Portreadau o Terry Higgins yn Hwlffordd i nodi ei ben-blwydd yn 80 oed

Mae portreadau o Terry Higgins wedi cael eu harddangos yn ei dref enedigol, Hwlffordd.

I nodi’r hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd 80 oed i Terry Higgins, mae cyfres o bortreadau o’r gŵr a roddodd ei enw i’n helusen wedi cael eu harddangos yn Amgueddfa Tref, Cyngor Tref a Llyfrgell Hwlffordd.

Terry Higgins oedd y person cyntaf a enwyd i farw o salwch cysylltiedig ag AIDS yn y DU. Fe’i ganed yn Sir Benfro ym 1945, bu’n byw yn Hwlffordd a mynychodd yr ysgol ramadeg leol i fechgyn rhwng 1956 a 1960. Bu farw Terry yn Ysbyty St Thomas yn Llundain ym 1982 ar ôl salwch – yn ddim ond 37 oed. Ar ôl ei farwolaeth, sefydlodd ei bartner, Rupert Whitaker OBE, a’i ffrind agos, Martyn Butler OBE, y Terrence Higgins Trust er cof amdano. Heddiw, mae’r elusen yn cefnogi pobl sy’n byw gyda HIV i fyw’n dda, gan gynnwys darparu cymorth gan gymheiriaid ledled Cymru.

I nodi pen-blwydd Terry, rydyn ni’n gofyn i’n cefnogwyr gwych ‘Do it for Terry’, fel y gwnaeth ffrindiau Terry ym 1982. Cliciwch yma (EN) i ddarganfod mwy am ein hymgyrch Do it for Terry, ac i ddysgu am fywyd Terry a’i waddol parhaol.

Terry Higgins – Three Ages of Terry (2023) gan Curtis Holder

Mae’r portread pensiliau lliw hwn gan yr artist Curtis Holder yn darlunio Terry Higgins ar dri chyfnod yn ystod ei oes: yn ei arddegau, yn ddyn ifanc, ac yn yr wythnosau olaf cyn ei farwolaeth o salwch cysylltiedig ag AIDS – un o’r cyntaf yn y DU.

Mae’r llun, sy’n seiliedig ar luniau ac atgofion personol a rannwyd gan ei bartner Rupert Whitaker OBE, yn defnyddio palet coch sy’n symboleiddio’r rhuban coch sy’n arwyddlun rhyngwladol o ymwybyddiaeth HIV.

Mae’r portread gwreiddiol i’w weld yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, gyda chefnogaeth y Terrence Higgins Trust. Cafodd ei ddadorchuddio i nodi’r hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd Terry yn 78 oed ac mae’n talu teyrnged i’w fywyd a gwaith y Terrence Higgins Trust o ran codi ymwybyddiaeth o HIV a helpu i gael gwared ar y stigma cysylltiedig.

Mae’r portread hwn ar fenthyg gan y Terrence Higgins Trust i Amgueddfa Tref Hwlffordd tan fis Ionawr 2026.

Terry Higgins (10 Mehefin 1945 – 4 Gorffennaf 1982), portread gan Nathan Wyburn (2022)

Cafodd y portread hwn o Terry o’i ddyddiau ysgol yn Hwlffordd ei baentio mewn lliwiau Cymreig – coch a gwyrdd, gan yr artist Cymreig Nathan Wyburn, gan ddefnyddio stampiau siâp calon – y symbol sydd i’w weld yn logo y Terrence Higgins Trust. Mae’r llun yn talu teyrnged i fywyd Terry a gwaith parhaol yr Ymddiriedolaeth yn codi ymwybyddiaeth o HIV ac yn helpu i gael gwared ar stigma.

Mae’r portread hwn yn brint cyfyngedig sydd wedi’i lofnodi gan yr artist a’i roi i Amgueddfa Tref Hwlffordd gan y Terrence Higgins Trust.

Dywedodd Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust:

‘Ar 80 mlwyddiant ei eni, rydyn ni’n hynod falch bod portreadau o Terry yn cael eu harddangos ar hyd a lled Hwlffordd – y dref lle treuliodd lawer o’i fywyd cynnar.

‘Mae’r portreadau gwych hyn gan Curtis Holder a Nathan Wyburn yn rhoi cipolwg ar fywyd Terry a’i waddol. Rydyn ni’n falch o rannu ei stori mewn partneriaeth ag Amgueddfa Tref Hwlffordd, Cyngor Tref Hwlffordd a Llyfrgell Hwlffordd’.

Dywedodd Dr Simon Hancock MBE FSA, Curadur Amgueddfa Tref Hwlffordd:

‘Mae’n anrhydedd i Amgueddfa Tref Hwlffordd gynnal yr arddangosfa arbennig hon o gelf i nodi 80 mlwyddiant geni Terrence Higgins yn Hwlffordd. Roedd yn ymgyrchydd ac yn ddylanwadwr cymdeithasol sy’n haeddu bod yn llawer mwy adnabyddus yn y dref lle y treuliodd bron i hanner ei oes. Rydyn ni’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â’r Terrence Higgins Trust, Cyngor Tref Hwlffordd a Llyfrgell Hwlffordd i sicrhau bod y pen-blwydd pwysig hwn yn cael ei nodi’n briodol.’

Dywedodd Vanessa Lewis Camacho, Clerc Tref yng Nghyngor Tref Hwlffordd:

‘Rydyn ni’n falch iawn bod y Terrence Higgins Trust wedi cysylltu â ni i helpu i nodi ei 80 mlwyddiant yma yn Hwlffordd, lle cafodd ei eni. Mae’n wych gweithio ochr yn ochr â’r ymddiriedolaeth, a’n llyfrgell a’n hamgueddfa, sydd wedi llunio arddangosfeydd gwych i ddathlu ei fywyd a’i waddol.’

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Llyfrgell Sir Benfro:

‘Mae’n anrhydedd arddangos y llun o Terrence Higgins yn Llyfrgell Hwlffordd, i nodi 80 mlynedd ers ei eni.

Y Terrence Higgins Trust yw prif elusen HIV ac iechyd rhywiol y DU bellach ac mae’n bwysig bod y dyn a ysbrydolodd yr elusen yn cael ei gofio, yn enwedig yma yn ei dref enedigol.

‘Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle i weld y llun o Terrence gan Nathan Wyburn a dysgu mwy am Terrence a’r elusen sy’n dwyn ei enw.’

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button