Lleisiau Cadarn

Clywch yn uniongyrchol gan bobl sy'n byw gyda HIV trwy archebu sesiwn Lleisiau Cadarn (Positive Voices).

Mae ein tîm o wirfoddolwyr hyfforddedig yn rhannu eu profiad o fyw gyda HIV i helpu i addysgu a rhoi diwedd ar y stigma. Mae’r sesiynau hyn am ddim i sefydliadau addysgol.

Gall HIV effeithio ar unrhyw un, ac yng Nghymru, mae cynnydd o 10% bob blwyddyn yn nifer y bobl sy’n byw gyda HIV . Mae gwybodaeth am HIV yn aml yn seiliedig ar yr argyfwng AIDS yn y 1980au a’r 1990au yn hytrach na realiti byw gyda HIV yn yr 21ain ganrif, a gall gwybodaeth hen ffasiwn olygu y gall pobl sy’n byw gyda HIV wynebu rhagfarn a gwahaniaethu. 

Mae siaradwyr Lleisiau Cadarn yn darparu sgyrsiau llawn gwybodaeth a sesiynau addysg i gynulleidfaoedd addysg, corfforaethol, y sector cyhoeddus a chynulleidfaoedd eraill am eu profiadau personol o fyw gyda HIV. Maent yn ymdrin ag atal HIV a negeseuon rhyw diogelach ac yn rhannu eu profiadau eu hunain o fyw gyda HIV, a gallant gyflwyno sgyrsiau wyneb yn wyneb, ar-lein neu gan ddefnyddio model hybrid.

Archebwch Siaradwr Lleisiau Cadarn i’ch sefydliad

I wneud cais am siaradwr Lleisiau Cadarn, cwblhewch y ffurflen archebu ar waelod y dudalen hon. Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm drwy [email protected] am sgwrs heb ddim ymrwymiad.

Ar gyfer sefydliadau addysgol, grwpiau cymunedol, elusennau a darparwyr gofal iechyd ni chodir tâl am sgyrsiau ar hyn o bryd. Ar gyfer gweithleoedd corfforaethol, gweler Lleisiau Cadarn ar gyfer gweithleoedd i gael manylion am ein ffioedd

Gwirfoddoli gyda Lleisiau Cadarn

Os ydych chi’n byw gyda HIV, gall rhannu eich stori fel siaradwr Lleisiau Cadarn wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gall eich stori helpu i chwalu mythau a herio stigma ac addysgu eraill i ddeall HIV yn well.

Mae ein siaradwyr yn derbyn hyfforddiant siarad cyhoeddus a chefnogaeth emosiynol barhaus, ac mae ymuno â Lleisiau Cadarn wedi eu helpu i fagu hyder ac ennill sgiliau newydd. Gallwch gyflwyno sgyrsiau ar-lein neu wyneb yn wyneb ar adegau sy’n gyfleus i chi, ac rydyn ni’n talu treuliau a gallwn dalu costau sy’n gysylltiedig â gofal os oes angen.

Gallwch glywed mwy am sut beth yw gwirfoddoli gyda lleisiau cadarn trwy ddarllen stori Florence.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr Lleisiau Cadarn, gallwch wneud cais yma, neu am sgwrs anffurfiol am y rôl, gallwch gysylltu â Jen Illman drwy [email protected]

Ffurflen archebu


Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button