Mae Terrence Higgins Trust Cymru yn falch o fod yn noddi Gwasanaeth Coffa Coeden Bywyd Diwrnod AIDS y Byd yng Nghaerdydd eleni.
Ar Ddiwrnod AIDS y Byd, 1 Rhagfyr, byddwn yn cyfrannu at y gwasanaeth coffa, ochr yn ochr â phartneriaid yn GMB Union a Fast Track Cities. Bydd y mynychwyr hefyd yn clywed gan siaradwyr a pherfformwyr o Ysgol Gyfun Plasmawr a Chorws Dynion Hoyw De Cymru.
Yn dilyn y digwyddiad bydd gorymdaith goleuadau lantern i Goeden Bywyd lle bydd mynychwyr yn hongian rhubanau coch ac yn cadw munud o dawelwch.
30 mlynedd ar ôl plannu Coeden Bywyd, byddwn yn dod at ein gilydd i gofio pawb yr ydym wedi’u colli a myfyrio ar y cynnydd a wnaed.
Manylion pellach isod:
1 Rhagfyr, 4pm
Theatr Reardon Smith
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3NP