Cynllun Gweithredu HIV
Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn derfynol o’i Gynllun Gweithredu HIV i Gymru 2023-26 sydd â’r nod o greu amgylchedd a all sicrhau na chaiff HIV ei drosglwyddo o gwbl erbyn 2030.
Mae gan y cynllun gweithredu bum rhan flaenoriaeth:

Atal

Profi

Gofal Clinigol

Byw'n dda gyda HIV

Mynd i'r afael â stigma sy'n gysylltiedig â HIV
Mae THT Cymru, ynghyd â’n partneriaid yn Fast Track Cymru wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu a chyflawni’r cynllun gweithredu. Drwy gydol y datblygiad fe fuon ni’n gweithio’n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i greu rhestr o 30 o gamau gweithredu y credwn sy’n allweddol i roi terfyn ar drosglwyddo a stigma ynghylch HIV yng Nghymru.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n aelodau o fwrdd Trosolwg Llywodraeth Cymru sy’n goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Gweithredu ar HIV, yn ogystal ag ar sawl grŵp ‘gorchwyl a gorffen’ sy’n gweithio i ddatblygu gwasanaethau ac ymgyrchoedd a fydd yn galluogi’r cynllun i lwyddo wrth inni symud yn nes ac yn nes at darged 2030.