Gallai’r Senedd nesaf roi terfyn ar achosion o HIV yng Nghymru, yn ôl elusennau blaenllaw

Mae elusennau HIV yng Nghymru yn dweud y gallai’r Senedd nesaf roi terfyn ar drosglwyddo HIV, ond bydd angen i’r llywodraeth weithredu ar unwaith i gyrraedd y targed hwn.

Mae’r Terrence Higgins Trust, Fast Track Cymru a’r Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol wedi cyhoeddi maniffesto ar gyfer rhoi terfyn ar drosglwyddiadau newydd o HIV yng Nghymru ac yn annog pob plaid wleidyddol i ymrwymo i weithredu cyn etholiad mis Mai.

Mae pum argymhelliad allweddol gan yr elusennau. Mae’r argymhellion yn cynnwys sicrhau bod y feddyginiaeth atal HIV, PrEP, ar gael trwy wasanaeth ar-lein cenedlaethol, ariannu ymgyrchoedd gwrth-stigma a chreu rhaglen i ail-ymgysylltu â’r rhai sydd wedi cael diagnosis ond nad ydyn nhw’n manteisio ar ofal HIV. Ar ôl derbyn triniaeth, gall pobl sy’n byw gyda HIV fyw bywydau normal, iach heb y posibilrwydd o drosglwyddo’r feirws, gan gynnwys trwy gael rhyw.

Mae’r elusennau’n dadlau y bydd y camau hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r gyfran uchel o bobl yng Nghymru sy’n cael diagnosis hwyr o HIV, pan fydd y feirws wedi cael cyfle i niweidio eu system imiwnedd, yn ogystal â’r stigma parhaus o amgylch HIV.

Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu HIV cyntaf erioed Cymru yn 2023 ac mae’n dod i ben eleni. Er ei fod wedi sbarduno cynnydd, mae’r elusennau yn dweud y bydd angen i’r llywodraeth fynd ymhellach ac yn gyflymach i roi terfyn ar achosion newydd o HIV o fewn y degawd.

Meddai Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust: ‘Mae gennym ni’r holl offer sydd eu hangen arnom i roi terfyn ar achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030. Heddiw, rydyn ni wedi cyflwyno glasbrint ar gyfer sut i ddefnyddio’r offer hynny i adeiladu dyfodol ym mamwlad Terry Higgins heb unrhyw achosion newydd o HIV, heb unrhyw stigma ynghylch HIV a lle mae pobl yn cael eu cefnogi i fyw’n dda gyda HIV. Nawr mae hi i fyny i’r ymgeiswyr, Aelodau etholedig a Llywodraeth nesaf Cymru i ymrwymo i droi hyn yn realiti.’

Darllenwch ein maniffesto [Cymraeg] [Saesneg]

Darllenwch ein maniffesto [Saesneg]

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button