Creu hanes: HIV yn ganolog i’r Eisteddfod Genedlaethol

Blog gan Joseph Chambers, Cydlynydd Cymorth Cymheiriaid Ar-lein Cymru yn Terrence Higgins Trust.

Fel rhywun sydd wedi tyfu i fyny yng Nghymru, wedi dysgu’r Gymraeg i rhugl ac ar hyn o bryd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru yn ddwyieithog, rwy’n deall pa mor bwysig yw’r Eisteddfod Genedlaethol   yn ein calendr. Mae’n un o’r cyfarfodydd diwylliannol mwyaf yn Ewrop, sy’n dod â miloedd o bobl at ei gilydd i ddathlu diwylliant, iaith, cymuned a’r celfyddydau Cymru.

Eleni, am y tro cyntaf erioed, roedd HIV yn ganolog i’r llwyfan. I fi, roedd gweld HIV yn cael ei dynnu sylw mewn digwyddiad diwylliannol mor bwysig yn teimlo fel cam gobeithiol ymlaen: cyfle i ddisodli distawrwydd gyda bod yn agored, ansicrwydd gyda dealltwriaeth, a chywilydd â balchder ym mha mor bell y mae Cymru wedi dod.

Roedd hanes HIV yng Nghymru, yr effaith y mae stigma yn dal i gael ar bobl sy’n byw gyda’r feirws, a’r cyfle sydd gan Gymru i roi terfyn ar achosion newydd o HIV erbyn 2030 i gyd yn bynciau sgwrs pwysig. Roedd yn teimlo fel eiliad nodedig i fi rannu bod pobl sy’n byw gydag HIV sydd ar driniaeth effeithiol yn gallu byw bywydau hir, iach ac ni allan nhw drosglwyddo HIV ymlaen yn rhywiol.

Mae’r wybodaeth honno yn rhoi cymaint o reswm i ni am obaith, hyd yn oed wrth i ni barhau i herio syniadau a stigma sydd wedi dyddio. Agorodd le i siarad yn onest am brofi, triniaeth, cymorth gan gymheiriaid a’r hyn y mae’n ei olygu nid yn unig i fyw gydag HIV, ond i fyw’n dda a ffynnu yng Nghymru.

Yn fy ngwaith fel Cydlynydd Cymorth Cymheiriaid Ar-lein, rwy’n gweld pa mor bwysig yw hi bod pobl sy’n byw gydag HIV yn gallu cael mynediad at gymorth ble bynnag maen nhw. Yng Nghymru, mae hynny’n bwysig iawn. Nid yw pawb yn byw ger clinig, grŵp cymorth neu dref fawr, ac i bobl yn y cymunedau mwyaf gwledig, gall pellter, trafnidiaeth a phreifatrwydd i gyd ei gwneud hi’n anoddach estyn allan. Mae cymorth cymheiriaid ar-lein yn helpu i bontio’r bwlch hwnnw. Mae’n golygu y gall rhywun sy’n byw gydag HIV hyd yn oed yn y rhan fwyaf gwledig o Gymru gysylltu â rhywun sy’n deall, gofyn cwestiynau, teimlo’n llai ynysig a chael cefnogaeth mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw.

Drwy wneud profiad byw o HIV yng Nghymru a gwybodaeth yn weladwy mewn digwyddiad diwylliannol mawr yng Nghymru, helpodd y diwrnod i herio mythau, annog pobl i geisio cefnogaeth, a dangos y gall dyfodol HIV yng Nghymru fod yn un o onestrwydd, gofal a chymuned.

Roeddwn hefyd  yn falch o fod yn rhan o gofio’r Cymro balch, ac enwog ein helusen, Terry Higgins. Roedd y gofeb yn llawn dathliadau, gyda cherddoriaeth gan Côr Meibion Hoyw De Cymru, dawnsio bol gan Rahim El Habachi a dawnsio fôg gan Alia 077. Diolch yn fawr hefyd i Mirain Iwerydd am gyflwyno’r digwyddiad a helpu i wneud y diwrnod mor gofiadwy.

I fi, roedd yr Eisteddfod eleni yn  cario neges ddisglair a phwerus: bod HIV yn perthyn i’n sgyrsiau cyhoeddus, bod modd goresgyn stigma, a bod pobl sy’n byw gydag HIV yn haeddu cael eu gweld, eu cefnogi a’u dathlu fel rhan o stori gyfoethog a gobeithiol Cymru gyfoes.

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button