Buddsoddiad Terrence Higgins Trust Cymru mewn cymorth cymheiriaid yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyflawni Cynllun Gweithredu Cymru ar HIV.

Yn ei ddatganiad ysgrifenedig i’r Senedd, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles AS, at y buddsoddiad y mae Terrence Higgins Trust wedi’i wneud i ddatblygu darpariaeth cymorth gan gymheiriaid yng Nghymru, gan gynnwys drwy gynnig Fy Nghymuned, ein. gwasanaeth cymorth cymheiriaid ar-lein cyfrinachol , rhad ac am ddim

Honnodd Ysgrifennydd y Cabinet fod Cymru yn ‘gwneud cynnydd calonogol’ tuag at y nod o roi terfyn ar drosglwyddiadau newydd o HIV erbyn 2030. Nododd fod lefelau profion HIV yn parhau i gynyddu o ganlyniad i’r gwasanaeth profi ar-lein cenedlaethol a bod y nifer sy’n manteisio ar y cyffur atal HIV , PrEP, ar ei lefel uchaf ar hyn o bryd ers iddo gael ei gyflwyno gyntaf yng Nghymru yn 2017.

Fodd bynnag, cydnabu hefyd fod mwy i’w wneud, gan gynnwys llenwi bylchau mewn data gwyliadwriaeth, mynd i’r afael â rhwystrau o ran mynediad at PrEP, mynd i’r afael â diagnosis hwyr o HIV a herio stigma HIV.

Mae’r datganiad yn nodi nifer o ymrwymiadau o’r Cynllun Gweithredu ar HIV y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â hwy, gan gynnwys:

  • Cyllid cynaliadwy ar gyfer rhwydweithiau cymorth cymheiriaid ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol, gan ymgorffori dulliau yn y gymuned, yn y clinig ac ar-lein.
  • Cynllun peilot o PrEP yn y gymuned, ochr yn ochr ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth i helpu i addysgu pobl ar sut i gael mynediad at PrEP.
  • Datblygu system rheoli achosion iechyd rhywiol Cymru gyfan a chryfhau data ar ansawdd bywyd ac anghenion gofal iechyd pobl sy’n byw gyda HIV trwy gyflwyno arolwg llesiant blynyddol yn 2025.
  • Yn 2018, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ymrwymo i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030. Dilynwyd yr ymrwymiad hwn gan Gynllun Gweithredu HIV Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd gan Eluned Morgan pan oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ym mis Tachwedd 2023.

Dywedodd Richard Angell, Prif Weithredwr Terrence Higgins Trust: ‘Mae’r cynnydd a wnaed tuag at frwydro yn erbyn stigma HIV a dod ag achosion newydd o HIV yng Nghymru i ben yn galonogol.

Roedden ni’n falch o’r rôl arweiniol a chwaraewyd gennym wrth sicrhau Cynllun Gweithredu Cymru ar HIV ac o’r rôl rydyn ni’n parhau i’w chwarae wrth ei gyflawni. Mae’n dda dros ben felly bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y buddsoddiad sylweddol y mae Terrence Higgins Trust Cymru wedi’i wneud yng Nghymru ac rwy’n hyderus y bydd ein gwasanaethau – gan gynnwys ein platfform Fy Nghymuned a lansiwyd yn ddiweddar – yn parhau i ddarparu cymorth annatod i bobl sy’n byw gyda’r HIV. ledled Cymru.

‘Mae cydnabyddiaeth gan yr Ysgrifennydd Iechyd bod angen gwneud llawer mwy os yw ein nod cyffredin ar gyfer 2030 i fod yn llwyddiant yn bwysig. Mae data diweddaraf UKHSA ar HIV yng Nghymru yn dangos cyfraddau annerbyniol o ddiagnosis hwyr o HIV yng Nghymru. At hynny, nid yw mynediad at wasanaethau cymorth cymheiriaid HIV personol wedi’i integreiddio yn y llwybr gofal ac mae bylchau mewn data gwyliadwriaeth yn golygu nad yw pobl sy’n byw gyda HIV sydd wedi ymddieithrio â gofal neu sydd heb gael diagnosis yn cael eu cyfrif.

‘Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr gyflymu ymdrechion i ddod o hyd i bawb sy’n byw gyda HIV yng Nghymru a’u cefnogi.

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button