Crynodeb i gloi - HIV a gofal cymdeithasol
Diolch am gwblhau ein hyfforddiant. Beth am i ni adolygu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu.
Erbyn heddiw, mae HIV yn gyflwr iechyd hirdymor y gallwn ei reoli, a diolch i driniaeth effeithiol, gall rhywun fel fi fyw i oedran teg, gan heneiddio’n iach a hapus.
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod llawer o fythau a chamddealltwriaeth sy’n gysylltiedig ag HIV, felly hoffem sicrhau bod gan bobl y wybodaeth a’r ddealltwriaeth gywir am HIV i allu darparu’r gofal gorau.
Dyw gofalu am rywun sydd gydag HIV ddim yn wahanol i ofalu am rywun heb HIV, a chofiwch na allwch chi gael HIV trwy ofalu am rywun.
Dydw i ddim am gael fy nhrin yn wahanol i neb arall gan fy ngofalwyr.
Dwi’n berffaith iach, alla’i ddim pasio’r feirws ymlaen, a hoffwn gael fy nhrin gyda’r un caredigrwydd a thosturi â phawb arall sydd angen cymorth. Mae pobl sy’n byw gydag HIV eisiau gallu cael mynediad at wasanaethau heb ofni gwahaniaethu.
Mae HIV yn gyflwr hirdymor y gellir ei reoli bellach. Diolch i driniaeth HIV effeithiol, gall pobl heneiddio gydag HIV, byw bywydau iach, heb ei basio ymlaen i’w partneriaid rhywiol.
Mae byw i oedran hŷn yn golygu bod llawer o bobl sydd gydag HIV yn dechrau profi’r un problemau heneiddio â’r boblogaeth yn gyffredinol.
Gyda 50% o bobl sy’n byw gydag HIV bellach yn 50 oed neu’n hŷn, mae’n bwysig bod y sector Gofal Cymdeithasol yn hyddysg mewn HIV ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, fel y gallwch ddarparu gofal parchus a chefnogol.
Yn dilyn yr hyfforddiant hwn, gobeithio eich bod yn cytuno y dylai pobl sy’n byw gydag HIV ac sy’n defnyddio cymorth gofal cymdeithasol gael eu trin gyda’r un parch ac urddas â’u cyfoedion HIV-negatif.
Nawr, gallwch gymryd ein cwis i brofi eich gwybodaeth. Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau’r cwis, cewch eich annog i anfon adborth ar yr hyfforddiant.
Cysylltu â ni
Os ydych chi’n gweithio i ddarparwr gofal cymdeithasol ac eisiau dysgu mwy am yr hyfforddiant a’r cymorth y gallwn ei gynnig, cysylltwch â ni yn [email protected].