Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyflawni Cynllun Gweithredu Cymru ar HIV.
Yn ei ddatganiad ysgrifenedig i’r Senedd, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles AS, at y buddsoddiad y mae Terrence Higgins Trust wedi’i wneud i ddatblygu darpariaeth cymorth gan gymheiriaid yng Nghymru, gan gynnwys drwy gynnig Fy Nghymuned, ein. gwasanaeth cymorth cymheiriaid ar-lein cyfrinachol , rhad ac am ddim
Honnodd Ysgrifennydd y Cabinet fod Cymru yn ‘gwneud cynnydd calonogol’ tuag at y nod o roi terfyn ar drosglwyddiadau newydd o HIV erbyn 2030. Nododd fod lefelau profion HIV yn parhau i gynyddu o ganlyniad i’r gwasanaeth profi ar-lein cenedlaethol a bod y nifer sy’n manteisio ar y cyffur atal HIV , PrEP, ar ei lefel uchaf ar hyn o bryd ers iddo gael ei gyflwyno gyntaf yng Nghymru yn 2017.
Fodd bynnag, cydnabu hefyd fod mwy i’w wneud, gan gynnwys llenwi bylchau mewn data gwyliadwriaeth, mynd i’r afael â rhwystrau o ran mynediad at PrEP, mynd i’r afael â diagnosis hwyr o HIV a herio stigma HIV.
Mae’r datganiad yn nodi nifer o ymrwymiadau o’r Cynllun Gweithredu ar HIV y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â hwy, gan gynnwys:
- Cyllid cynaliadwy ar gyfer rhwydweithiau cymorth cymheiriaid ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol, gan ymgorffori dulliau yn y gymuned, yn y clinig ac ar-lein.
- Cynllun peilot o PrEP yn y gymuned, ochr yn ochr ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth i helpu i addysgu pobl ar sut i gael mynediad at PrEP.
- Datblygu system rheoli achosion iechyd rhywiol Cymru gyfan a chryfhau data ar ansawdd bywyd ac anghenion gofal iechyd pobl sy’n byw gyda HIV trwy gyflwyno arolwg llesiant blynyddol yn 2025.
- Yn 2018, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ymrwymo i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030. Dilynwyd yr ymrwymiad hwn gan Gynllun Gweithredu HIV Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd gan Eluned Morgan pan oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ym mis Tachwedd 2023.
Dywedodd Richard Angell, Prif Weithredwr Terrence Higgins Trust: ‘Mae’r cynnydd a wnaed tuag at frwydro yn erbyn stigma HIV a dod ag achosion newydd o HIV yng Nghymru i ben yn galonogol.
Roedden ni’n falch o’r rôl arweiniol a chwaraewyd gennym wrth sicrhau Cynllun Gweithredu Cymru ar HIV ac o’r rôl rydyn ni’n parhau i’w chwarae wrth ei gyflawni. Mae’n dda dros ben felly bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y buddsoddiad sylweddol y mae Terrence Higgins Trust Cymru wedi’i wneud yng Nghymru ac rwy’n hyderus y bydd ein gwasanaethau – gan gynnwys ein platfform Fy Nghymuned a lansiwyd yn ddiweddar – yn parhau i ddarparu cymorth annatod i bobl sy’n byw gyda’r HIV. ledled Cymru.
‘Mae cydnabyddiaeth gan yr Ysgrifennydd Iechyd bod angen gwneud llawer mwy os yw ein nod cyffredin ar gyfer 2030 i fod yn llwyddiant yn bwysig. Mae data diweddaraf UKHSA ar HIV yng Nghymru yn dangos cyfraddau annerbyniol o ddiagnosis hwyr o HIV yng Nghymru. At hynny, nid yw mynediad at wasanaethau cymorth cymheiriaid HIV personol wedi’i integreiddio yn y llwybr gofal ac mae bylchau mewn data gwyliadwriaeth yn golygu nad yw pobl sy’n byw gyda HIV sydd wedi ymddieithrio â gofal neu sydd heb gael diagnosis yn cael eu cyfrif.
‘Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr gyflymu ymdrechion i ddod o hyd i bawb sy’n byw gyda HIV yng Nghymru a’u cefnogi.