Penodwyd Dr Kate Nambiar fel ein Cyfarwyddwr Meddygol newydd.
Bydd hi’n chwarae rhan ganolog trwy ei harbenigedd clinigol wrth sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd rhywiol mewn cymunedau ymylol wrth i ni weithio tuag at ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030.
Mae hi’n cymryd yr awenau oddi wrth Dr Michael Brady, sy’n rhoi’r gorau i’r swydd y mis hwn ar ôl bron i 15 mlynedd yn y rôl.
Dechreuodd Dr Nambir weithio i’r GIG yn 1999 ac mae wedi arbenigo mewn iechyd rhywiol ers 2003. Mae’n angerddol am sicrhau bod gan bawb hawl i ofal iechyd da a’I fod yn realiti i bawb ac mae ganddi gyfoeth o brofiad, gan gynnwys gweithio fel Meddyg Arbenigol mewn Iechyd Rhywiol a HIV yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Sussex ac Ymchwilydd Doethurol yn Ysgol Feddygol Brighton a Sussex. Ar hyn o bryd mae Dr Nambir yn gweithio fel Clinigydd Rhyw ac Arbenigwr Endocrinoleg yng Ngwasanaeth Rhywedd Cymru yng Nghaerdydd.
Yn 2012 sefydlodd Dr Nambiar Clinic-T, clinig iechyd rhywiol ac atal cenhedlu a arweinir gan ac ar gyfer pobl traws ac anneuaidd yn Brighton, mewn partneriaeth â ni. Mae’r clinig yn darparu gwasanaeth cynhwysol ac anfeirniadol ac yn mynd i’r afael â’r bwlch mewn gwybodaeth iechyd rhywiol ac atgenhedlu ar gyfer y gymuned hon.
Dim ond ers 2015 y mae diagnosis HIV ymhlith pobl traws wedi’u cynnwys yn ystadegau blynyddol y DU – roedd Dr Nambir yn rhan o’r tîm a eiriolodd dros y newid hwn. Mae hi wedi bod yn hyrwyddwr hirsefydlog o ofal iechyd traws-gynhwysol ac yn ddiweddar bu’n rhan o dîm yn Brighton a lansiodd ganllawiau ar ofal amenedigol sy’n gynhwysol o ran rhywedd.
Bu Dr Nambiar hefyd yn ymwneud â datblygu ein gwybodaeth iechyd rhywiol traws-benodol, dan arweiniad ac yn dathlu pobl trawsrywiol, anneuaidd ac amrywiol o ran rhywedd. Wrth siarad am yr adnodd, dywedodd Dr Nambiar: ‘Mae iechyd rhywiol da yn hanfodol i bawb ond yn rhy aml mae pobl trawsrywiol, anneuaidd ac amrywiol o ran rhywedd yn cael eu gadael allan o wybodaeth brif ffrwd sy’n ymwneud ag iechyd rhywiol ac yn teimlo’n anghyfforddus wrth gael mynediad at wasanaethau prif ffrwd. Fel pobl traws, mae angen i ni weld ein hunain mewn ymgyrchoedd iechyd rhywiol a gwybod bod y wybodaeth wedi’i hysgrifennu gyda ni mewn golwg.’
Dywedodd ein prif weithredwr Ian Green: ‘Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu Dr Kate Nambiar fel Cyfarwyddwr Meddygol Terrence Higgins Trust. Mae Kate yn llais blaenllaw ym maes iechyd rhywiol – bydd ei phrofiad yn amhrisiadwy i Terrence Higgins Trust wrth i ni weithio i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol ac atgenhedlol da a gwybodaeth sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion; a bod HIV, iechyd rhywiol ac atgenhedlol yn rhydd rhag cywilydd a stigma.’
Dywedodd Dr Kate Nambir: ‘Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Meddygol newydd Terrence Higgins Trust. Rwy wedi edmygu gwaith yr elusen ers tro ac yn edrych ymlaen at ddefnyddio fy mhrofiad ym maes iechyd rhywiol a hunaniaeth rhywedd i gefnogi Terrence Higgins Trust yn ei chenhadaeth i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 a gwella iechyd rhywiol y genedl – a sicrhau bod pawb yn teimlo cynnydd gan bob cymuned yn ddieithriad.