Dywedodd Debbie Laycock, Pennaeth Polisi yn Terrence Higgins Trust: ‘Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol yn yr ymateb i HIV yng Nghymru. Diolch i’r ddarpariaeth bresennol, mae PrEP eisoes wedi cael effaith wirioneddol yn y frwydr yn erbyn HIV yng Nghymru, gyda dim trosglwyddiadau HIV newydd ymhlith y rhai sy’n cymryd PrEP yn y tair blynedd diwethaf. Trwy sicrhau bod y trawsnewid HIV hwn ar gael fel mater o drefn, gellir datgloi ei fuddion yn llawn yn awr.
‘Llywodraeth Cymru oedd y llywodraeth gyntaf yn y DU i ymrwymo i ddod â throsglwyddiadau HIV newydd i ben erbyn 2030 a bydd mynediad PrEP hirdymor yn chwarae rhan fawr wrth wireddu hyn. Mae Cymru yn parhau i arwain y ffordd ac mae wedi darparu ymrwymiad cadarn i PrEP a chydnabod ei fod yn gost-effeithiol. Mae’r arweinyddiaeth wleidyddol hon wedi bod yn bwysig.
“Rydyn ni wedi bod yn falch o sefyll ochr yn ochr ag elusennau, grwpiau cymunedol ac actifyddion eraill ledled Cymru i sicrhau mai cyhoeddiad heddiw oedd yr un cywir. Nawr mae’r gwaith go iawn yn dechrau cael PrEP yn nwylo mwy o’r rhai a all elwa ohono.’
Ynglyn a’r camau nesaf, ychwanegodd Debbie Laycock: ‘Rydyn ni’n deall bod COVID-19 yn parhau i roi pwysau ar bob rhan o’r gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn bod trosglwyddiad esmwyth i PrEP arferol ar gyfer pobl sy’n cyrchu PrEP trwy’r astudiaeth ar hyn o bryd.
‘Mae heriau o hyd i sicrhau nad yw PrEP yn cael ei weld fel rhywbeth i ddynion hoyw a deurywiol yn unig a bod ei fuddion yn gallu cyrraedd grwpiau eraill y mae HIV yn effeithio arnynt, gan gynnwys menywod, pobl drawsrywiol a chymunedau BAME. Gwyddom hefyd fod nifer o bobl wedi bod yn gymwys ar gyfer PrEP ond wedi’i wrthod ac rydyn ni’n croesawu’r astudiaeth sy’n edrych ar hyn o bryd i weld pam.
‘Byddwn yn parhau i chwarae ein rhan wrth weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a sicrhau ei bod yn cyflawni ei haddewid i roi terfyn ar yr epidemig HIV yng Nghymru erbyn 2030. Mae heddiw yn foment arloesol yn y daith tuag at y nod hwn.’