Hanner Marathon Caerdydd - Dydd Sul 6 Hydref 2024

Hanner Marathon Caerdydd - Prifysgol Caerdydd, Dydd Sul 6 Hydref 2024

Rydyn ni’n falch iawn o gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd, a fydd yn cael ei chynnal am yr 21ain gwaith.

Mae’r cwrs gwastad, cyflym yn pasio holl olygfeydd mwyaf trawiadol a thirnodau mwyaf eiconig y ddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, y Ganolfan Ddinesig a Bae Caerdydd.

Rydyn ni’n falch iawn o’n cangen yng Nghymru – Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ymrwymo i roi terfyn ar achosion newydd o HIV erbyn 2030.

Sut mae gwneud cais

Mae gennym nifer o leoedd wedi’u gwarantu yn Hanner Marathon Caerdydd, a byddai’n wych pe gallech chi ymuno â’n tîm.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y digwyddiad gwych hwn, cofrestrwch nawr gan ddefnyddio’r botwm pinc.

Ymuno â’n tîm ar ôl i chi ennill eich lle

Os byddwch chi’n dewis ein cefnogi ni drwy godi arian ar ôl i chi ennill eich lle, byddwch yn cael yr un gefnogaeth wych â’n llefydd elusennol a byddwch yn gallu gosod eich targed codi arian eich hun.

Sut y byddwn yn eich cefnogi chi

Byddwn yma i’ch cefnogi o’r eiliad y byddwch yn cofrestru i’r eiliad y byddwch chi’n croesi’r llinell derfyn.

Ai dyma eich hanner marathon cyntaf? Darllenwch ein hawgrymiadau gwych i redwyr newydd gan Annie Foulds, sy’n un o’n cefnogwyr ac yn rhedwraig marathon profiadol.

Rydyn ni’n cynnig gostyngiad arbennig ar sesiynau tylino chwaraeon, aciwbigo a ffisiotherapi i holl redwyr Tîm Terry.

Dyma’r manteision eraill a gewch wrth ymuno â Thîm Terry:

  • Fest redeg Ymddiriedolaeth Terrence Higgins am ddim gyda’ch enw arni.
  • Canllaw cynhwysfawr i helpu i roi hwb i’ch gwaith codi arian.
  • Cefnogaeth gan ein tîm ymroddedig i’ch helpu gyda’ch hyfforddiant a’ch dulliau codi arian.
  • Cyfle i gwrdd a gwneud ffrindiau gyda phobl debyg i chi sy’n cefnogi’r un achos.
  • Newyddion a diweddariadau rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith, ein hymgyrchoedd a’n gwasanaethau.

Rydyn ni yma i helpu

Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, a sut bynnag yr hoffech godi arian, rydyn ni yma i chi. Gydag awgrymiadau codi arian, cyngor am gynnal digwyddiadau, a deunyddiau codi arian, mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i sicrhau bod eich dull o godi arian yn llwyddiant llwyr.

Sut bynnag y byddwch yn dewis codi arian, rydym am glywed popeth amdano. Cysylltwch â ni a gadewch i ni wybod eich cynlluniau, a byddwn ni yma i gynnig ein cefnogaeth. E-bostiwch [email protected]

Trwy godi arian gyda ni gallwch chi helpu i ddod ag epidemig byd-eang sydd wedi lladd 38 miliwn o bobl i ben. Gyda’n gilydd gallwn ddod ag achosion newydd o HIV i ben yn y DU erbyn 2030

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button