Ymgyrchoedd
Mae PrEP yn amddiffyn
Yn 2023, cynhaliodd Terrence Higgins Trust, Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru ymgyrch bartneriaeth genedlaethol ar PrEP (Pre-Exposure Prophylaxis). Esboniodd yr ymgyrch sut y gellir defnyddio’r cyffur i atal HIV a ble i gael gafael arno yng Nghymru. Aeth sgriniau digidol ac ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar draws y wlad â’n neges i’r Cymry, yn Saesneg ac yn Gymraeg
Cyffur yw PrEP a gymerir gan bobl nad ydynt wedi’u heintio â HIV cyn cael rhyw ac ar ôl cael rhyw sy’n lleihau’r risg o gael eu heintio â HIV.
Beth yw PrEP?
Tabled yw PrEP sy’n cynnwys cyffuriau a ddefnyddir i drin HIV. Mae pobl nad ydynt wedi’u heintio â HIV yn cymryd y dabled hon er mwyn lleihau eu risg o gael eu heintio â HIV. Ers haf 2018, mae GIG Cymru wedi bod yn rhoi Teva ar bresgripsiwn, y brand cyffredinol o’r cyffur sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer PrEP (emtricitabin a tenoffofir disoprocsil).
A oes cynnydd wedi bod yng nghyfraddau trosglwyddo HIV yng Nghymru?
Sut mae PrEP yn gweithio?
Os ydych yn cymryd PrEP ac yn cael eich amlygu i HIV, mae PrEP yn atal HIV rhag cyrraedd eich celloedd a dyblygu a dylech barhau i fod heb eich heintio â HIV. Er mwyn iddo fod yn effeithiol, rhaid cymryd PrEP yn gywir, gan sicrhau bod digon o’r cyffur yn eich gwaed cyn i chi gael eich amlygu i HIV. Yn y rhan fwyaf o astudiaethau PrEP, does neb wedi’u heintio os gwnaethant gymryd PrEP fel yr argymhellwyd. Ond os nad ydych chi’n ei gymryd yn gywir, efallai na wnaiff weithio.
A ddylwn i ystyried cymryd PrEP?
Mae PrEP ar gyfer pobl nad ydynt wedi’u heintio â HIV ac sydd mewn risg uwch o gael eu heintio â HIV drwy eu gweithgareddau rhywiol neu fod posibilrwydd ohonynt yn cael eu hamlygu i HIV. Felly os nad oes gennych chi HIV ac nad ydych yn defnyddio condom bob tro, gallai PrEP leihau eich risg o gael eich heintio â HIV.
Mae rhai arwyddion y gallech fod mewn risg uwch o HIV, yn cynnwys eich bod wedi cael haint a drosglwyddir yn rhywiol yn ddiweddar neu’ch bod wedi defnyddio PEP (proffylacsis ôl-amlygiad).
Yn ôl astudiaethau, gall PrEP leihau’n sylweddol y risg o gael eich heintio â HIV (bron i 100%) pan gymerir nhw yn rheolaidd.
Cyn dechrau PrEP, rhaid i chi gymryd prawf HIV er mwyn sicrhau nad ydych wedi’ch heintio â HIV. Mae cael cadarnhad o brawf HIV negatif yn hanfodol er mwyn dechrau cymryd PrEP. Rhaid i bobl sy’n cymryd PrEP gael prawf HIV bob tri mis. Gallwch gael prawf HIV yn eich clinig iechyd rhywiol lleol neu drwy archebu prawf ar-lein.
Sut ydw i’n cymryd PrEP?
Wrth eu cymryd bob dydd, mae PrEP yn ddiogel ac yn hynod effeithiol o ran atal HIV. Bydd cymryd PrEP yn ddyddiol yn amddiffyn pobl o bob rhywedd sy’n cael bob math o wahanol fathau o ryw.
Ffordd arall o gymryd PrEP yw’r dosau ‘ar alw’ neu ddosau ‘yn seiliedig ar achos’, ond dim ond mewn perthynas â dynion hoyw a deurywiol yr astudiwyd hyn. Gall PrEP roi lefel amddiffynnol ar gyfer rhyw rhefrol drwy gymryd dos dwbl rhwng dwy awr a 24 awr cyn cael rhyw a chymryd un dabled 24 awr ar ôl cael rhyw ac un arall 48 awr ar ôl cael rhyw. Wedi dweud hynny, os na chymerir y feddyginiaeth yn ddyddiol, bydd yr effaith amddiffynnol yn lleihau.
Ar gyfer rhyw drwy’r wain, mae PrEP yn cyrraedd ei lefel amddiffynnol uchaf ar ôl ei gymryd bob dydd am saith diwrnod ac argymhellir ei gymryd bob dydd er mwyn cynnal yr amddiffyniad.
Argymhellir PrEP dyddiol ar gyfer pobl draws sy’n mynd drwy driniaeth hormonau gan nad oes digon o ddata i gefnogi opsiynau dosau eraill.
A gaf i gymryd PrEP ar ôl cael fy amlygu i HIV?
Mae PrEP ar gyfer y bobl hynny sydd mewn risg uwch o gael eu heintio â HIV ond sydd wedi cael amser i gymryd y cyffur er mwyn iddo gyrraedd ei lefelau amddiffynnol cyn cael eu hamlygu i HIV.
Gall PEP (proffylacsis ôl-amlygiad) eich atal chi rhag datblygu haint HIV os ydych chi’n credu eich bod wedi’ch amlygu i’r feirws yn ddiweddar. Rhaid i chi ddechrau ar y driniaeth cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gael eich heintio â HIV, yn ddelfrydol cyn pen ychydig oriau a chyn pen dim hirach na 72 awr.
Sut ydw i’n cael PrEP drwy’r GIG yng Nghymru?
Er mwyn cael PrEP drwy’r GIG yng Nghymru, rhaid i chi fodloni meini cymhwysedd penodol. Rhaid i chi gael profion gwaed i wirio bod eich aren a’ch iau yn gweithio’n iawn, gan ei bod hi’n bosibl i’r cyffur effeithio arnyn nhw. Byddwch chi hefyd yn cael eich profi i sicrhau nad ydych wedi’ch heintio â HIV.
Os rhoddir PrEP i chi, cewch werth mis ohonynt ar bresgripsiwn. Gan gymryd yn ganiataol bod eich canlyniadau gwaed yn parhau i fod yn normal yn yr adolygiad clinig ar ddiwedd y mis cyntaf, a’ch bod yn dymuno parhau i ddefnyddio PrEP, cewch bresgripsiwn i bara tri mis yn ystod ymweliadau dilynol.
Bob tro y byddwch chi’n dod i’r clinig, cewch brofion gwaed i sicrhau bod eich aren a’ch iau yn dal i weithio’n iawn a chewch eich profi hefyd am HIV a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol. Er bod PrEP yn hynod effeithiol o ran atal HIV, ni fydd yn eich amddiffyn chi rhag heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol a beichiogrwydd annisgwyl.
Ble allaf gael PrEP yng Nghymru?
Er mwyn cael PrEP, rhaid i chi fynd i glinig iechyd rhywiol yng Nghymru. Dyma’r rhai sy’n cynnig PrEP:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Canolfan Cordell, Casnewydd
Ffôn: 01633 234848 (yn bwrpasol ar gyfer ymholiadau PrEP a HIV) neu 01495 765065 (opsiwn 1 ar gyfer y Gymraeg neu opsiwn 2 ar gyfer y Saesneg, ac yna opsiwn 2 ar gyfer HIV a PrEP).
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ysbyty Singleton
Ffôn: 0300 555 0279
Ebost: [email protected]
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Conwy a Sir Ddinbych: 03000 856000 (llinellau yn agored dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 3pm)
Sir y Fflint a Wrecsam: 03000 856000 (llinellau yn agored dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 3pm) neu 01978 727197 (9am tan 2.30pm)
Ynys Môn a Gwynedd: 03000 850074 (llinellau yn agored dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 3pm)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Clinig PrEP, Adran Iechyd Rhywiol, Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Ffôn: 029 2033 5208
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Ysbyty Dewi Sant, Pontypridd
Ffôn: 01443 443836
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Ffôn: 01267 248674
Bwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe
Singleton Hospital
Tel: 0300 555 0279
Email: [email protected]