{"id":944,"date":"2022-11-14T14:26:03","date_gmt":"2022-11-14T14:26:03","guid":{"rendered":"https:\/\/tht.cymru\/en\/?p=944"},"modified":"2023-11-16T12:21:22","modified_gmt":"2023-11-16T12:21:22","slug":"terrence-higgins-trust-appoints-rhys-goode-to-deliver-on-hiv-action-plan-in-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/terrence-higgins-trust-appoints-rhys-goode-to-deliver-on-hiv-action-plan-in-wales\/","title":{"rendered":"Terrence Higgins Trust yn penodi Rhys Goode i gyflawni Cynllun Gweithredu HIV yng Nghymru"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"709\" src=\"http:\/\/tht.cymru\/en\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/rhys-goode-crop-1024x709.jpeg\" alt=\"Rhys Goode\" class=\"wp-image-946\" srcset=\"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/rhys-goode-crop-1024x709.jpeg 1024w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/rhys-goode-crop-300x208.jpeg 300w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/rhys-goode-crop-768x531.jpeg 768w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/rhys-goode-crop-1536x1063.jpeg 1536w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/rhys-goode-crop.jpeg 1815w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l gweithio ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol i gael ymrwymiad i gynllun gweithredu HIV Terrence Higgins Trust yn penodi Rhys Goode i gyflawni Cynllun Gweithredu HIV yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhys Goode yn dod yn Bennaeth Terrence Higgins Trust Cymru i helpu i sicrhau bod y wlad yn cyrraedd ei nod o ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 Yng Nghymru ers 2018, rydyn ni wedi bod yn gweithio\u2019n agos gyda Llywodraeth Cymru i wthio\u2019r gwaith pwysig hwn yn ei flaen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cynllun gweithredu sy\u2019n manylu ar sut y bydd Cymru yn dod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 wedi\u2019i gefnogi\u2019n bersonol gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a\u2019i gydweithwyr yn y cabinet.<\/p>\n\n\n\n<p>Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU I wneud ymdrech genedlaethol i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn diwedd y ddegawd. Arweiniodd hefyd y ffordd at ddarpariaeth gyffredinol PrEP, y cyffur a gymerir gan bobl sy&#8217;n profi HIV negatil i amddiffyn rhag y firws.<\/p>\n\n\n\n<p>Daeth yr ymgynghoriad i ben yn ddiweddar ar y cynllun drafft 26 pwynt ac mae\u2019n aros i\u2019w gyhoeddi. Dyna pam rydyn ni\u2019n ymrwymo\u2019n gyhoeddus i sefydlu presenoldeb sylweddol a chynaliadwy yng Nghymru i sicrhau bod cynnydd yn parhau ar y trywydd iawn a bod pob offeryn yn cael ei ddefnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Rhys Goode hanes o arwain cysylltiadau ac ymgyrchoedd ar draws sectorau i gwmn\u00efau fel JustGiving a Klarna yn fewnol, yn ogystal ag uwch ymgynghorydd llawrydd i sawl brand proffil uchel arall. Mae Goode yn cyfuno ei brofiad \u00e2 gwybodaeth gartrefol o\u2019r byd gwleidyddol Cymreig, ar \u00f4l tyfu i fyny yng Nghymoedd De Cymru cyn dechrau gyrfa yn Llundain.<\/p>\n\n\n\n<p>Dychwelodd Goode i Dde Cymru ar ddiwedd 2020, ar \u00f4l teimlo\u2019r atyniad yn \u00f4l i laswellt gwyrdd y cartref yn ystod y pandemig i gwblhau MBA ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn gynghorydd lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynrychioli ei bentref genedigol, Nant-y-moel i ddod \u00e2\u2019r epidemig i ben.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-css-opacity is-style-default\"\/>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full is-resized is-style-rounded\"><img decoding=\"async\" width=\"180\" height=\"180\" src=\"http:\/\/tht.cymru\/en\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/Rhys-Goode-white-background-thumb-crop.jpeg\" alt=\"Rhys Goode\" class=\"wp-image-945\" style=\"width:150px;height:150px\" srcset=\"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/Rhys-Goode-white-background-thumb-crop.jpeg 180w, https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/Rhys-Goode-white-background-thumb-crop-150x150.jpeg 150w\" sizes=\"(max-width: 180px) 100vw, 180px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-text-align-center is-style-large is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>&#8220;Mae gennym yr holl offer angenrheidiol i sicrhau nad oes unrhyw achosion HIV newydd &#8211; nawr mae angen i ni eu defnyddio.&#8221;<\/p>\n<cite>\u2014 Rhys Goode, Pennaeth Terrence Higgins Trust Cymru<br><\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-css-opacity is-style-default\"\/>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Rhys Goode:<\/strong> \u2018Rwy mor gyffrous i ymgymryd \u00e2\u2019r r\u00f4l hon i lunio dyfodol Terrence Higgins Trust Cymru. Mae gennym yr holl offer angenrheidiol i sicrhau nad oes unrhyw achosion HIV newydd &#8211; nawr mae angen i ni eu defnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8216;Gyda chymorth Llywodraeth Cymru a\u2019n partneriaid eraill ledled Cymru, mae gennym gyfle i yrru trosglwyddiad HIV i ddim erbyn 2030 tra\u2019n brwydro yn erbyn hen stereoteipiau a\u2019r stigma a wynebir gan lawer o\u2019r rhai sy\u2019n byw gyda HIV.<\/p>\n\n\n\n<p>\u2018Rwy\u2019n edrych ymlaen at weithio\u2019n agos gyda\u2019r Gweinidog Iechyd, ac eraill yn Llywodraeth Cymru, ASau o bob plaid a chynghorwyr a byrddau iechyd ledled y wlad i gyflawni\u2019r nod uchelgeisiol hwn ond hefyd gwella\u2019r mynediad tameidiog (patchy) at wasanaethau iechyd rhywiol y tu allan i Gaerdydd i sicrhau y gall pawb gael mynediad at ofal o ansawdd uchel o fewn eu cyrraedd.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd ein Prif Weithredwr Ian Green:<\/strong> \u2018Rydyn ni wedi ymrwymo\u2019n llwyr i chwarae ein rhan yng Nghymru i gyrraedd y nod o newid bywyd yn llwyr trwy ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 ac wrth ein bodd mai Rhys fydd yn arwain trwy y gwaith hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n gwybod beth sydd angen ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw ar gyfer 2030, gan gynnwys mwy o brofion HIV a mynediad at bilsen atal PrEP. Ond ni fydd yn digwydd heb ymdrech ar y cyd a gweithrediad cryf Cynllun Gweithredu HIV uchelgeisiol i Gymru.\u2019<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i\u2019r ymgynghoriad agor ar y Cynllun Gweithredu drafft ar HIV, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan \u00a33.9 miliwn i ddatblygu ymhellach y gwasanaeth profi HIV ar-lein drwy\u2019r post a sefydlwyd yn ystod y pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae angen cyllid ychwanegol i hybu ymwybyddiaeth o opsiynau profi HIV, treialu gwell profion yn yr ysbyty ac i ddarparu cymorth gan gymheiriaid i bobl sy&#8217;n byw gyda HIV yng Nghymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhys Goode yn dod yn Bennaeth Terrence Higgins Trust Cymru i helpu i sicrhau bod y wlad yn cyrraedd ei nod o ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030.<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":946,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-944","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/944","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=944"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/944\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1205,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/944\/revisions\/1205"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/946"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=944"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=944"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/tht.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=944"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}