Datganiad gan BASHH, CoSRH a’r Terrence Higgins Trust ar bryderon a godwyd gyda gwasanaeth profion STI ar-lein Profi a Phostio Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Cymdeithas Iechyd Rhywiol a HIV Prydain (BASHH), y Coleg Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu (CoSRH), a’r Terrence Higgins Trust wedi galw ar Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithredu i sicrhau’r cyhoedd a chleifion bod y gwasanaeth profi ar-lein yn bodloni safonau diffinieidig llywodraethu clinigol a gwybodaeth.

Heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau materion diogelu a llywodraethu gwybodaeth difrifol sydd wedi’u nodi o fewn eu gwasanaeth profi Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STI) o bell. Mae’r gwasanaeth ar-lein yn elfen hanfodol o’r ddarpariaeth profion STI a HIV yng Nghymru, sy’n cwmpasu cyfran sylweddol o brofion STI asymptomatig ac sy’n hanfodol i wella tegwch mynediad, yn enwedig i gymunedau gwledig ac i gefnogi Cymru i gyflawni’r nod o roi terfyn ar drosglwyddiadau HIV erbyn 2030.

Mae BASHH, CoSRH, a’r Terrence Higgins Trust wedi cwrdd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ofyn am fanylion y materion a nodwyd ac am sicrwydd ar unwaith bod mesurau wedi’u rhoi ar waith sy’n sicrhau diogelwch y gwasanaeth yn y tymor byr. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu clir â’r cyhoedd fel y gellir atal dryswch a phryder diangen ac y gall y rhai yr effeithir arnyn nhw ofyn am y cyngor pellach sydd ei angen arnyn nhw ar unwaith.

Mae’r sefydliadau (BASHH, CoSRH a’r Terrence Higgins Trust) hefyd wedi ysgrifennu at Brif Swyddog Meddygol Cymru yn galw am broses adolygu lawn, dryloyw i ddeall a mynd i’r afael â pham y digwyddodd y gwendidau systemig hyn yn y gwasanaeth sgrinio STI, er mwyn sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu a bod y gwasanaeth yn cael ei gefnogi i gael ei optimeiddio yn y dyfodol.

Meddai Dr Cara Saxon, Llywydd BASHH:

‘Bydd yr adroddiadau heddiw yn anochel yn destun pryder i gleifion a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i’w cefnogi. Rydyn ni wedi ymgysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall y camau a gymerwyd hyd yma. Ein prif bryder yw sicrhau bod y system bellach yn ddiogel, yn gadarn, ac yn gweithredu i’r safonau a ddisgwylir gydag ymgysylltu priodol ag arbenigwyr ar draws y system yng Nghymru. Rhaid i bobl barhau i allu cael mynediad at y gwasanaeth profi STI ar-lein hanfodol hwn gyda hyder bod y mesurau diogelu a goruchwyliaeth glinigol yn gweithredu fel y dylent. Tryloywder llawn ar yr hyn sydd wedi digwydd, pwy allai gael ei effeithio a beth sydd ar waith i roi’r hyder hwn nawr – mae cleifion a’r cyhoedd yn haeddu hynny o leiaf.

Rydyn ni’n glir bod angen adolygiad allanol, cwbl annibynnol a fydd yn gallu darparu atebion cynhwysfawr ar yr hyn a aeth o’i le, a darparu dysgu a chamau y gellir eu cymryd ymhellach i ailennyn ymddiriedaeth ar draws y system.

Mae gan GUM a’r gwasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru arbenigedd eithriadol mewn diogelu, llywodraethu clinigol a rheoli risg. Rhaid nawr cefnogi’r gwasanaethau yn briodol i reoli’r gwaith dilynol angenrheidiol. Dylai hyn gynnwys ymateb amlddisgyblaethol gyda llywodraethu a goruchwyliaeth glinigol briodol yn unol â safonau gofal BASHH.’

Meddai Dr Georgina Forbes, Cadeirydd Pwyllgor Coleg Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu Cymru:

‘Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi goruchwylio gwasanaeth sy’n chwarae rhan hanfodol wrth wella mynediad at brofion STI. Mae’r materion a nodwyd felly yn destun pryder go iawn, gan fod yn rhaid i gleifion allu ymddiried bod y gwasanaeth hwn yn ddiogel ac yn cael ei lywodraethu’n dda. Mae diogelu a rheoli canlyniadau dibynadwy yn hanfodol i ofal o ansawdd uchel. Rhaid gweld mai’r flaenoriaeth nawr yw bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cymryd camau tryloyw ac amserol i gryfhau systemau a sicrhau y gall y gwasanaeth mawr ei angen hwn barhau i gefnogi cleifion.’

Meddai Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust:

‘Rydyn ni’n croesawu pa mor agored a gonest yw Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn gresynu hefyd eu bod wedi methu â chadw at eu safonau eu hunain a’r mesurau diogelu angenrheidiol a ddylai fod wedi bod ar waith. Rydyn ni’n gweithio gyda nhw ar gyfres gyflawn o gamau adferol, rhai ohonyn nhw bellach ar waith, nifer ohonyn nhw eto i’w cyflawni. Byddwn yn cadw llygad barcud ar eu datblygiadau ac yn siarad o blaid defnyddwyr gwasanaethau yn ddi-ofn.

‘Mae profion HIV a STI yn ffordd effeithiol iawn o gadw rheolaeth ar eich iechyd rhywiol. Mae’r gwasanaeth profi drwy’r post yng Nghymru yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac ar gael 24/7 gydol y flwyddyn. Rhaid i bawb yng Nghymru allu cael mynediad at brofion HIV a STI yn hyderus, mewn ffordd sy’n gweddu i’w hanghenion.
“Rhaid i Iechyd Cyhoeddus Cymru gymryd camau ar unwaith i ddysgu o hyn, cael trydydd partïon o amgylch y bwrdd fel nad ydyn nhw’n marcio eu gwaith cartref eu hunain, ymrwymo i sicrhau’r gwasanaeth gorau oll yn y dyfodol, a sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaethau yn ganolog i weithredu’r gwasanaeth, adolygiad ‘edrych yn ôl’ a’r camau nesaf.’

Mae BASHH, y Coleg, a’r Terrence Higgins Trust hefyd yn cydnabod bod y methiannau hyn yn debygol o greu pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd rhywiol lleol sydd eisoes wedi’u hymestyn, a fydd yn cefnogi cleifion yr effeithir arnyn nhw gan wallau neu gyfleoedd diogelu a gollwyd.

Mae BASHH, CoSRH a’r Terrence Higgins Trust wedi ymrwymo i barhau i gydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y broses adolygu yn dryloyw, yn annibynnol, ac yn canolbwyntio ar adfer ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae’n hanfodol bod gwersi yn cael eu dysgu a bod safonau diogelu, llywodraethu clinigol a llywodraethu gwybodaeth priodol yn cael eu hymwreiddio yn y dyfodol.

Nodiadau i olygyddion:

Adroddir bod bwlch yn y system wedi golygu bod rhai plant dan 18 oed wedi cael eu trin yn amhriodol fel oedolion. Yn sgil hynny, fe wnaethant golli allan ar asesiadau risg trylwyr ar gyfer camfanteisio rhywiol a fyddai fel arfer yn cael eu disgwyl yn ystod ymgynghoriad clinigol ar gyfer eu grŵp oedran. Hefyd, ymddengys bod canlyniadau cadarnhaol rhai pobl wedi’u hanfon i’r bwrdd iechyd anghywir ar gyfer triniaeth mewn camgymeriad. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adrodd am y materion hyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae safonau BASHH yn adlewyrchu arferion gorau cyfredol, seiliedig ar dystiolaeth, ym maes rheoli iechyd rhywiol. Maen nhw’n cael eu datblygu mewn cydweithrediad â sefydliadau sector gwirfoddol allweddol, cymdeithasau proffesiynol a chyrff iechyd cyhoeddus ac maen nhw’n cynnig arweiniad hanfodol i gomisiynwyr, darparwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y DU ym maes Iechyd Rhywiol a HIV.

Mae’r Coleg Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu (CoSRH) yn cynrychioli 14,000 o weithwyr proffesiynol ledled y DU. Fel sefydliad aelodaeth broffesiynol amlddisgyblaethol, mae’n gosod canllawiau a safonau clinigol, yn darparu hyfforddiant ac addysg gydol oes, ac yn hyrwyddo gofal iechyd rhywiol ac atgenhedlu diogel ac effeithiol gydol oes i bawb.

Y Terrence Higgins Trust yw prif elusen HIV y DU, sy’n cynnig gwasanaethau cymorth, gwybodaeth a chyngor i’r rhai sy’n byw gyda HIV ac sy’n cael eu heffeithio gan HIV neu iechyd rhywiol gwael. Ein gweledigaeth yw dyfodol lle nad yw HIV yn dal unrhyw un yn ôl, lle mae pob person sy’n byw gyda HIV yn cael diagnosis, triniaeth, cefnogaeth, ac yn rhydd o stigma.

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button