Paneli Cwilt Coffa AIDS Terry Higgins 1 - 4

Panel 1: Cyfeillgarwch

Mae’r panel hwn yn seiliedig ar atgofion ffrindiau Terry a’i gariad at astroleg. Fe’i dyluniwyd gan Martyn Butler OBE, cyd-sylfaenydd y Terrence Higgins Trust, a’i gynhyrchu gan Nigel Mansfield a David Morrish.

Roedd Linda Payan a Maxine Saunders, ffrindiau Terry, yn gyrru un noson i weld mam Terry yn Sir Benfro pan welson nhw ysbryd.

Roedd gan Terry ddiddordeb brwd mewn astroleg ac ysgrifennodd lyfr The Living Astrology a gyhoeddwyd gan wasg Golden Hands ym 1974. Yr Efeilliaid (Gemini) oedd arwydd y Sidydd Terry, ac mae’r darlun a ddefnyddiwyd yn ei lyfr wedi’i ail-greu mewn brodwaith gan David ac mae’n rhedeg ar draws y ddau banel uchaf, yn ogystal â char coch wedi’i frodio.

Pan fu farw Terry, cyfeiriad ei gartref oedd Castletown Road yn Barons Court, sydd â chod post W14. Mae’r arwydd stryd wedi’i ail-greu’n gywrain gan Nigel ar gyfer y panel hwn.

  • Dyluniwyd gan: Martyn Butler OBE, Linda Payan, Maxine Saunders
  • Cynhyrchwyd gan: Nigel Mansfield, David Morrish
Terry Higgins AIDS Memorial Quilt Panel 1

Panel 2: Balchder

Mae’r panel hwn yn adlewyrchu hunaniaeth Terry fel dyn hoyw balch. Mae’n edrych ‘nôl ar Pride Llundain ym 1980, ac felly wedi defnyddio’r faner Pride wreiddiol yma. Cynhyrchodd Clive Bruder y panel hwn ar sail cynllun Martyn Butler OBE.

Mae’r panel yn cynrychioli digwyddiad rhwng Terry a’r heddlu – roedd Terry ar fflôt yn yr orymdaith pan welodd ffrwgwd rhwng yr heddlu a’i ffrindiau. Neidiodd Terry oddi ar y fflôt gan ruo ar y glas, ‘How dare you bitches attack my friends’.

Mae darn ‘calon’ y panel hwn wedi’i wneud o ledr gan Richard Wilbraham i gynrychioli diddordeb Terry yn y sîn lledr hoyw. 

Mae’r angel Gemini (chwith uchaf) yn cyd-fynd â’i efell ar banel cyfagos ac wedi’i frodio gan David Morrish.

  • Dyluniwyd gan: Richard Angell, Martyn Butler OBE
  • Cynhyrchwyd gan: Clive Bruder, David Morrish 
  • Gwaith lledr gan: Richard Wilbraham Costume

Panel 3: Y Llynges Frenhinol

Mae’r panel hwn (ar y chwith) yn cynrychioli cyfnod Terry Higgins fel aelod o’r Llynges Frenhinol.

Fe’i dyluniwyd gan yr Is-gomander Oli Brown a gafodd ddiagnosis o HIV yn 2019. Er nad oedd yn edrych fel ymgyrchydd HIV traddodiadol yn lifrai’r llynges, llwyddodd Oli i herio’r gwaharddiad ar bobl gyda HIV rhag ymuno a gwasanaethu’n llawn yn Lluoedd Arfog y DU yn dilyn ei ddiagnosis ei hun.

Daeth y newid polisi i rym ym mis Mehefin 2022, gan bwysleisio nad oes angen i HIV eich atal rhag mwynhau gyrfa lawn yn y fyddin mwyach. 

Bu Oli yn gweithio gyda Sara Sullivan o’r Quilters’ Guild i gynhyrchu’r panel hwn, a grëwyd gan ddefnyddio labeli/rhubanau capiau a gyfrannwyd gan longau a llongau tanfor amrywiol y Llynges Frenhinol.

  • Dyluniwyd gan: Is-gomander Oli Brown
  • Cynhyrchwyd gan: Sara Sullivan

Panel 4: Y Cymro

Mae’r panel hwn (ar y dde) yn dathlu Terry’r Cymro.

I nodi 40 mlynedd ers i Terry Higgins gael ei enwi fel y person cyntaf i farw o salwch sy’n gysylltiedig ag AIDS yn y DU, cafodd yr artist o Gaerdydd Nathan Wyburn gomisiwn gan y Terrence Higgins Trust i gynhyrchu portread o Terry a ddadorchuddiwyd yn y Senedd

Mae’r portread bellach i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac mae’n seiliedig ar ffotograff o ddyddiau ysgol Terry yn Hwlffordd, na welodd olau dydd cyn hyn. Mae wedi’i beintio yn lliwiau baner Cymru gan ddefnyddio stampiau siâp calon – symbol ein logo.

Bu Tim Cooper, aelod o’r Quilters’ Guild, yn gweithio gyda Nathan i gynnwys ei waith celf yn y panel.

  • Dyluniwyd gan: Nathan Wyburn
  • Cynhyrchwyd gan: Tim Cooper
Terry Higgins AIDS Memorial Quilt Panels 3 and 4.

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button