Amdanon ni

Hanes Terrence Higgins Trust Cymru

Hanes

Mae stori HIV yn y DU ac Ewrop wedi’i gwreiddio yng Nghymru. Ganwyd Terry Higgins, ein cydenw, ar 10 Mehefin 1945 yn Ysbyty Priory Mount, Sir Benfro. Roedd yn byw gyda’i fam yn Hwlffordd a mynychodd yr ysgol ramadeg i fechgyn yn unig. Gadawodd Gymru yn y diwedd ar ôl gwasanaethu yn y Llynges a byw yn Llundain. Ef oedd y person cyntaf a enwyd a fu farw o salwch yn ymwneud ag AIDS. 

Ffrind Terry, a gŵr o Gasnewydd, Martyn Butler, ochr yn ochr â phartner Terry ar y pryd a ffrindiau eraill a sefydlodd ein sefydliad i helpu’r rhai a adawyd ar ôl. Martyn gododd y cyllid cyntaf ar gyfer Terrence Higgins Trust, rhoddodd ei rif ffôn cartref fel ein llinell gymorth gyntaf a siaradodd dro ar ôl tro yn y wasg am golli Terry ym mis Tachwedd 1982 ac am bwnc anodd HIV.

HIV yng Nghymru yn yr epidemig cynnar

Roedd yr achos cyntaf o salwch cysylltiedig ag AIDS yng Nghymru o hemoffilig ym mis Ionawr 1983. Pan adroddwyd am hyn fisoedd yn ddiweddarach, daeth Caerdydd yn ganolbwynt i ddiddordeb mawr yn y cyfryngau.

Yn ôl A Little Gay History of Wales gan Daryl Leeworthy, mae Coleg Prifysgol Abertawe yn amlwg iawn yn yr epidemig cynnar – o streic glanhawyr am grŵp theatr teithiol Gay Sweatshop, y brifysgol yn gohirio matriciwleiddio myfyriwr blwyddyn gyntaf â hemoffilia ac undeb myfyrwyr UCS yn trefnu ‘Wythnos Ymwybyddiaeth AIDS’ i chwalu’r stigma.

Yn yr hydref 1986, gorchmynnodd Undeb Rygbi Cymru chwaraewyr i gael eu sgrinio ar gyfer HIV/AIDS, a chafodd pobl yr effeithiwyd arnynt gan HIV/AIDS eu gwahardd rhag defnyddio cyfleusterau Cyngor Chwaraeon Cymru a phyllau nofio a reolwyd gan Gyngor Bwrdeistref Arfon. Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, sefydlwyd Ymgyrch AIDS Cymru ond o fewn deuddeg mis fe’i hunwyd â Phwyllgor Cynghori ar Iechyd Cymru a ‘diflannodd heb fod sôn amdano’. 

Lansiwyd Llinell Gymorth AIDS Caerdydd ym mis Gorffennaf 1986 gyda chyllid gan Awdurdod Iechyd De Morgannwg, er iddi adeiladu ar fenter gynharach a gynhaliwyd gan wirfoddolwyr cymunedol o Cardiff FRIEND. Dilynodd gwasanaeth cynghori ym 1987; ac yn y pen draw daeth y gwasanaethau hyn o dan ymbarél Rhwydwaith AIDS De Morgannwg. Daeth Llinell Gymorth AIDS Gwent i fodolaeth ym 1987 drwy nawdd Canolfan Hybu Iechyd Gwent, ond ni sefydlwyd Llinell Gymorth AIDS Morgannwg Ganol tan y 1990au 

Yn y 1980au a’r 1990au, roedd nifer y bobl oedd yn byw gyda HIV yn isel iawn yng Nghymru. Yn Ne Morgannwg, y sir gyda’r cyfraddau uchaf o haint HIV/AIDS yng Nghymru, dim ond 4 achos oedd wedi’u nodi erbyn haf 1986 (roedd 3 ohonynt wedi marw) – cyfran fach iawn o’r 350 o achosion ledled y wlad ar y pryd. Dim ond 14 o achosion oedd wedi’u nodi erbyn diwedd 1989. Mor hwyr â 1997, nododd Iechyd Morgannwg, bwrdd iechyd Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot ar y pryd, mai dim ond 40 o bobl oedd wedi cael diagnosis o HIV/AIDS yng Ngorllewin Morgannwg, gyda 26 ohonynt wedi marw. Roedd pob marwolaeth yn cynrychioli trasiedi bersonol a thorcalon difesur.

 

Geni THT Cymru

Rhwng 2003 a 2005, unodd Llinell Gymorth AIDS Caerdydd a Cardiff Body Positive â ni i greu THT Cymru, a daethom yn brif elusen HIV yng Nghymru.

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi darparu gwasanaethau ar gyfer byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol mewn partneriaeth ledled Cymru. Fel elusen ymgyrchu, rydyn ni’n ennill newidiadau pwysig mewn atal a thrin HIV, brwydro yn erbyn stigma a gwella iechyd rhywiol yng Nghymru. Mae THT Cymru yn bartner yn Fast Track Caerdydd a’r Fro a bydd yn un o sylfaenwyr Fast Track Cymru.

Mae Gareth Thomas o Rygbi Cymru yn noddwr i Terrence Higgins Trust.

Llwyddiannau diweddar

Yn 2016, yn dilyn pwysau gan Terrence Higgins Trust a Stonewall Cymru, mae llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adolygiad o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru, Bwrdd Rhaglen Iechyd Rhywiol newydd i ystyried y blaenoriaethau ar gyfer iechyd rhywiol yng Nghymru, sefydlu grŵp arbenigol HIV annibynnol i ystyried potensial PrEP, a system optio allan newydd ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed (gan gynnwys HIV, hep B a hep C) yng ngharchardai Cymru.

Yn 2017, fe enillon ni newid a oedd yn caniatáu i ddynion hoyw, deurywiol, sy’n cael rhyw gyda dynion hyd at 45 oed, i fod yn gymwys i gael brechiad HPV am ddim ar y GIG pan fyddant yn ymweld â chlinigau iechyd rhywiol yng Nghymru. Yn yr un flwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi treial tair blynedd heb ei gapio i sicrhau bod PrEP ar gael i’r rhai sydd ei angen.

Yn 2018, fe sicrhaon ni fuddugoliaeth gyda Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau y bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb cynhwysol yn rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Yn dilyn ymgyrch barhaus gan THT Cymru, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ymrwymo i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030. Yna cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Vaughan Gething MS yr ymrwymiad mewn digwyddiad Diwrnod AIDS y Byd THT Cymru yn 2018


Yn 2021, fe aethon ni mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar ymgyrch genedlaethol ddwyieithog ‘PrEP Protects’ i godi ymwybyddiaeth o’r nifer sy’n manteisio ar y cyffur atal HIV. http://prepprotects.wales

O Etholiadau’r Senedd yn 2021, ynghyd â Fast Track Caerdydd a’r Fro, rydyn ni wedi ymgyrchu dros Gynllun Gweithredu HIV i Gymru i gyrraedd nod 2030. Lansiwyd y cynllun drafft yn ein digwyddiad pen-blwydd yn 40 yn y Senedd – cafwyd ymgyrch fach i gael newidiadau i’r adroddiad terfynol https://www.tht.org.uk/news/draft-hiv-action-plan-wales-respond-now. Gyda’n partneriaid asiantaeth Deryn, fe enillon ni ‘Ymgyrch Orau Cymru’ yng ngwobrau PRCA 2022 Awards. 

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button