Rhoi ychydig…newid llawer – Gwirfoddolwch gyda Terrence Higgins Trust Cymru!
Gall Cymru fod y wlad gyntaf yn y byd i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 – ond allwn ni ddim gwneud hynny heb eich cefnogaeth chi.
Cofrestru diddordeb
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’n rhwydwaith gwirfoddolwyr cynyddol ledled Cymru? Cwblhewch y ffurflen fer hon a byddwn yn cysylltu â chi i drafod y cyfleoedd sydd ar gael.
'Ni fyddwn yn gwneud hyn ar ddamwain, ac ni fyddwn yn gwneud hyn heb eich cymorth chi. Mae'r frwydr hon yn un brys, ac rydym angen eich help chi nawr.'
Richard Angell, Prif Weithredwr, Terrence Higgins Trust
Sefydlwyd Terrence Higgins Trust er anrhydedd i Terry Higgins. Cafodd ei eni a’i fagu yng Nghymru ac mae’n un o’r bobl gyntaf yn y DU i gael ei gofnodi fel un sy’n marw o salwch yn ymwneud ag AIDS. Dechreuwyd yr elusen fel na fyddai’n rhaid i unrhyw un sy’n llywio diagnosis HIV wynebu’r siwrnai ar ei ben ei hun. Dewch yn rhan o’r teulu gwych o randdeiliaid amrywiol sy’n cefnogi ein gwaith.
Trwy ymuno â’n rhwydwaith gwirfoddolwyr ledled Cymru, byddwch yn helpu i leihau stigma a chamwybodaeth am HIV. Ein nod yw gwella dealltwriaeth a herio camsyniadau. Rydym am i bobl deimlo’n hyderus i brofi am HIV, bod yn ymwybodol o sut i ofalu am eu hiechyd rhywiol, a chefnogi cymunedau sydd wedi ymddieithrio o wasanaethau Iechyd Rhywiol. Find out more.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer y rolau gwirfoddoli canlynol:
- Gwirfoddolwyr Cymunedol (siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg). Byddwch yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau ymwybyddiaeth. Mae gennych yr hyblygrwydd i fynychu gweithgareddau gwirfoddoli pan fo’n gyfleus i chi. Cliciwch yma am ddisgrifiad manylach o’r rôl. Sylwer: bydd angen geirda a chyfweliad anffurfiol ar gyfer y rôl hon.
- Gwirfoddolwyr Cymorth Cyfoedion profiad byw (siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg). Os ydych yn byw gyda HIV ac eisiau cefnogi eraill wrth iddynt lywio eu taith gallwch wneud cais i fod yn wirfoddolwr cymorth cyfoedion. Cliciwch yma am ddisgrifiad manylach o’r rôl. Sylwch: bydd angen geirdaon a chyfweliad ffurfiol ar-lein ar gyfer y rôl hon.
Helpu ni i gyrraedd ein nodau i:
- Dod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030.
- Fod yma nes bod y person olaf sy’n byw gyda HIV ein hangen ni.
- Atal stigma a gwahaniaethu ar sail HIV.
Cadwch lygad ar y dudalen hon gan y bydd y cyfleoedd gwirfoddoli newydd yn cael eu hysbysebu yma ac ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Cyfleoedd Gwirfoddoli Corfforaethol, Grŵp/Cymdeithas
Os hoffech wirfoddoli fel rhan o weithgarwch corfforaethol neu gefnogi ein gwaith drwy eich cymdeithasau neu grwpiau eich hun, cysylltwch â ni. Link to corporate fundraising etc.