Data newydd am HIV yn dangos bod nod 2030 Cymru yn y fantol

Data newydd am HIV yn dangos bod nod 2030 Cymru yn y fantol. Darllenwch ein datganiad cyfan.

Mae ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn dangos 119 diagnosis newydd ar gyfer HIV yng Nghymru yn 2023 – cynnydd o 16% ers y llynedd.
Mae’r ystadegau hefyd yn dangos:

  • Pobl heterorywiol a gafodd y rhan fwyaf o’r diagnosau newydd o HIV, a chredir bod 62% wedi digwydd o ganlyniad i ryw rhwng dyn a menyw.
  • Ers 2019, mae diagnosau wedi gostwng 15% yng Nghymru ymhlith dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion.
  • Cyfraddau annerbyniol o ddiagnosis hwyr – cafodd 31% o bobl â HIV ddiagnosis hwyr, sy’n golygu bod HIV eisoes wedi dechrau niweidio system imiwnedd y person.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu HIV i Gymru y llynedd, gyda’r nod o ddod ag achosion newydd o HIV yng Nghymru i ben erbyn 2030 a mynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â’r feirws. Mae’r cynllun yn rhedeg o 2023 i 2026, a ffigurau heddiw yw’r cyntaf i roi unrhyw ddata ar y cyfnod hwnnw.

Meddai Richard Angell, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Terrence Higgins: ‘Mae nod 2030 Cymru yn y fantol oni bai bod arloesi ac adnoddau newydd yn cael eu cyflwyno. Mae Cynllun Gweithredu HIV i Gymru Llywodraeth Cymru wedi amlygu’r diffyg gwasanaethau cymorth i bobl sy’n byw gyda HIV yng Nghymru. Rhaid mynd i’r afael â hyn ar unwaith, er mwyn helpu i ddod â’r epidemig i ben a sicrhau y gall pobl fyw’n dda gyda HIV yng Nghymru.’

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button