Gofalu am bobl yn y gymuned ac mewn cartrefi gofal preswyl
Dylai pobl gydag HIV allu cael y cymorth a’r gofal sydd eu hangen arnyn nhw heb ofni stigma HIV.
Yn 2022, roedd 50% o bobl sy’n byw gydag HIV yn 50+ oed, a mwy na 9,000 yn 65 oed neu’n hŷn.
Diolch i driniaeth HIV effeithiol, mae pobl sy’n byw gydag HIV yn heneiddio, gyda llawer bellach naill ai angen cymorth gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol neu’n meddwl am hynny.
Bydd angen cymorth ar bobl gydag HIV am yr un rhesymau â’r boblogaeth yn gyffredinol, a go brin y bydd eu hanghenion yn ymwneud yn uniongyrchol â’r HIV ei hun.
Bydd angen cymorth ar y mwyafrif oherwydd eu bod yn llai symudol, bod angen help arnyn nhw gyda thasgau dyddiol, neu am eu bod yn gwella ar ôl cyfnod o waeledd ac angen gofal seibiant.
Efallai y bydd gan rai pobl broblemau gwybyddol, a dylid eu cefnogi yn yr un modd â phobl sy’n byw heb HIV.
Gall plant, pobl ifanc, ac oedolion ag anghenion dysgu ac anableddau sy’n byw gydag HIV hefyd gael mynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol, a dylid eu cefnogi yn yr un modd â’u cyfoedion HIV-negatif.
Disgwyliadau gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol
Does gan y rhan fwyaf o bobl sy’n heneiddio gydag HIV ddim profiad o gael gafael ar gymorth gan wasanaethau gofal cymdeithasol, ond maen nhw’n ymwybodol o’r ffaith y gall fod ei angen yn y dyfodol.
Mae gan lawer y gwnaethom ni siarad â nhw bryderon penodol am wneud hynny, yn enwedig o ran cael eu stigmateiddio am eu bod nhw’n byw gydag HIV .
Cofiwch, mae gan bob unigolyn yr hawl i asesiad o dan Ddeddf Gofal 2014, ac ailasesiad os bydd ei anghenion yn newid, a sicrwydd y bydd ei anghenion yn cael eu diwallu.
Efallai y bydd rhai pobl sydd gydag HIV wedi defnyddio cymorth gofal cymdeithasol yn y gorffennol, ond bydd ganddyn nhw anghenion penodol bellach wrth heneiddio gydag HIV.
Efallai y bydd pobl sydd gydag HIV yn cael cymorth gofalwr neu aelod o’r teulu, a’u bod yn gymwys i gael asesiad o’u hanghenion am gymorth.
Darparu cymorth yn y cartref neu yn y gymuned
- Mae pobl eisiau cael eu trin â’r un parch ac urddas ag eraill sy’n derbyn gofal yn eu cymdogaeth.
- Maen nhw’n poeni y gallai cymdogion neu bobl eraill sy’n byw gerllaw ddod i wybod am eu statws os yw pobl yn hel clecs am y peth.
- Dydyn nhw ddim eisiau derbyn gofal o safon wahanol oherwydd bod pobl yn credu’r mythau am sut mae HIV yn cael ei basio ymlaen.
- Dylen nhw dderbyn gofal personol, gan gynnwys ymolchi a golchi, yn ogystal â phrydau bwyd yr un fath yn union ag eraill sy’n cael mynediad at ofal.
Darparu cymorth mewn cartref gofal preswyl
- Mae pobl eisiau cael eu trin gyda’r un parch ac urddas â phreswylwyr eraill.
- Maen nhw am barhau i fod mor annibynnol â phosib, gan gynnwys cymryd eu meddyginiaethau HIV.
- Maen nhw eisiau gallu cymdeithasu a rhyngweithio â thrigolion eraill heb gael eu trin yn wahanol.
- Dylent dderbyn gofal personol, gan gynnwys ymolchi a golchi, yn ogystal â’u prydau bwyd yn yr un ffordd â phreswylwyr eraill.
- Ni ddylai pobl sy’n dewis cael gofal preifat orfod talu mwy dim ond am eu bod yn byw gydag HIV.
Perthnasoedd, rhyw a heneiddio
- Mae gan bobl sy’n heneiddio gydag HIV yr hawl i berthnasoedd rhywiol a rhamantus.
- Mae gan bobl iau sy’n cael gofal cymdeithasol (ee gydag anabledd dysgu) yr hawl i gael gafael ar gymorth a gwybodaeth am eu hiechyd rhywiol.
- Maen nhw eisiau i gydweithwyr gofal cymdeithasol ddeall na allan nhw basio ymlaen HIV wrth gymryd triniaeth HIV effeithiol.
- Mae dynion hoyw a deurywiol sydd gydag HIV eisiau parhau i fod yn agored a hyderus am eu rhywioldeb.
- Pan fo angen, maen nhw eisiau gallu cael gafael ar wasanaethau cymorth iechyd rhyw ac atal STIs a HIV.
Os hoffech ragor o wybodaeth i gefnogi pobl sydd gydag HIV yn eich gwasanaeth, cysylltwch â ni.