Cadw
Rydym am i’ch profiad o wirfoddoli gyda’r Terrence Higgins Trust fod yn un pleserus a chofiadwy am y rhesymau cywir. Rhan fawr o hyn yw ymrwymo i ddelio ag unrhyw bryderon a heriau mewn modd amserol ac i wrando’n astud ar eich syniadau a gweithredu arnynt. Byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau bod eich lleoliad yn bopeth yr oeddech yn gobeithio y byddai. Byddwch yn derbyn y canlynol: Rydym am i’ch profiad o wirfoddoli gyda’r Terrence Higgins Trust fod yn un pleserus a chofiadwy am y rhesymau cywir. Rhan fawr o hyn yw ymrwymo i ddelio ag unrhyw bryderon a heriau mewn modd amserol ac i wrando’n astud ar eich syniadau a gweithredu arnynt. Byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau bod eich lleoliad yn bopeth yr oeddech yn gobeithio y byddai. Byddwch yn derbyn y canlynol:
Goruchwyliaeth
Bydd gwirfoddolwyr yn cael cynnig cyfleoedd goruchwylio rheolaidd trwy Gydlynydd Gwirfoddolwyr Cymru (Volunteer Coordinator) neu gyda rheolwr llinell sy’n gyfrifol am eich lleoliad. Bydd y VCC mewn cydweithrediad â gwirfoddolwyr yn trefnu rhaglen oruchwylio reolaidd a fydd mewn amrywiaeth o fformatau (grŵp ac un-i-un).
Cadw mewn cysylltiad
Bydd pob gwirfoddolwr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a digwyddiadau gwirfoddoli newydd, cyfleoedd dysgu a datblygu a’r newyddion diweddaraf am ymgyrchoedd a pholisi gan yr Terrence Higgins Trust. Bydd cyfleoedd i roi adborth hefyd.
Monitro a gwerthuso
Rydyn ni’n cadw cofnod o’r holl weithgareddau gwirfoddol i ddangos effaith eich gwaith ledled Cymru.
I’n cefnogi ni i ddeall yr effaith mae gwirfoddoli wedi’i chael arnoch, byddwn yn gofyn i chi lenwi holiadur byr ar ddechrau a diwedd eich lleoliad.
Dysgu a datblygu
Mae’n bwysig i ni eich bod yn cyflawni eich nodau dysgu a datblygu tra byddwch yn gwirfoddoli gyda’r Terrence Higgins Trust. Ar ddechrau eich lleoliad bydd cyfle i drafod y rhain.
Bydd hyn yn ein helpu i nodi unrhyw anghenion hyfforddi/datblygu pellach a’r math o ddigwyddiadau/gweithgareddau a lleoliadau y byddai gennych fwy o ddiddordeb ynddynt. Bydd y meysydd hyn yn cael eu hadolygu’n rheolaidd drwy’r broses oruchwylio gwirfoddolwyr.
Dysgu gyda’r Terrence Higgins Trust
Bydd digwyddiadau dysgu yn cael eu trefnu trwy gydol y flwyddyn i wirfoddolwyr eu mynychu. Bydd y VCC yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a chydweithwyr yr Terrence Higgins Trusti gasglu syniadau ar feysydd dysgu a datblygu newydd a fyddai o fudd i wirfoddolwyr. Gall hyn gynnwys sgyrsiau gan ein timau Polisi, Codi Arian, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a Marchnata yn ogystal â sgyrsiau gan reolwyr gwasanaeth, aelodau o’n timau rheoli ac ymddiriedolwyr a’n Prif Weithredwr. Bydd digon o gyfleoedd hefyd i ofyn cwestiynau ac i gynnig eich syniadau ar gyfer gwella.
Syniadau ar gyfer gwella
Yma yn yr Terrence Higgins Trust rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o gyrraedd mwy o bobl, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed eich syniadau ar sut y gallwn gyflawni hyn. Fel gwirfoddolwr mae eich syniadau ar newid yn wirioneddol bwysig i ni.
Dathlu
Gall gwirfoddoli i lawer gael ei wobr bersonol a phroffesiynol ei hun, ac yma yn yr Terrence Higgins Trust nid ydym byth yn tanbrisio gwerth ac ymrwymiad pob un o’n gwirfoddolwyr gwych.
Byddwn yn dathlu eich cyraeddiadau ac yn cydnabod yr adegau hynny pan fydd gwirfoddolwyr yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl yn eu lleoliad gwirfoddoli.
Cyd-gynhyrchu a chyfranogiad
Credwn fod ymgysylltu a chynnwys ein holl randdeiliaid yn allweddol i sicrhau bod y gwasanaethau a gynigiwn yn adlewyrchu anghenion y bobl sy’n defnyddio a/neu sydd wedi cael budd o’n gwasanaethau. Bydd y cydlynydd gwirfoddolwyr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw gyfleoedd cyd-gynhyrchu/cyfranogiad.
Heriau a chwynion
Er ein bod yn gobeithio y bydd eich profiad gyda’r Terrence Higgins Trust yn un gwerthfawr, rydym yn deall nad yw pethau bob amser yn mynd y ffordd yr oeddem yn gobeithio ar adegau. Pan fydd cwynion a heriau’n codi, gallwch fod yn sicr yr ymdrinnir â’r rhain mewn modd amserol a phriodol.
Pan ddaw hi'n amser ffarwelio
Am wahanol resymau, gall gwirfoddolwyr benderfynu nad ydynt yn dymuno gwirfoddoli mwyach gyda’r Terrence Higgins Trust. Efallai hefyd y bydd adegau pan fydd y VCC neu’r rheolwr llinell wedi nodi nad yw’r lleoliad yn gweithio. Er y byddwn bob amser yn trafod hyn gyda chi i sicrhau nad oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i’ch cefnogi i aros, rydym yn deall y gallech ddymuno gadael i archwilio cyfleoedd newydd. Mae’n bwysig i ni ein bod yn gwneud hwn yn brofiad cadarnhaol.
Ar ôl cwblhau eich lleoliad gwirfoddol gyda ni, gallwn roi sesiwn camau nesaf i chi gyda’r VCC. Byddwch yn cael geirda gwirfoddolwr yn rhoi manylion ar eich profiad gwirfoddoli.
Yn ogystal â hyn, gallwn hefyd drafod opsiynau cyfeirio at fudiadau gwirfoddoli eraill yng Nghymru a allai gynnig y cyfleoedd nesaf yr ydych yn chwilio amdanynt.
Holiadur gadael
Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wella, ac i nodi unrhyw feysydd ‘a allai fod wedi gwneud yn well’ byddwn yn gofyn i bob gwirfoddolwr gwblhau holiadur ymadael byr. Bydd yr ymatebion o’r holiaduron ymadael yn cael eu hadolygu ochr yn ochr â’r holiadur a gwblhawyd gennych ar ddechrau eich lleoliad. Drwy adolygu’r holiaduron hyn, byddwn yn gallu nodi’r effaith y mae gwirfoddoli wedi’i chael arnoch chi ac unrhyw feysydd i’w gwella ar gyfer yr Terrence Higgins Trust.