Ydych chi’n byw ag HIV yng Nghymru?
Gwasanaethau Terrence Higgins Trust Living Well a Chefnogaeth Gymheiriaid
Yr hyn a gynigiwn;
- Cydlynydd yng Nghymru
Gwybodaeth os ydych newydd gael diagnosis o HIV - Gwybodaeth am gadw at feddyginiaeth
- Sesiynau un-i-un
- Cyngor ar ddyledion personol a chyllidebu.
- Cyngor ar Fudd-daliadau
- Cefnogaeth gyda gwaith a sgiliau.
- Gwybodaeth am fewnfudo.
Lle ar-lein My Community
Mae My Community yn ofod ar-lein rhad ac am ddim i bobl sy’n byw ag HIV i gysylltu â phobl eraill.
Mae’r platfform yn cael ei gymedroli gan dîm o wirfoddolwyr hyfforddedig sydd wedi’u lleoli ledled y DU a’u cefnogi gan staff yn Terrence Higgins Trust.
Darganfod mwy am My Community
Hoffech chi helpu i ddatblygu grŵp newydd ar gyfer pobl sy’n byw ag HIV?
Bydd sesiynau’n rhedeg 6-7pm nos Fercher ym mis Ionawr 2025

Sesiynau
8 Ionawr: Cefnogaeth Cymheiriaid: Beth mae’n ei olygu i ni?
15 Ionawr: Mannau Diogel: Sut maen nhw’n edrych i chi?
22 Ionawr: Tyfu Gyda’n Gilydd: Sut allwn ni weithio orau gyda’n gilydd i nodi a datblygu ein sgiliau, ein cryfderau a’n diddordebau?
29 Ionawr: Symud Ymlaen: Beth ydyn ni eisiau o gefnogaeth cymheiriaid yng Nghymru?
Grwpiau
Before 96 (Grŵp Cenedlaethol)
Mae’r grŵp ar-lein Before 96 yn bennaf ar gyfer pobl a gafodd ddiagnosis cyn neu tua 1996, pan ddechreuwyd cyflwyno triniaeth effeithiol, ond mae croeso i bawb. Rydym yn cyfarfod ar yr ail ddydd Mawrth o bob mis am 4pm
Before 96 and Beyond (Grŵp Cenedlaethol)
Mae Before 96 and Beyond yn ofod cymorth gan gymheiriaid ar-lein i unrhyw un sy’n byw ag HIV, p’un ai wedi cael diagnosis mwy diweddar neu wedi cael diagnosis am gyfnod hwy, i ddod at ei gilydd a rhannu straeon a gofyn cwestiynau. Rydym yn cyfarfod ar yr ail ddydd
Common Bond (Grŵp Cenedlaethol)
Mawrth o bob mis am 5:30pm
Ein grŵp cymorth cymheiriaid i fenywod (gan gynnwys menywod traws) sy’n byw ag HIV. Mae’r grŵp hwn yn ofod ar-lein cynhwysol, diogel a pharchus ar gyfer cyfeillgarwch a hwyl i bobl sy’n byw ag HIV sy’n uniaethu â bod yn fenyw. Rydym yn cyfarfod ar y trydydd dydd Mawrth o bob mis am 7pm.