Gyda thristwch mawr y mae’r Terrence Higgins Trust yn cyhoeddi marwolaeth sydyn ein cyd-sylfaenydd, ein noddwr a’n ffrind, Martyn Butler OBE

Yn arwain y teyrngedau i Martyn mae ei frawd, Guy Hewett, cyn-gapten y Llewod Gareth Thomas CBE, y Gwir Anrhydeddus Wes Streeting, Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Jeremy Miles AS Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yr Aelod Seneddol lleol Jessica Morden, Tony Whitehead MBE, cadeirydd cyntaf y Terrence Higgins Trust a Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust, yr elusen a gydsefydlodd Martyn ym 1982.

Martyn Butler OBE – 30 Gorffennaf 1954-21 Chwefror 2026

Cafodd Martyn ei eni a’i fagu yng Nghasnewydd cyn symud i Lundain yn y 1970au i weithio ym myd hysbysebu, sinema ac adloniant. Ar y sîn hoyw cyfarfu â’i gyd-Gymro Terry Higgins. Byddent yn mynd ymlaen i weithio yng nghlwb nos Heaven gyda’i gilydd, Martyn ar y lasers a Terry ar y deciau.  

Pan ddaeth Terry y person cyntaf i farw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS yn y DU, ymunodd Martyn â chariad Terry, Rupert Whitaker, i greu sefydliad ymateb i HIV cyntaf Ewrop. Crëwyd y Terrence Higgins Trust ym 1982 i ddyneiddio’r epidemig, cefnogi pobl a oedd yn byw gydag AIDS a rhannu’r wybodaeth a fyddai’n atal trosglwyddo HIV.  

Martyn drefnodd y sesiwn codi arian gyntaf – gan godi £400 (£1400 yn nhermau arian heddiw). Aeth ati i siarad yn y gynhadledd AIDS gyntaf a drefnwyd gan y Gay Switchboard a’r Gay Medics Association, dyluniodd taflen gyntaf y Terrence Higgins Trust ac ym 1983 defnyddiodd ei rif ffôn cartref fel y llinell gymorth AIDS gyntaf.  

Am bum degawd mae wedi cefnogi’r Terrence Higgins Trust, pobl sy’n byw gyda HIV, ac wedi brwydro dros hawliau LHDT. Ym mis Mehefin 2022, cydnabu’r Frenhines Elizabeth II gyfraniad enfawr Martyn gydag OBE a dyfarnwyd ‘Gwobr Cyflawniad Oes’ Rainbow Honours iddo yn yr un flwyddyn. Mae stori Martyn wedi’i hanfarwoli yn nrama Russell T. Davies, It’s a Sin, a gadawodd rhestr chwarae o’i hoff ganeuon ef a Terry o’u cyfnod yng nghlwb Heaven: Gwrandewch ar restr chwarae The Spirit of Heaven ar Spotify. 

Mae’n gadael ei fam Diane, ei frodyr iau Guy, Andrew a’i chwaer Jacqueline.

Dywedodd Guy Hewett, brawd Martyn:

‘Roedd Martyn yn fab a brawd yn gyntaf, dyna sut y byddwn ni’n ei gofio. Rydyn ni wedi torri’n calonnau o’i golli mor sydyn ond yn llawn balchder am bopeth a gyflawnodd.  

‘Roedd yn ystyried hysbysu’r wlad, ac yn enwedig y gymuned hoyw, o’r ychydig wybodaeth a oedd ar gael am HIV ac AIDS ddechrau’r 1980au, fel dyletswydd. Roedd mor falch o’r hyn yw’r Terrence Higgins Trust erbyn heddiw, ac roedd yn rhan o’r elusen tan y diwedd un. Galar yw pris ofnadwy cariad, ond rydyn ni’n gwybod y bydd ei waddol yn para am byth.’

Dywedodd Gareth ‘Alfie’ Thomas CBE, cyn-chwaraewr rygbi Cymru a’r Gweilch a chyn-gapten y Llewod a noddwr y Terrence Higgins Trust:

‘Wrth sefydlu’r Terrence Higgins Trust, cyflwynodd Martyn Butler naws Gymreig i waith sefydliad a oedd wedi’i gyflwyno i’w gyd-Gymro. Roedd yn arloeswr a lynodd at y nod o gefnogi pobl sy’n byw gyda HIV am bum degawd. Byddaf yn cofio ei wên am byth, a byddwn ni’n parhau â’r frwydr er cof amdano.’

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Wes Streeting, Aelod Seneddol a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: 

‘Roedd Martyn Butler yn ymgyrchydd brwd dros bobl sy’n byw gyda HIV. Roedd ganddo’r weledigaeth i sefydlu’r Terrence Higgins Trust a’r craffter i’w enwi ar ôl ei ffrind er mwyn rhoi’r ochr ddynol i epidemig AIDS, sydd wedi siapio ymateb y DU i HIV.  

‘Fel Ysgrifennydd Iechyd, roedd yn fraint i mi fod yn rhan o’i bumed degawd o hyrwyddo dulliau atal HIV, cefnogi a chofio. Rydyn ni’n ddyledus iddo am byth a bydd ei waddol yn parhau’.

Dywedodd Jeremy Miles, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn Llywodraeth Cymru: 

‘Cwta dri mis yn ôl yr aeth Martyn Butler a minnau ati i ddadorchuddio plac glas yn Hwlffordd ar gyfer Terry Higgins. Siaradodd yn wylaidd am ei ffrind a’i angerdd yn ystod y 43 mlynedd ddilynol. Am golli cymaint o ffrindiau, y cynnydd mewn hawliau LHDT a’r datblygiadau mewn gofal, triniaeth ac atal HIV.  

‘Roedd yn llais grymus pan oedd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu ei Chynllun Gweithredu ar HIV ei hun. Er mwyn Martyn, rhaid inni fodloni’r uchelgais hwn: rhoi terfyn ar achosion newydd o HIV a bod y wlad gyntaf i wneud hynny.’

Dywedodd Jessica Morden, Aelod Seneddol Dwyrain Casnewydd: 

‘Rwy’n drist iawn o glywed am farwolaeth Martyn. Dyn annwyl y cefais y fraint enfawr o ddod i’w nabod fel etholwr.  

‘Defnyddiodd ei rif ffôn cartref ei hun fel y llinell gymorth AIDS gyntaf ym 1983 a daeth yn ymgyrchydd diflino, gydol oes a phenderfynol i helpu’r rhai sy’n byw gyda HIV ac wedi’u heffeithio ganddo. Dyn ysbrydoledig a hyfryd dros ben.’

Dywedodd Tony Whitehead MBE, cadeirydd cyntaf y Terrence Higgins Trust: 

‘Clywed Martyn Butler yn siarad yn y Gynhadledd AIDS gyntaf yn Conway Hall a’m hysgogodd i ymuno â’r Terrence Higgins Trust. Cefais fy ysbrydoli gan ei ddewrder i siarad a’i benderfyniad i wneud pethau.  

‘Roedd ef a llond llaw o’i ffrindiau wedi bod yn codi arian fel slecs yng nghlwb nos Heaven ac ati, ond ar yr achlysur hwn, anfonodd alwad i’r gymuned i gymryd rhan a llywio’r epidemig. Diolch byth, dilynodd cymaint ei esiampl. Bydd colled enfawr ar ei ôl.’

Dywedodd Rupert Whitaker OBE am ei gyd-sylfaenydd o’r Terrence Higgins Trust:

‘Dangosodd Martyn y gall pobl gyffredin wneud pethau anghyffredin gyda digon o ofal ac angerdd – ac fe wnaethon ni ddilyn ei esiampl benderfynol. Doedd e ddim yn ddyn mawreddog, yn hytrach roedd yn wylaidd, direidus, brwdfrydig, ymroddedig, a gofalgar dros ben. Yn ei ddegawd olaf, dechreuodd ffynnu o’r diwedd yn y cynhesrwydd, y parch a’r cariad yr oedd wir yn eu haeddu’.

Dywedodd Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust:

‘Torcalon oedd clywed y newyddion bod Martyn Butler wedi marw’n sydyn. Daw ei farwolaeth fel sioc i gynifer ohonom: roedd i fod i siarad mewn digwyddiad gan y Terrence Higgins Trust ddydd Gwener nesaf. 

‘Fyddai’r Terrence Higgins Trust yn sicr ddim wedi bodoli oni bai am Martyn. O ran y sefydliad a phobl sy’n byw gyda HIV, doedd dim byd yn ormod o drafferth iddo. O’n hymgyrch codi arian gyntaf, i’n digwyddiad siarad cyhoeddus cyntaf a’n taflen gyntaf, i orymdeithio yn Pride Caerdydd, dadorchuddio plac glas Terry Higgins yn Hwlffordd a siarad â’r cyfryngau, mae Martyn wedi cerdded gyda ni bob cam o’r ffordd. Bydd hiraeth mawr am Martyn yma yn y Terrence Higgins Trust a bydd ei fam, ei frodyr a’i chwiorydd a’r ffrindiau a oedd mor lwcus i dreulio amser yn ei gwmni yn gweld ei eisiau’n fawr iawn.  

‘Roedd yn benderfynol, yn llawn ysbryd a doedd byth yn cymryd ‘na’ fel ateb. Roedd ganddo galon enfawr ac roedd hefyd yn ddewr – gan roi ei rif ffôn cartref fel y llinell gymorth AIDS gyntaf ym 1983. Roedd hefyd yn ofalgar, ac yn ysbrydoliaeth i bobl fyddar eraill ym mhob cwr. Bydd colled enfawr ar ei ôl.’

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Nick Thomas-Symonds, Gweinidog Swyddfa’r Cabinet:

‘Neilltuodd Martyn ei fywyd i gefnogi ac ymladd dros y rhai â HIV. Fe wnaeth ei ymroddiad anhunanol drawsnewid y ffordd y mae’r DU yn trin salwch a gludir gan waed.

‘Fel Gweinidog sy’n goruchwylio brwydr dros gyfiawnder yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig, mae’n anrhydedd o fod wedi gweithio gyda Martyn i sefydlu’r cynllun iawndal cyntaf. Bydd ei gof a’i waddol yn para am byth.’

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button