Disgrifiad o Rôl Gwirfoddolwr
Gwirfoddolwr Cymunedol Cymru
Mae’r Terrence Higgins Trust wedi ymrwymo i sicrhau profiad gwirfoddoli gwych i’n holl wirfoddolwyr. Gwyddom fod tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i’r gwaith a wnawn.
Rydym yn ymdrechu i fod yn sefydliad gwrth-hiliol, gwrth-rhywiaethol ac rydym wedi ymrwymo i gael gweithlu gyda phobl o wahanol gefndiroedd. Mae pob un ohonom yn gyfrifol am greu amgylchedd o gynhwysiant a pherthyn o fewn ein sefydliad. Mae’n rhaid i’n gwaith fod yn fewnol yn gyntaf fel y gall effeithio ar bopeth a wnawn ar gyfer yr holl gymunedau sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
Lle mae angen Datgeliadau Troseddol, byddwn yn adolygu pob achos yn unigol ac ni fydd cofnod troseddol o reidrwydd yn rhwystr i wirfoddoli gyda ni.
Cyflwyniad i'r rôl
Mae ein rôl Gwirfoddolwr Cymunedol wedi’i chynllunio gyda hyblygrwydd yn greiddiol iddi. Mae hon yn rôl amrywiol gyda gwahanol gyfleoedd sy’n golygu y gallwch ganolbwyntio ar y maes gwirfoddoli sydd o’r diddordeb mwyaf i chi.
Rydym yn chwilio am dîm o wirfoddolwyr cymunedol brwdfrydig sydd â diddordeb mewn darparu cefnogaeth ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru.
Mae digwyddiadau a gweithgareddau’n cynnwys hyrwyddo iechyd, codi arian, digwyddiadau her a digwyddiadau chwaraeon eraill, digwyddiadau cymunedol mewn partneriaeth â sefydliadau lleol eraill, digwyddiadau addysg wedi’u hanelu at iechyd rhywiol da a hyrwyddo profion cynnar a chefnogi ymgyrchoedd yr Terence Higgins Trust.
Gallwch ddisgwyl gwirfoddoli ar amseroedd a dyddiadau sy’n gyfleus i chi. Bydd y Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd i ddod.
Mae'r gweithgareddau y gallech fod yn rhan ohonynt yn cynnwys y canlynol:
Hyrwyddo iechyd HIV (helpu i leihau stigma a chynyddu ymwybyddiaeth).
Ein helpu ni i godi arian hanfodol i’r Terrence Higgins Trust mewn digwyddiadau cymunedol trwy gydol y flwyddyn.
Ein cefnogi i sicrhau bod yr incwm o weithgareddau codi arian yn cael ei gofnodi’n gywir.
Cefnogi ein digwyddiadau her codi arian trwy farsialu, cyfarfod a chyfarch, pwyntiau codi hwyl, dosbarthu medalau a bagiau pethau da. Yn ogystal â ffonio cyfranogwyr ein digwyddiad her i ddymuno pob lwc neu longyfarchiadau iddynt.
I’n helpu i gynyddu ein cyrhaeddiad trwy ymchwilio i grwpiau cymunedol a chwilota. Gall hyn gynnwys ymchwil ar-lein, ffonio grwpiau cymunedol, neu fynychu digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn eich cymuned leol.
Creu pecynnau iechyd rhywiol da i’w dosbarthu i bobl leol.
Manyleb person/Sgiliau dymunol/Profiad y gofynnir amdano:
Prydlon, dibynadwy a dymunol.
Dealltwriaeth sylfaenol o’r materion sy’n ymwneud â HIV, neu barodrwydd i ddysgu.
Ymrwymiad i weithio fel rhan o dîm, a’r gallu i weithio ar eich menter eich hun.
Diddordeb mewn gweithgareddau cymunedol a digwyddiadau.
Ymrwymiad i gynrychioli’r Terrence Higgins Trust mewn modd positif ac adeiladol.
Manteision:
Hyfforddiant rôl yn cael ei ddarparu.
Cyfle i wneud hyfforddiant atodol am waith Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, HIV, hyfforddiant Diogelu, a Diogelu Data, lle bo’n berthnasol.
Ad-dalu treuliau (trafod lefelau gyda’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr).
Cyfleoedd i gymryd rhan.
Cefnogaeth a goruchwyliaeth.
Geirdaon.
Cyfle i ddatblygu a diweddaru sgiliau a chael profiadau newydd.
Profiad gwych i unrhyw un sy’n gobeithio dechrau gyrfa yn y sector elusennol.
Ardal ddaearyddol: Cymru (byddwn bob amser yn ceisio cynnig cyfleoedd i chi mor agos at eich cartref â phosibl).
Ymrwymiad: Gwahanol amseroedd trwy gydol y flwyddyn i gyd-fynd â’ch amserlen.
Hyfforddiant a chefnogaeth: Hyfforddiant sefydlu gorfodol, Hyfforddiant rôl, Hyfforddiant GDPR. Hyfforddiant arall yn ôl yr angen/y gofynnir amdano ar gyfer y rôl.
Cyfyngiadau (e.e. Oedran, Rhywedd, Rhywioldeb, Statws HIV, Hygyrchedd):
Rhaid bod yn 18 oed neu drosodd.
Proses ddethol: Datganiad o Ddiddordeb, Cais, Geirdaon, Cyfweliad anffurfiol, DBS.
A oes angen Gwiriad Cofnod Troseddol? Oes.
Gweithgareddau craidd, bydd disgwyl i bob gwirfoddolwr wneud y canlynol:
Cwblhau asesiad risg unigol yn ôl yr angen.
Hyrwyddo a chadw at Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Chynhwysiant, Polisi Cyfrinachedd a Chod Ymddygiad yr Terrence Higgins Trust.
Hyrwyddo a chynnal rheoliadau, arferion ac amodau iechyd a diogelwch.
Ymddwyn mewn ffordd gyfrifol o ran diogelwch adeiladau a’u cynnwys ac adnoddau’r elusen.
Cwblhau’r holl waith papur angenrheidiol a darparu data monitro yn ôl yr angen.
Cymryd rhan mewn sesiynau cymorth grŵp a goruchwyliaeth yn ôl yr angen ar gyfer y rôl.
Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau a dilyn hyfforddiant fel y bo’n briodol.
Cofnodi oriau gwirfoddolwyr a’u rhoi i’r cydlynydd gwirfoddolwyr pan ofynnir am hynny.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Tracey Bartlett
Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cymru
Swyddfa Gwirfoddoli Cymru
Rhif cyswllt: 029 20034214
Ebost: [email protected]
Gwefan: www.tht.org.uk