Gwasanaethau

Llinell Gymorth THT Direct

Ffoniwch THT Direct ar 0808 802 1221 am gefnogaeth, cyngor a gwybodaeth neu anfonwch e-bost atom yn [email protected].

Rydym ar agor:

10am i 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener

Ein rhif ffôn yw 0808 802 1221.

Mae’r alwad ffôn am ddim o holl linellau tir y DU a’r rhan fwyaf o rwydweithiau symudol mawr. Ni fydd yn ymddangos ar eich bil ffôn

Sut allwn ni helpu

Gall ein cynghorwyr ddarparu cymorth emosiynol os ydych yn poeni am eich iechyd rhywiol neu os oes gennych bryderon am fyw gyda HIV. Gallwn eich helpu i gael mynediad at wasanaethau lleol i chi ar draws y DU, a ddarperir naill gennym ni neu gan rywun arall.

Os yw eich galwad yn gymhleth yna efallai y bydd angen i un o’n cynghorwyr eich ffonio’n ôl ar ôl gwneud rhywfaint o waith ymchwil. Byddwn yn dweud wrthych pryd y byddwn yn ffonio’n ôl. Gallwn hefyd anfon gwybodaeth i’ch cartref i chi ei ddarllen, mewn amlen blaen.

Sgwrs fyw: dydd Llun i ddydd Iau

Rydyn ni’n treialu gwasanaeth sgwrsio byw newydd i gynnig cefnogaeth i chi heb fod angen gwneud galwad ffôn.

Mae’r sgwrs ar agor ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau ar yr amseroedd canlynol:

11am i 1pm

3pm i 5pm

Mae sgwrs fyw yn ddienw ac yn gyfrinachol. Rydyn ni’n cynnig hyn ochr yn ochr â’n llinell gymorth ffôn, i ddechrau ar yr amseroedd a nodir uchod

Dod o hyd i’r ffordd o gael rhyw hapus ac iach

Mae bod yn rhywiol iach yn golygu cael yr hyder a’r sgiliau i ofyn am y rhyw sy’n gwneud i chi deimlo’n dda, mewn ffordd sy’n gydsyniol rhyngoch chi a’ch partner(iaid) rhywiol. Gall cyfathrebu â’ch partner cyn ac yn ystod rhyw fod yn lletchwith weithiau, ond dyma’r ffordd orau o sicrhau eich bod ill dau yn hapus ac yn gyfforddus â’r hyn sy’n digwydd. Cofiwch, gallwch chi newid eich meddwl unrhyw bryd a stopio.

Mae gwirio cyn rhyw hefyd yn amser gwych i benderfynu pa rwystrau ac amddiffyniadau yr ydych am eu defnyddio

Dysgwch fwy am ddod o hyd I’r ffordd o gael rhyw a chaniatad tht.org.uk/trans

Gwasanaethau Abertawe Sylwch fod mynychu trwy apwyntiad yn unig.

Profi HIV

Ar gyfer profion HIV, ewch i Glinig Singleton trwy apwyntiad yn unig neu archebwch brawf am ddim ar-lein gan Iechyd Rhywiol Cymru

Cynghori I bobol sy’n byw gyda HIV

Mae ein gwasanaeth cynghori yn cefnogi pobl sy’n byw gyda HIV i archwilio beth mae’n ei olygu iddyn nhw – o ddiagnosis, i berthnasoedd, i gadw at feddyginiaeth, i ddechrau teulu, i fyw gydag afiechydon eraill, a phopeth arall sy’n cyfrif. 

Nod ein cynghorydd yw darparu lle diogel i chi, heb farnu, lle gallwch ddysgu sut i ddelio â’ch HIV a byw bywyd iach a boddhaus.

Mae ein gwasanaeth cynghori hefyd yn cynnig cyfle i bobl weithio tuag at ddeall eu hunain o ran eu hunaniaeth rywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, a delio â materion chemsex.

Sylwch mai trwy apwyntiad yn unig y cynhelir cynghori. I drafod a yw cynghori yn iawn i chi ac i wneud apwyntiad yn unig, anfonwch e-bost at [email protected].

Gwaith a Sgiliau

Cefnogi pobl sy’n byw gyda HIV sy’n ddi-waith ac sy’n awyddus i ddychwelyd i’r gwaith trwy weithdai arlein, mentora arlein a chysylltiadau I wirfoddoli a chyfleoedd gwaith www.tht.org.uk/workandskills

Grŵp Cymorth Cyfoedion Cyn 96

Grŵp cymorth cyfoedion  misol ar-lein ar gyfer unigolion sydd wedi cael diagnosis hirdymort I drafod pynciau sy’n bwysig iddyn nhw. Yr ail dydd Mawrth ymhob mis 4-5.30pm trwy zoom www.tht.org.uk/livingwell

Grŵp Cymorth Cyfoedion Bond Cyffredin

Grŵp cymorth cyfoedion misol  ar-lein ar gyfer menywod sy’n byw gyda HIV (gan gynnwys menywod traws a phobl anneuaidd sy’n byw gyda HIV) i gwrdd ag eraill a dysgu a thyfu gyda’i gilydd. Trydydd dydd Mawrth y mis 7 – 8:30pm trwy Zoom. www.tht.org.uk/livingwell

Fy  Fforwm Cymunedol

Fforwm ar-lein dan arweiniad cyfoedion ar gyfer pobl sy’n byw gyda HIV lle gall pobl â HIV sgwrsio’n “fyw” trwy sgwrs grŵp neu sgwrs breifat ag aelodau neu wirfoddolwyr. www.tht.org.uk/forum

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button