ddiogel, yn gadarn, ac yn gweithredu i&#8217;r safonau a ddisgwylir gydag ymgysylltu priodol ag arbenigwyr ar draws y system yng Nghymru. Rhaid i bobl barhau i allu cael mynediad at y gwasanaeth profi STI ar-lein hanfodol hwn gyda hyder bod y mesurau diogelu a goruchwyliaeth glinigol yn gweithredu fel y dylent. Tryloywder llawn ar yr hyn sydd wedi digwydd, pwy allai gael ei effeithio a beth sydd ar waith i roi&#8217;r hyder hwn nawr \u2013 mae cleifion a&#8217;r cyhoedd yn haeddu hynny o leiaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydyn ni\u2019n glir bod angen adolygiad allanol, cwbl annibynnol a fydd yn gallu darparu atebion cynhwysfawr ar yr hyn a aeth o&#8217;i le, a darparu dysgu a chamau y gellir eu cymryd ymhellach i ailennyn ymddiriedaeth ar draws y system.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan GUM a\u2019r gwasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru arbenigedd eithriadol mewn diogelu, llywodraethu clinigol a rheoli risg. Rhaid nawr cefnogi&#8217;r gwasanaethau yn briodol i reoli&#8217;r gwaith dilynol angenrheidiol. Dylai hyn gynnwys ymateb amlddisgyblaethol gyda llywodraethu a goruchwyliaeth glinigol briodol yn unol \u00e2 safonau gofal BASHH.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Meddai Dr Georgina Forbes, Cadeirydd Pwyllgor Coleg Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu Cymru:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi goruchwylio gwasanaeth sy&#8217;n chwarae rhan hanfodol wrth wella mynediad at brofion STI. Mae&#8217;r materion a nodwyd felly yn destun pryder go iawn, gan fod yn rhaid i gleifion allu ymddiried bod y gwasanaeth hwn yn ddiogel ac yn cael ei lywodraethu&#8217;n dda. Mae diogelu a rheoli canlyniadau dibynadwy yn hanfodol i ofal o ansawdd uchel. Rhaid gweld mai\u2019r flaenoriaeth nawr yw bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cymryd camau tryloyw ac amserol i gryfhau systemau a sicrhau y gall y gwasanaeth mawr ei angen hwn barhau i gefnogi cleifion.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Meddai Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Rydyn ni\u2019n croesawu pa mor agored a gonest yw Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn gresynu hefyd eu bod wedi methu \u00e2 chadw at eu safonau eu hunain a&#8217;r mesurau diogelu angenrheidiol a ddylai fod wedi bod ar waith. Rydyn ni\u2019n gweithio gyda nhw ar gyfres gyflawn o gamau adferol, rhai ohonyn nhw bellach ar waith, nifer ohonyn nhw eto i&#8217;w cyflawni. Byddwn yn cadw llygad barcud ar eu datblygiadau ac yn siarad o blaid defnyddwyr gwasanaethau yn ddi-ofn.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Mae profion HIV a STI yn ffordd effeithiol iawn o gadw rheolaeth ar eich iechyd rhywiol. Mae&#8217;r gwasanaeth profi drwy\u2019r post yng Nghymru yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac ar gael 24\/7 gydol y flwyddyn. Rhaid i bawb yng Nghymru allu cael mynediad at brofion HIV a STI yn hyderus, mewn ffordd sy&#8217;n gweddu i&#8217;w hanghenion.<br>&#8220;Rhaid i Iechyd Cyhoeddus Cymru gymryd camau ar unwaith i ddysgu o hyn, cael trydydd part\u00efon o amgylch y bwrdd fel nad ydyn nhw&#8217;n marcio eu gwaith cartref eu hunain, ymrwymo i sicrhau&#8217;r gwasanaeth gorau oll yn y dyfodol, a sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaethau yn ganolog i weithredu&#8217;r gwasanaeth, adolygiad &#8216;edrych yn \u00f4l&#8217; a&#8217;r camau nesaf.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae BASHH, y Coleg, a\u2019r Terrence Higgins Trust hefyd yn cydnabod bod y methiannau hyn yn debygol o greu pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd rhywiol lleol sydd eisoes wedi&#8217;u hymestyn, a fydd yn cefnogi cleifion yr effeithir arnyn nhw gan wallau neu gyfleoedd diogelu a gollwyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae BASHH, CoSRH a\u2019r Terrence Higgins Trust wedi ymrwymo i barhau i gydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y broses adolygu yn dryloyw, yn annibynnol, ac yn canolbwyntio ar adfer ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae&#8217;n hanfodol bod gwersi yn cael eu dysgu a bod safonau diogelu, llywodraethu clinigol a llywodraethu gwybodaeth priodol yn cael eu hymwreiddio yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Nodiadau i olygyddion:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Adroddir bod bwlch yn y system wedi golygu bod rhai plant dan 18 oed wedi cael eu trin yn amhriodol fel oedolion. Yn sgil hynny, fe wnaethant golli allan ar asesiadau risg trylwyr ar gyfer camfanteisio rhywiol a fyddai fel arfer yn cael eu disgwyl yn ystod ymgynghoriad clinigol ar gyfer eu gr\u0175p oedran. Hefyd, ymddengys bod canlyniadau cadarnhaol rhai pobl wedi&#8217;u hanfon i&#8217;r bwrdd iechyd anghywir ar gyfer triniaeth mewn camgymeriad. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adrodd am y materion hyn i Swyddfa&#8217;r Comisiynydd Gwybodaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae safonau <strong>BASHH<\/strong> yn adlewyrchu arferion gorau cyfredol, seiliedig ar dystiolaeth, ym maes rheoli iechyd rhywiol. Maen nhw\u2019n cael eu datblygu mewn cydweithrediad \u00e2 sefydliadau sector gwirfoddol allweddol, cymdeithasau proffesiynol a chyrff iechyd cyhoeddus ac maen nhw\u2019n cynnig arweiniad hanfodol i gomisiynwyr, darparwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y DU ym maes Iechyd Rhywiol a HIV.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r <strong>Coleg Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu (CoSRH)<\/strong> yn cynrychioli 14,000 o weithwyr proffesiynol ledled y DU. Fel sefydliad aelodaeth broffesiynol amlddisgyblaethol, mae&#8217;n gosod canllawiau a safonau clinigol, yn darparu hyfforddiant ac addysg gydol oes, ac yn hyrwyddo gofal iechyd rhywiol ac atgenhedlu diogel ac effeithiol gydol oes i bawb.<\/p>\n\n\n\n<p>Y <strong>Terrence Higgins Trust <\/strong>yw prif elusen HIV y DU, sy&#8217;n cynnig gwasanaethau cymorth, gwybodaeth a chyngor i&#8217;r rhai sy&#8217;n byw gyda HIV ac sy&#8217;n cael eu heffeithio gan HIV neu iechyd rhywiol gwael. Ein gweledigaeth yw dyfodol lle nad yw HIV yn dal unrhyw un yn \u00f4l, lle mae pob person sy&#8217;n byw gyda HIV yn cael diagnosis, triniaeth, cefnogaeth, ac yn rhydd o stigma.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cymdeithas Iechyd Rhywiol a HIV Prydain (BASHH), y Coleg Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu (CoSRH), a\u2019r Terrence Higgins Trust wedi galw ar Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithredu i sicrhau&#8217;r cyhoedd a chleifion bod y gwasanaeth profi ar-lein yn bodloni safonau diffinieidig llywodraethu clinigol a gwybodaeth. Heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau materion diogelu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":3987,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-3981","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3981","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3981"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3981\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3985,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3981\/revisions\/3985"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3987"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3981"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3981"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3981"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}