Mae ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn dangos 119 diagnosis newydd ar gyfer HIV yng Nghymru yn 2023 – cynnydd o 16% ers y llynedd.
Mae’r ystadegau hefyd yn dangos:
- Pobl heterorywiol a gafodd y rhan fwyaf o’r diagnosau newydd o HIV, a chredir bod 62% wedi digwydd o ganlyniad i ryw rhwng dyn a menyw.
- Ers 2019, mae diagnosau wedi gostwng 15% yng Nghymru ymhlith dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion.
- Cyfraddau annerbyniol o ddiagnosis hwyr – cafodd 31% o bobl â HIV ddiagnosis hwyr, sy’n golygu bod HIV eisoes wedi dechrau niweidio system imiwnedd y person.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu HIV i Gymru y llynedd, gyda’r nod o ddod ag achosion newydd o HIV yng Nghymru i ben erbyn 2030 a mynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â’r feirws. Mae’r cynllun yn rhedeg o 2023 i 2026, a ffigurau heddiw yw’r cyntaf i roi unrhyw ddata ar y cyfnod hwnnw.
Meddai Richard Angell, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Terrence Higgins: ‘Mae nod 2030 Cymru yn y fantol oni bai bod arloesi ac adnoddau newydd yn cael eu cyflwyno. Mae Cynllun Gweithredu HIV i Gymru Llywodraeth Cymru wedi amlygu’r diffyg gwasanaethau cymorth i bobl sy’n byw gyda HIV yng Nghymru. Rhaid mynd i’r afael â hyn ar unwaith, er mwyn helpu i ddod â’r epidemig i ben a sicrhau y gall pobl fyw’n dda gyda HIV yng Nghymru.’