Mae data newydd yn dangos gostyngiad sylweddol o 20% mewn achosion newydd o HIV yng Nghymru y llynedd, gan fod mwy o bobl nag erioed wedi cael eu profi.

Mae’r data diweddaraf yn adroddiad blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar HIV, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, ddydd Mercher 5 Tachwedd, yn dangos bod nifer y rhai sy’n cael diagnosis newydd o HIV wedi gostwng i 73 yn 2024, i lawr o 91 yn 2023.
Ar yr un pryd, bu cynnydd o 8.3% yn nifer y profion a gynhaliwyd, gyda mwy na 133,000 o bobl yn cael eu profi am HIV. Roedd bron i un rhan o bump o bobl yn defnyddio gwasanaeth profi gartref am ddim, naill ai drwy’r gwasanaeth profi a phostio ar-lein neu drwy gasglu pecyn profi o leoliad cymunedol.
Mae presgripsiynau ar gyfer meddyginiaeth atal ar eu lefel uchaf ers 2020.
Gwelwyd cynnydd o fwy na 4% yn nifer y bobl sy’n cymryd meddyginiaeth PrEP (Proffylacsis Cyn-gysylltiad), sydd, o’i gymryd yn gywir, yn gallu atal trosglwyddiadau o HIV.
Mae’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n cymryd PrEP yn cyd-fynd â’r duedd am i lawr yn nifer yr achosion newydd o HIV yn y DU, yn enwedig ymhlith dynion hoyw a deurywiol sy’n cael rhyw gyda dynion. Er y gall bron pawb ddefnyddio PrEP, dynion yw 98% o’r bobl sy’n ei gymryd, ac mae mwy na thraean ohonynt yn y grŵp oedran 25 i 34 oed.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
‘Mae Cymru yn gwneud cynnydd calonogol tuag at ein huchelgais o ddim trosglwyddiadau newydd o HIV erbyn 2030 drwy ein Cynllun Gweithredu HIV uchelgeisiol, sy’n cynnwys creu mwy o fynediad at brofion, hyrwyddo dulliau atal a mynd i’r afael â stigma.
‘Rwy’n falch o weld y data diweddaraf hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n dangos cynnydd yn nifer y bobl sy’n profi am HIV a chynnydd yn nifer y bobl sy’n cymryd PrEP.
‘Mae’r gostyngiad sylweddol yn nifer y rhai sy’n cael diagnosis newydd o HIV yn rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono.’
Dywedodd yr Athro Daniel Thomas, epidemiolegydd ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
‘Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod Cymru yn gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau trosglwyddiadau newydd o HIV, tra mae lefelau atal a thriniaeth ar eu huchaf erioed.
‘Dyma enghraifft wych o sut mae rhoi blaenoriaeth i atal yn gweithio – gan helpu pobl i fyw bywydau iachach.
‘Mae’r data a gafodd ei ryddhau heddiw yn dangos y gall profion rheolaidd – yn flynyddol fel arfer – a’r defnydd priodol o PrEP a meddyginiaethau gwrth-retrofeirysol wneud gwahaniaeth dramatig o ran lleihau trosglwyddiadau o HIV a sicrhau bod pawb yn gallu byw bywyd normal gyda diagnosis positif.
‘Mae profi bellach yn haws nag erioed – mae’r gwasanaeth profi a phostio poblogaidd ar gael ar-lein gan Iechyd Rhywiol Cymru. Erbyn hyn, mae’r gwasanaeth profi rhad ac am ddim hwn hefyd ar gael gan nifer o leoliadau cymunedol, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol ond hefyd rai llyfrgelloedd, undebau myfyrwyr a gwasanaethau cymorth’.
Dywedodd Richard Angell OBE, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Terrence Higgins:
‘Mae data heddiw yn dangos bod cynnydd gwirioneddol wedi’i wneud tuag at roi terfyn ar achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030. Mae’r nifer sy’n cymryd PrEP wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers y pandemig ac mae cyfraddau profi am HIV wedi cynyddu. Mae’r ffaith ein bod yn profi mwy o bobl ond yn dod o hyd i lai o achosion yn dangos tuedd galonogol.
‘Mae Cymru wedi arwain y ffordd wrth gyflwyno pecynnau profi gartref am HIV a heintiau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol i bawb yn y wlad ac, o’u cyfuno â’r rhaglenni brechu ar gyfer gonorea a brech M a doxyPEP, mae hyn yn golygu bod gan y cyhoedd yng Nghymru adnoddau newydd a phrofedig i reoli eu hiechyd rhywiol.
‘Mae’n rhaid inni gadw ein troed ar y sbardun i ysgogi’r cynnydd hwn a gweithio i sicrhau bod pawb sy’n byw gyda HIV yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i fyw’n dda, heb stigma.’