Ffeithiau am HIV
Gwella eich dealltwriaeth o HIV a sut mae'n cael ei drosglwyddo.
Beth yw HIV?
Feirws imiwnoddiffygiant dynol yw HIV.
‘Imiwnoddiffygiant’ yw pan fydd y system imiwnedd wedi ei gwanhau gan y feirws.
Cafodd HIV ei ddarganfod yn y 1980au.
Beth yw AIDS?
Syndrom diffyg imiwnedd caffaeledig yw AIDS. Mae’n gasgliad o afiechydon (‘syndrom’) sy’n cael ei achosi gan feirws y mae pobl yn ei ddal (‘caffael’) sy’n gwneud eu system imiwnedd yn wan (‘diffyg imiwnedd’).
Allwch chi ddim cael diagnosis o AIDS oni bai eich bod eisoes yn HIV positif.
HIV neu AIDS?
Diolch i driniaeth HIV effeithiol, mae’r camau datblygu i afiechyd difrifol ac AIDS bellach yn brin iawn yn y DU.
Wrth sôn am bobl sy’n byw â’r feirws mae’n well gennym ni ddweud ‘pobl sy’n byw gydag HIV ’. Peidiwch byth â dweud bod ‘gan rywun AIDS’ os ydyn nhw’n byw yn dda gydag HIV.
HIV hwyr neu AIDS?
Yn yr 1980au a’r 90au cynnar, cafodd y rhan fwyaf o bobl ag gydag HIV ddiagnosis o AIDS yn y pen draw.
Nawr, diolch i driniaeth wrth-retrofeirysol fodern, ychydig iawn o bobl yn y DU sy’n datblygu salwch difrifol sy’n gysylltiedig ag HIV.
Dydy’r term AIDS ddim yn cael ei ddefnyddio llawer gan feddygon y DU. Yn hytrach, maen nhw’n siarad am HIV hwyr neu ddatblygedig.
Trosglwyddo HIV
Dim ond trwy’r hylifau corfforol hyn y mae modd pasio HIV:
- gwaed
- semen
- hylif y wain
- mwcws yr anws
- llaeth y fron.
Does dim modd pasio HIV ymlaen drwy’r hylifau neu wastraff corfforol hyn:
- ymgarthion (pŵ)
- secretiadau trwynol
- poer
- secretiadau gastrig
- sbwtwm (fflem)
- chwys
- dagrau
- wrin
- chwydu.
Allwch chi ddim cael HIV drwy’r canlynol:
- Poeri, tisian neu beswch.
- Cusanu, cofleidio, dal dwylo neu gyswllt achlysurol.
- Rhoi gofal i rywun, fel golchi, ymolchi, neu roi sylw meddygol neu glinigol iddyn nhw, fel meddyginiaethau gan gynnwys trwy bigiad.
- Rhannu eitemau’r cartref, fel cwpanau, platiau a chyllyll a ffyrc, neu drwy ddefnyddio’r un cyfleusterau fel ystafelloedd ymolchi neu ystafelloedd therapiwtig.
- Cyswllt cymdeithasol cyffredinol.
- Hylifau corfforol sy’n dod i gysylltiad â’r croen.
Dyw HIV ddim yn gallu para’n hir iawn unwaith y bydd y tu allan i’r corff dynol.
Llwyth feirysol anghanfyddadwy
Mae astudiaethau wedi dangos nad yw person sydd ar driniaeth effeithiol sydd â llwyth firysol anghanfyddadwy yn gallu pasio HIV ymlaen.