Paneli Cwilt Coffa AIDS Terry Higgins 5 - 8
Panel 5: Teyrnged Rupert
Teyrnged Rupert Whitaker OBE i’w bartner Terry yw’r panel hwn (chwith), ac mae’n cynnwys atgofion melys o’u hamser gyda’i gilydd.
Mae Rupert yn un o gyd-sylfaenwyr y Terrence Higgins Trust ac wedi byw gyda HIV ers 40 mlynedd a mwy.
Meddai Rupert, a fu’n gweithio gyda’r cwiltiwr Paula Doyle: ‘Mae’r panel hwn yn cynnwys delweddau o rai o’r pethau pwysicaf sy’n gysylltiedig â Terry: fy hoff lun ohono; ei lythyrau ataf yn y brifysgol; teitlau rhai o’r caneuon y buon ni’n dawnsio iddyn nhw yng nghlwb Heaven, y cloc a gefais ganddo’n anrheg Dolig a’r nodyn a roddodd yng nghefn y cloc (sydd bob amser yn gwneud i mi wenu); bwthyn mam-gu yn Boscastle, Cernyw, lle’r arhosom ni yn yr hydref a gwneud crymbl mwyar duon ffres, a ble y gwnes i wasgaru ei lwch gerllaw yn afon Valency yr haf canlynol.
‘Mae’n cynnwys casgliad trist, ond hyfryd, o atgofion sy’n dod ag e’n ôl ata’ i. Dwi mor ddiolchgar am garedigrwydd a chrefftwaith Paula, y cwiltiwr.’
- Dyluniwyd a chynhyrchwyd gan: Rupert Whitaker OBE, Paula Doyle
Panel 6: Hansard
Mae’r panel hwn (dde) yn cynrychioli cyfnod Terry yn gweithio yn San Steffan i Hansard (cofnod swyddogol o holl ddadleuon Senedd y DU) yn y 1970au ac mae’n cynnwys dyfyniadau gan bobl a weithiodd gyda Terry.
‘Roedd yn un o’r tîm a oedd yn teipio copi i ni,’ cofia cyn-olygydd Hansard, Ian Church. ‘Roedd yn rhywun byrlymus a dweud y lleiaf. Roedd yn gydweithiwr bywiog iawn ac, fel dwi’n cofio, yn hynod boblogaidd – tipyn o gorwynt Cymreig.’
Mae John Parker, a oedd yn gweithio fel gohebydd yn Nhŷ’r Cyffredin, yn ei gofio’n ‘teipio fel y gwynt’, ac o gymorth mawr iddo ef a’i dîm allu cadw at derfynau amser tynn.
Mae’r teip gwyrdd Times New Roman yn cynrychioli’r cyfrolau rhwymedig a ddefnyddiwyd ar gyfer adroddiadau Tŷ’r Cyffredin. Hefyd, gallwch weld logos Big Ben, Hansard a’r CPSA (Cymdeithas y Gwasanaethau Sifil a Chyhoeddus – yr undeb sy’n cynrychioli gweision sifil, yr roedd Terry yn aelod gweithgar ohono).
Cynhyrchwyd y panel gan Portia Dadley, Hannah Minns ac Anna Murray o Hansard, gan ddefnyddio tecstilau a roddwyd gan gydweithwyr yn Hansard, gan ddwyn ynghyd y ffabrig sy’n sail i’r panel hwn. Cafodd rhannau gwahanol y panel eu gwnïo ynghyd yn fedrus gan Pat Cave o’r Quilters’ Guild.
Darllenwch flog Hansard sy’n cofio Terry.
- Dyluniwyd a chynhyrchwyd gan: Portia Dadley, Hannah Minns, Anna Murray – Hansard
Gwaith cwiltio gan Pat Cave.


Panel 7: Heaven
Mae’r panel hwn yn cynrychioli bywyd cymdeithasol ac amser Terry yn Heaven, clwb a oedd yn rhan mor ganolog o fywyd nos hoyw Llundain, a lle’r oedd Terry yn gweithio fel DJ.
Mae’r panel yn cynnwys teitlau llawer o hoff ganeuon Terry o’r cyfnod hwnnw, a ddewiswyd gan Martyn Butler a Rupert Whitaker.
Mae’r traciau’n cynnwys ail-gymysgiadau o Do You Wanna Funk? gan Patrick Cowley a Sylvester, ac I Feel Love gan Donna Summer.
Gwrando ar restr chwarae The Spirit of Heaven ar Spotify.
Cynhyrchwyd y panel gan Jo Riou o’r Quilters’ Guild ac mae’n cynnwys gwahanol decstilau ymoleuol i ail-greu goleuadau’r clwb nos, sy’n adlewyrchu mewn goleuni.
- Dyluniwyd gan: Martyn Butler OBE, Rupert Whitaker
- Cynhyrchwyd gan: Jo Riou
Panel 8: Y Terrence Higgins Trust
Mae’r panel hwn yn cynnwys 40 o negeseuon o obaith ac ysbrydoliaeth gan wirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaethau a staff y Terrence Higgins Trust, ddoe a heddiw.
Mae’n cynnwys calon fawr gyda’r neges weddnewidiol U=U, neges bendant sy’n dweud nad yw pobl sy’n byw gydag HIV ac ar driniaeth effeithiol yn gallu ei basio mlaen i’w partneriaid.
Dyluniwyd y panel gan Paul Bray a Jim Fielder yn y Terrence Higgins Trust a’i gynhyrchu gan Geraldine Edgington, Sarah Ashford a Merrill Tanton o’r Quilters’ Guild.
Hefyd, aeth criw o bobl ifanc frwdfrydig o’r Quilters Guild (Rhanbarth 13) ati i frodio rhai o’r calonnau sy’n ymddangos ar y panel hwn, ac sy’n cynnwys geiriau fel power, love a care sydd wedi bod, ac yn dal i fod, yn rhan mor ganolog o’r frwydr yn erbyn HIV.
- Dyluniwyd a chynhyrchwyd gan: Sarah Ashford, Paul Bray, Geraldine Edgington, Jim Fielder, Merrill Tanton
- Cyfranwyr: Alison Watts, Helen Cullen, Alison Pether, Alette Addison, Grŵp Pobl Ifanc Rhanbarth 13 The Quilters’ Guild, Caroline Barker, Maggie Gibbons, Marie-Claire Williams ac Andie Dyer, yn ogystal â llu o ddefnyddwyr gwasanaethau a gwirfoddolwyr y Terrence Higgins Trust a gyfrannodd eiriau ac ymadroddion a gafodd eu cynnwys yn y 40 calon sy’n sail i’r panel hwn.
