Mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru, mae Terrence Higgins Trust Cymru yn datblygu adnodd dwyieithog o’n hyfforddiant “Ni all basio ymlaen” ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol.
Nod ein cwrs hyfforddi presennol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yw cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o HIV, sut mae’n cael ei drosglwyddo a’r neges Ni All Basio Ymlaen/ Anhysbysadwy = Anhrosglwyddadwy (Undetectable = Untransmittable.)
Nid yn unig y bydd yr adnodd hwn ar gael yn Gymraeg cyn bo hir, rydym hefyd yn datblygu adran newydd sy’n tynnu sylw at brofiad pobl sy’n byw gydag HIV yng Nghymru a’u hanghenion wrth gael mynediad i ofal cymdeithasol.
Rydym yn chwilio am gyfranogwyr i gyfrannu at ddatblygu’r adnodd hyfforddi newydd hwn, gyda chyfleoedd i rannu eich profiadau o gael mynediad i ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn a sut y gallwch gymryd rhan, cysylltwch â’n Cydlynydd Cymorth Cymheiriaid Ar-lein cyn y dyddiad cau o ddydd Llun 19 Mai 2025 yn: [email protected]
