Gweithio'n ddiogel
Does dim un achos o drosglwyddo HIV mewn lleoliad gofal cymdeithasol wedi bod erioed.
Mae’r tebygolrwydd o ddod i gysylltiad ag HIV wrth ddarparu gofal i rywun sy’n byw gydag HIV yn anghyffredin iawn.
Trwy ddilyn rhagofalon cyffredinol ac arferion gorau rheoli heintiau safonol, cewch chi eich amddiffyn, a’r rhai rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.
Fel mae’r adran ffeithiau am HIV yn ei phwysleisio, dim ond trwy rai hylifau corfforol mae HIV yn cael ei basio ymlaen – nid trwy roi neu dderbyn gofal personol.
Wrth ddarparu gofal a chymorth i bobl, dylid cadw at ragofalon cyffredinol a pholisïau rheoli heintiau, a rhaid i reolwyr sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu i unrhyw un sy’n gweithio yn eu gwasanaethau.
Ar gyfer tasgau lle mae angen defnyddio menig, does dim angen gwisgo pâr ychwanegol.
Ni ddylai pobl sydd gydag HIV gael eu trin yn wahanol i bobl eraill sy’n derbyn gofal; os ydyn nhw, byddai hyn yn achos o wahaniaethu.
Amddiffyn mewn argyfwng
Mae triniaeth PEP (proffylacsis ôl-gysylltiad ar gyfer HIV) yn gallu atal haint HIV ar ôl i’r feirws fynd i mewn i gorff unigolyn. Dylid ei gymryd cyn gynted â phosibl ar ôl dod i gysylltiad, ond o fewn 72 awr.
Dim ond dan amgylchiadau lle mae tebygolrwydd bod rhywun wedi dod i gysylltiad gydag HIV y caiff PEP ei roi i rywun, e.e. anaf gan offer miniog wrth ofalu am rywun sy’n byw gydag HIV nad yw’n cael triniaeth HIV.
Mae PEP ar gael o glinigau iechyd rhywiol, neu Adrannau Achosion Brys. Byddant yn cynnal asesiad i benderfynu a yw’n briodol rhoi PEP.
Staff sy'n byw gydag HIV
Does dim unrhyw reswm pam na all person sy’n byw gydag HIV weithio mewn unrhyw rôl gofal cymdeithasol.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud rhai mathau o wahaniaethu yn anghyfreithlon.
Mae gan unrhyw un sy’n cael diagnosis o HIV yr un amddiffyniad â phobl anabl, waeth beth fo’i statws iechyd.
Darllenwch fwy am y Ddeddf Cydraddoldeb a’r gweithle.