Amser I Gael Prawf
Mynnwch gael eich prawf HDR a HIV yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim.
Profi am HIV a HDRau (SDIs)
Ni allai cael prawf am HIV a HDRau fod yn haws yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o fentrau i ddarparu profi am ddim, cynnil a chyfrinachol i rywun sydd ei angen.
Fe allwch chi archebu prawf i’w gael ei anfon sy’n hwylus i chi, codwch un mewn canolfannau o bob rhan o Gymru neu ymwelwch â chlinig. Mae’r rhain yn rhad ac am ddim, a bydd y canlyniad yn cael ei anfon i labordy a byddwch chi’n cael eich hysbysu o’r canlyniad. Mae’r rhain yn cael eu galw’n brofion hunan-samplu a byddant yn cynnwys pob HDR gan gynnwys HIV.
Os, am unrhyw reswm, nid yw hynny’n gweithio i chi, gallwch brynu hunan-brofion HIV gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins neu lawer o ddarparwyr eraill. Mae’r rhain ar ffurf pigiad i’r bys neu swab ceg a byddwch chi’n cael canlyniad o fewn 15-20 munud. Os ydych chi’n cael canlyniad adweithiol, ffoniwch THT Direct ar 0808 802 1221 a bydd y tîm yn trefnu canlyniad i gadarnhau.
Archebu prawf hunan-samplu
Mae Iechyd Rhywiol Cymru yn darparu pecyn profi am ddim ar gyfer chlamydia a gonorea a HIV, syffilis, hepatitis B, a hepatitis C. Fe allwch chi ddefnyddio’r pecynnau hyn yn eich cartref eich hun ac yna ei bostio i’r labordy yn yr amlen ragdaledig. Anfonwch y samplau yn eu holau i’r labordy, gan gynnwys y ffurflen gais – gan ni ellir profi’ch samplau hebddi.
Fe all rhywun yng Nghymru archebu hyd at bedwar pecyn mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am brofi drwy’r post, cysylltwch ag [email protected]
Codi prawf hunan-samplu
Dewch yn ôl yn aml, gan fod lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu at ein rhestr o fannau lle gellir codi profion yn rheolaidd.
Hunan brawf HIV
Fe allwch chi gael hunan brawf ar gyfer HIV yn unig – mae hwn yn un ai prawf gwaed neu swab ceg sy’n rhoi’r canlyniad ichi mewn 15-20 munud. Maen nhw’n rhad, yn gywir ac yn gynnil, gan adael ichi wybod eich canlyniad yn gyflym.
Fe ellir eu prynu am bris gostyngol o £15 drwy Ymddiriedolaeth Terrence Higgins. Mae ychydig o brofion am ddim ar gael, fel mae cyllid yn caniatáu. Os yw’r gost yn ffactor, ac nid oes unrhyw brofion ar gael, ffoniwch THT Direct a byddan nhw’n trefnu prawf ichi.
Ymweld â chlinig
Fe allwch chi gael profion cyfrinachol ac yn rhad ac am ddim yn un o glinigau iechyd rhywiol Cymru. Mae pobl broffesiynol wedi’u hyfforddi’n llawn yn awyddus i’ch helpu â’ch anghenion iechyd rhywiol.
Fe allwch chi ymweld ag unrhyw glinig a does dim rhaid ichi fod yn arddangos symptomau i fynychu’r clinig a phrofi am HIV/HDRau.
Tra byddwch chi’n ymweld â’r clinig, efallai byddwch eisiau cofrestru am PrEP neu gael eich brechu rhag hepatitis A a B; Papiloma Dynol (HPV); a brech M.
Dyma restr o’r clinigau a sut i gysylltu:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Canolfan Cordell, Casnewydd
Ffôn: 01633 234848 (yn delio ag ymholiadau am PrEP a HIV) neu 01495 765065 (opsiwn 1 ar gyfer Cymraeg neu opsiwn 2 am Saesneg, yna opsiwn 2 am HIV a PrEP).
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Conwy a Sir Ddinbych: 03000 856000 (llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 3pm)
Sir y Fflint a Wrecsam: 03000 856000 (llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 3pm) neu 01978 727197 (9am i 2.30pm)
Sir Fôn a Gwynedd: 03000 850074 (llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 3pm)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Clinig PrEP, Adran Iechyd Rhywiol, YBC
Tel: 029 2033 5208
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Ysbyty Dewi Sant, Pontypridd
Tel: 01443 443836
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Tel: 01267 248674
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ysbyty Singleton
Tel: 0300 555 0279
E-bost: [email protected]