Hwb o £9 miliwn gan Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar achosion newydd o HIV

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £9 miliwn i gyflawni Cynllun Gweithredu HIV Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

Heddiw [12 Mai 2025], cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles AS, £9 miliwn o gyllid newydd i roi terfyn ar achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030. Mae hyn yn cynnwys bron i £4 miliwn o fuddsoddiad i ehangu gwasanaeth profi HIV ar-lein Cymru, sydd ar hyn o bryd yn darparu 40,000 o brofion HIV cartref bob blwyddyn.

Bydd cyllid hefyd yn cael ei ddyrannu i raglen cymorth gan gymheiriaid genedlaethol newydd hanfodol ac ar gyfer ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o’r ffaith na all pobl sy’n byw gyda HIV ac ar driniaeth effeithiol ei basio ymlaen i rywun arall.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd camau i ehangu mynediad at gyffur atal HIV, PrEP. Bydd TAF PrEP, ffurf amgen o’r feddyginiaeth, yn cael ei ddarparu fel mater o drefn ar y GIG i bobl nad oes modd iddyn nhw gymryd mathau eraill o PrEP.

Dywedodd Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust:

“Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei hymdrechion i roi terfyn ar achosion newydd o HIV ledled y wlad. Dyma fuddsoddiad sylweddol sy’n dangos bod Ysgrifennydd y Cabinet Jeremy Miles o ddifrif ynghylch cyflawni ein nod cyffredin o ddod â’r epidemig i ben erbyn 2030. Er mwyn cyrraedd y nod, mae’n rhaid i ni gynyddu profion HIV, cynyddu mynediad at PrEP, mynd i’r afael â stigma HIV a sicrhau bod pawb sy’n byw gyda HIV yng Nghymru yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn cynnwys camau mawr ymlaen ar yr holl agweddau hyn.

“Rydyn ni wrth ein bodd fod Llywodraeth Cymru wedi clywed ein galwad bod yn rhaid darparu rhaglen genedlaethol cymorth gan gymheiriaid ar frys, fel y gall pawb sy’n byw gyda HIV yng Nghymru gael mynediad at y cymorth a’r gofal sydd eu hangen arnyn nhw.

“Cymru yw’r unig wlad yn y DU sydd â gwasanaeth profi HIV ac STI ar-lein sydd ar gael ledled y wlad, gydol y flwyddyn. Bydd y cynnydd yn nifer y profion HIV sydd ar gael trwy’r gwasanaeth a gyhoeddwyd heddiw yn hanfodol er mwyn helpu i ddod o hyd i bawb sy’n byw gyda HIV heb ei ddiagnosio ledled y wlad. Trwy sicrhau bod TAF PrEP ar gael ar y GIG hefyd, bydd y bilsen atal drawsnewidiol hon ar gael i fwy o’r bobl sydd ei hangen.”

“Ni all pobl sy’n byw gyda HIV ac sydd ar driniaeth effeithiol ei basio ymlaen wrth gael rhyw. Dydy 72% o oedolion y DU ddim yn ymwybodol o’r ffaith honno. Rydyn ni’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhannu’r neges hanfodol hon ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl.”

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button