Recriwtio
Diolch am eich diddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r Terrence Higgins Trust – rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr. Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth ychwanegol arnoch i gwblhau eich datganiad o ddiddordeb a/neu eich cais, cysylltwch â swyddfa Gwirfoddoli Cymru.
Rydym yn croesawu ceisiadau gwirfoddoli gan bawb.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich ffurflen Mynegi Diddordeb byddwn yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf ac i roi rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd gwahanol sydd ar gael.
Darganfod mwy am y rolau:
Cwblhau eich cais
Unwaith y byddwch wedi cyfarfod â’r cydlynydd gwirfoddolwyr, bydd dolen yn cael ei hanfon atoch i gwblhau’ch cais. Bydd y cais yn benodol i’r rôl a bydd yn cynnwys disgrifiad y rôl gwirfoddoli.
Os oes gennych ddiddordeb mewn rôl gwirfoddoli cymorth cyfoedion profiad byw, cewch eich cyflwyno i’n Cydlynydd Cymorth Cyfoedion Ar-lein Cymru cyn cwblhau eich cais i’ch galluogi i ddysgu mwy am y rôl a’r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael.
Ar ôl cwblhau eich cais bydd cofnod gwirfoddolwr yn cael ei osod ar eich cyfer. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw gyfleoedd hyfforddi a datblygu a wnaethoch yn ystod eich lleoliad gyda ni.
Geirdaon
Bydd y ffurflen gais ar-lein yn gofyn am ddau eirda. Gall y rhain fod yn eirdaon cyflogaeth neu wirfoddoli – yn hanfodol, mae’n rhaid bod eich canolwyr wedi’ch adnabod ers o leiaf 2 flynedd ac ni allant fod yn aelod o’r teulu. Os na allwch ddod o hyd i ddau ganolwr, cysylltwch â Chydlynydd Gwirfoddolwyr Cymru a all eich cynorthwyo.
Bydd y Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cymru yn cysylltu â’ch canolwyr, ac unwaith y bydd geirdaon boddhaol wedi’u hanfon, byddwch yn derbyn cadarnhad y gallwch ddechrau eich modiwlau hyfforddiant angenrheidiol.
Gwiriad DBS
Mae angen gwiriad DBS ar gyfer y ddwy rôl wirfoddolwr. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol y gall rolau sydd angen gwiriad DBS wneud y broses recriwtio ychydig yn hirach.
Hyfforddiant gorfodol
Sylwch na fyddwch yn gallu dechrau eich gwirfoddoli nes bod yr holl hyfforddiant gorfodol (a hyfforddiant penodol i’r rôl) wedi’i gwblhau.
Mae’r modiwl hyfforddiant gorfodol ar-lein ac yn cael ei gwblhau’n annibynnol. Bydd angen i bob gwirfoddolwr, beth bynnag fo’r rôl, gwblhau’r modiwl hwn. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, neu os oes angen cwblhau’r hyfforddiant mewn fformat gwahanol, bydd y Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn gweithio gyda chi i gwblhau’r hyfforddiant. Efallai y bydd angen modiwlau hyfforddiant gorfodol eraill ar gyfer eich rôl, a bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi ymlaen llaw.
Polisi Preifatrwydd
Mae cadw eich data personol yn ddiogel yn bwysig iawn i ni. Byddwn yn nodi sut rydym yn gwneud hyn ar ôl i chi lenwi ffurflen mynegi diddordeb.
Treuliau
Bydd pob gwirfoddolwr yn gallu hawlio costau teithio a lletygarwch rhesymol (cinio/swper) lle bo’n berthnasol. Os oes gennych unrhyw heriau penodol wrth hawlio treuliau, bydd cymorth yn cael ei ddarparu gan y Cydlynydd Gwirfoddolwyr. Mae angen cytuno ar dreuliau ymlaen llaw gyda naill ai Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cymru neu eich goruchwyliwr lleoliad gwirfoddol dynodedig.
Hawlio budd-daliadau a gwirfoddoli
Caniateir i chi wirfoddoli wrth hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth, gan gynnwys budd-daliadau prawf modd megis lwfans ceisio gwaith, budd-dal analluogrwydd, cymhorthdal incwm a lwfans cyflogaeth a chymorth.
Mae’n ofynnol i hawlwyr budd-daliadau roi gwybod i’w hyfforddwr swydd neu gynghorydd budd-daliadau o’u bwriad i ddechrau gwirfoddoli.
Gwirfoddolwyr gyda phasbortau nad ydynt yn perthyn i'r UE/AEE/Tu allan i'r DU
Gwnewch yn siŵr bod eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi wirfoddoli. Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei wirio ar eich cyfer.
Os oes gennych chi statws ffoadur neu ganiatâd eithriadol i aros, byddwch yn gallu gwirfoddoli.
Os ydych yn ceisio lloches yn y DU, gallwch barhau i wirfoddoli gyda ni tra bod penderfyniad yn cael ei wneud ar eich cais. Gallwch hefyd wirfoddoli os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad y mae lloches wedi’i wrthod. Yn anffodus, os byddwch yn colli apêl a lloches yn cael ei wrthod, ni fyddwch bellach yn gymwys i wirfoddoli gyda ni.
Os mai dim ond am gyfnod byr y byddwch yn y DU, cofiwch y gall gymryd amser i gwblhau’r broses ymgeisio. Os ydych yn gobeithio gwirfoddoli ond nad ydych yn y DU yn hir, cysylltwch â Swyddfa Gwirfoddolwyr Cymru am ragor o wybodaeth.
Gwirfoddolwyr o'r UE
Nid yw’r DU bellach yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Ond gall gwladolion yr UE barhau i wirfoddoli yn y DU os: oes ganddyn nhw statws sefydlog neu ragsefydlog, neu os oes ganddyn nhw fisa sy’n caniatáu iddyn nhw wirfoddoli.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Terrence Higgins Trust a dymunwn bob llwyddiant i chi gyda’ch cais.