Cymru yw un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i gynnig brechlyn ar gyfer gonorea

Mae brechlyn sy’n helpu i atal achosion newydd o gonorea bellach ar gael gan wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru. Mae’r brechlyn ar gael i gleifion sy’n wynebu’r risg uchaf o gael yr haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI), gan gynnwys dynion hoyw a deurywiol sydd â hanes diweddar o bartneriaid rhywiol lluosog ac STI bacteriol yn y 12 mis blaenorol.
Mae’r data diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos gostyngiad mewn achosion newydd o gonorea, ar ôl cyrraedd y niferoedd uchaf mewn 10 blynedd yn 2023. Yn 2024, cafodd 3,204 o bobl ddiagnosis o gonorea yng Nghymru, sy’n ostyngiad o’r 5,336 diagnosis a gafwyd yn 2023. Fe wnaeth nifer y bobl sy’n profi am gonorea ostwng ychydig yn yr un cyfnod, gan ddisgyn o 93,802 o bobl yn 2023 i 92,283 yn 2024.
Dechreuodd y rhaglen frechu yn gynharach yr haf hwn a bydd yn helpu i ddiogelu’r rhai sy’n wynebu’r risg uchaf o gonorea – gan o bosibl sicrhau bod hyn at 100,000 o achosion o’r STI yn cael eu hosgoi ledled y DU dros y degawd nesaf.
Dywedodd Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust:
‘Rhaglen frechu gonorea yw’r cam gweithredu beiddgar sydd ei angen arnom i droi’r llanw ar gyfraddau STI hanesyddol. Gyda Chymru eisoes yn arwain y ffordd gyda gwasanaeth profi STI ar-lein cenedlaethol, mae hwn yn arf arall yn ein pecyn cymorth i ymdrin â chyfraddau STI cynyddol a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Nawr mae angen i ni wneud yn siŵr bod pawb a allai elwa ar y brechlyn hwn yn gwybod amdano’.