Cwilt Coffa AIDS Terry Higgins
Rydyn ni wedi gweithio gyda The Quilters' Guild i greu'r gofeb wyth panel hon yn enw Terry.

Mae’r AIDS Memorial Quilts yn deyrngedau hardd, emosiynol a phersonol i’r rhai a gollwyd yn nyddiau cynnar epidemig HIV er mwyn sicrhau na fyddan nhw byth yn angof. Ond tan nawr, doedd dim panel cwilt ar gyfer Terry Higgins, y person cyntaf i farw o salwch sy’n gysylltiedig ag AIDS yn y DU ar 4 Gorffennaf, 1982.
Fel rhan o ddathliad blwyddyn o hyd i nodi 40 mlynedd ers marwolaeth Terry, buom yn gweithio gyda The Quilters’ Guild i greu cwilt coffa wyth panel newydd sbon yn ei enw.
Mae’n cynnwys wyth panel godidog, sy’n cynrychioli elfennau gwahanol o fywyd Terry. Mae pob panel yn cynnwys rhan o arwyddlun calon Terrence Higgins Trust, sy’n rhan o’n logo ac sy’n canolbwyntio ar gariad, gofal a thosturi ym mhopeth a wnawn. Gallwch weld y galon yn llawn pan fydd y paneli wedi’u cyfuno.
Drwy’r cwilt hwn, rydyn ni’n cofio am Terry, yn dathlu ei waddol ac yn ceisio ennyn diddordeb yn ein stori ni heddiw gyda chyfle i roi terfyn ar achosion newydd o HIV yn y DU erbyn 2030.
Goruchwyliwyd y prosiect gan ein cyd-sylfaenwyr Rupert Whitaker OBE a Martyn Butler OBE, law yn llaw â ffrindiau agos Terry, Linda a Maxine, a fu’n gweithio’n agos gyda chwiltwyr angerddol o bob cwr o Brydain er mwyn helpu pawb i ddod i ‘nabod Terry yn well.
Gallwch ddarllen stori’r cwilt mewn taith dywys; gweld llun manylach manylder uwch (HD) o’r cwilt; neu edrych ar y paneli i ddysgu mwy amdanyn nhw a’u dylunwyr.
Gallwch ddarllen stori'r cwilt mewn taith dywys