Ymunodd tîm Terrence Higgins Trust Cymru â phobl sy’n byw gyda HIV a phartneriaid sector o bob rhan o Gymru i goffau Diwrnod AIDS y Byd yn y Senedd.
Trefnwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd cyn Diwrnod AIDS y Byd ar 1 Rhagfyr, gan Fast Track Cymru ac roedd yn cynnwys prif areithiau gan bobl sy’n byw gyda HIV yng Nghymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles MS
Yn y derbyniad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn unedig yn eu cefnogaeth i bobl sy’n byw gyda HIV ond bod mwy o waith i’w wneud os yw Cymru am lwyddo i fynd i’r afael â stigma HIV a dod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030.
Nododd Ysgrifennydd y Cabinet nifer o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i gyflawni ei nodau ar gyfer 2030, gan gynnwys gweithio gyda Terrence Higgins Trust i gefnogi darpariaeth ar-lein o wasanaethau cymorth gan gymheiriaid.
Dywedodd Richard Angell OBE, Prif Weithredwr Terrence Higgins Trust
‘Roedden ni wrth ein bodd yn ymuno â phobl o bob rhan o’r sector HIV yng Nghymru – ac yn bwysig iawn gyda phobl sy’n byw gyda HIV yng Nghymru – wrth i ni goffáu Diwrnod AIDS y Byd yn y Senedd.
‘Mae Terrence Higgins Trust Cymru yn gweithio’n galed gyda phobl sy’n byw gyda HIV a phartneriaid sector ledled Cymru fel y gallwn ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 a mynd i’r afael â stigma HIV yn uniongyrchol.
‘Rydyn ni’n croesawu’r cyfaddefiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, er bod cynnydd wedi’i wneud, bod gwaith i’w wneud o hyd i sicrhau bod pobl sy’n byw gyda HIV yn gallu byw bywyd heb stigma a lle mae trosglwyddiad HIV wedi’i gyfyngu i’r llyfrau hanes. Dyna pam yr ydym yn ymgyrchu’n galed i Lywodraeth Cymru gyflawni ymrwymiad eu Cynllun Gweithredu i ariannu darpariaeth genedlaethol o gymorth gan gymheiriaid yng Nghymru.’