Wrth siarad mewn dadl seneddol i nodi Wythnos Genedlaethol Profi HIV yn Lloegr, galwodd Alex Barros-Curtis, A Gorllewin Caerdydd, am gamau pellach i ddileu achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030.
Wrth gydnabod rôl bwysig y gwasanaeth profi cenedlaethol ar gyfer HIV ac STIs yng Nghymru, fe wnaeth Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd annog Llywodraeth Cymru i fynd gam ymhellach yn eu hymdrechion i normaleiddio profion HIV, gan alw ar y Llywodraeth i ystyried rôl profion HIV sy’n cael eu darparu fel dewis optio allan mewn adrannau brys, mewn ymateb i HIV yng Nghymru. Ar ben hynny, anogodd Lywodraeth y DU i chwalu’r rhwystrau i fynediad at driniaeth PrEP ac i sicrhau bod modd cael gafael ar y cyffur atal hanfodol mewn fferyllfeydd cymunedol ledled y DU.
Talodd Mr Barros-Curtis deyrnged i’r gŵr a roddodd ei enw i’n helusen hefyd, Terry Higgins, gan gydnabod gwaith pwysig Ymddiriedolaeth Terrence Higgins sy’n helpu pobl o Fôn i Fynwy sy’n byw gyda HIV ac sy’n hyrwyddo’r camau i ddileu achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030.
Dywedodd Alex Barros-Curtis A:
‘Fi yw Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd, felly mae ond yn iawn i mi drafod cyfraniad balch Cymru wrth ymateb i’r epidemig AIDS a darparu cymorth parhaus i bobl sy’n byw gyda HIV.
Yn wir, mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wedi’i enwi ar ôl Cymro, a fu unwaith yn gweithio yn y lle hwn i’n ffrindiau yn Hansard. Cafodd ei gyd-sefydlu gan Gymro arall, Martyn Butler OBE, ac mae’n parhau i fod yr elusen flaenllaw ar gyfer cefnogi pobl yng Nghymru sy’n byw gyda HIV, i gyd yr un ddime o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Heb Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, ni fyddai gan Gymru gynllun gweithredu HIV a’i 30 o gamau pwysig; heb Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, ni fyddai gennym Wythnos Genedlaethol Profi HIV, sy’n dod â ni at ein gilydd heddiw. Felly, rwy’n talu teyrnged i’r gwaith y mae staff ac eiriolwyr Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn ei wneud.
Fel y dywedwyd eisoes yn y ddadl hon, mae’r hyn a wnaeth y Prif Weinidog yr wythnos hon wedi gosod esiampl enfawr, nid yn unig yma yn y DU ond ledled y byd. Trwy gymryd prawf HIV a chwalu’r stigma trwy siarad am bwysigrwydd ei gymryd, mae wedi defnyddio ei safle i siarad â phawb yn ein gwlad ac o amgylch y byd, mae wedi dileu rhai o’r rhwystrau i archebu prawf HIV, ac wedi rhoi gwybod i bobl bod y profion hyn ar gael.
Mewn arolwg o’r cyhoedd gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins y llynedd, nid oedd 80% o’r rhai a holwyd yn ymwybodol bod profion gartref, gan ddefnyddio pecyn drwy’r post, hyd yn oed yn bosibl. Ond pan gynigiwyd y dewis hwnnw o gymharu â’r rhai eraill, profion cartref oedd yr hoff opsiwn o bell ffordd. Diolch byth, yng Nghymru mae gennym Lywodraeth Cymru sy’n cael ei rhedeg gan y Blaid Lafur, sy’n darparu pecynnau hunan-brofi yn y cartref gydol y flwyddyn. Cyferbynnwch hynny â’r sefyllfa yn Lloegr, lle mai dim ond am wythnos o’r flwyddyn y mae pecynnau o’r fath ar gael, neu, fel y dywedwyd yn gynharach, ar sail awdurdodau unigol fel y mae cyllidebau’n caniatáu.
Mae ein ffrindiau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn mynd yr ail filltir i gael citiau i bobl ac yn darparu pecynnau i elusennau, cymunedau a phartneriaid fferyllol ledled Cymru y gall pobl eu hanfon i ffwrdd i dderbyn eu canlyniadau. Mae’n ddatblygiad gwych y gall eraill ddysgu ohono. Hefyd, yn fy ardal i, mae meddygon teulu yn mynd trwy eu rhestrau cleifion ac yn tecstio pobl i gynnig profion i’r rhai sydd eu heisiau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu Fast Track Cymru hefyd, er mwyn sefydlu rhwydweithiau ar draws pob bwrdd iechyd.
Er hynny, mae Cymru ar ei hôl hi mewn un maes, sef profion optio allan. Diolch i gyhoeddiad Diwrnod AIDS y Byd y Prif Weinidog am £27 miliwn o gyllid, mae dros 50 o adrannau damweiniau ac achosion brys yn Lloegr yn cynnal profion HIV a hepatitis fel mater o drefn, a bydd y nifer hwnnw’n codi i 90 erbyn yr haf. Fodd bynnag, nid oes yr un adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru yn gwneud y gwaith rhyfeddol ac arloesol hwnnw eto. Felly, gofynnaf i’r Gweinidog a all ymuno â mi i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ymdrechu i newid hyn.
Byddaf yn gorffen fy nghyfraniad heddiw gyda galwad ar y Gweinidog i ddatgloi problem ledled y DU, sef sicrhau bod PrEP ar gael y tu allan i glinigau iechyd rhywiol. Yng Nghymru, mae 5,157 o bobl wedi cael presgripsiwn PrEP ar ryw adeg ers 2009, ond mae iechyd rhywiol yn wasanaeth tagfa i ddechrau PrEP. I lawer o bobl, gellid darparu PrEP ar-lein, ond nid yw’r ddarpariaeth ar gael ar-lein i lawer yng Nghymru. Mae rheolau a rheoliadau sy’n atal PrEP rhag cael ei ddosbarthu neu hyd yn oed ei bresgripsiynu mewn fferyllfeydd cymunedol. Felly, gofynnaf i ‘nghyfaill anrhydeddus archwilio’r mater hwn a defnyddio ei safle da i chwalu’r rhwystrau hyn. Fel arall, byddwn ni’n methu targed 2030.’