Gofalu am bobl yn y gymuned ac mewn cartrefi gofal preswyl

Dylai pobl gydag HIV allu cael y cymorth a’r gofal sydd eu hangen arnyn nhw heb ofni stigma HIV.

Ann Marie ydw i, a dwi wedi byw gydag HIV ers bron i 30 mlynedd.

Pan gefais ddiagnosis gyntaf ‘nôl yn 1995 roedd fy ngŵr i’n marw o AIDS a doedd gen i ddim syniad na fyddai’r un peth yn digwydd i mi.

Rebecca ydw i, a chefais ddiagnosis yn 1996.

Wnaethon nhw ddweud mai dim ond am gyfnod byr iawn y byddwn i’n byw – wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n dal yma 30 neu 27 mlynedd yn ddiweddarach.

Roland Chesters ydw i a chefais ddiagnosis o HIV yn 2006.

Cefais wybod bod gen i bythefnos i fyw a wnaeth, wrth gwrs, fy llorio’n llwyr.

Dechreuais driniaeth yn syth ac yn ffodus mae hynny wedi golygu fy mod i’n dal yn fyw 17 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Yn 2022, roedd 50% o bobl sy’n byw gydag HIV yn 50+ oed, a mwy na 9,000 yn 65 oed neu’n hŷn.

Diolch i driniaeth HIV effeithiol, mae pobl sy’n byw gydag HIV yn heneiddio, gyda llawer bellach naill ai angen cymorth gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol neu’n meddwl am hynny.

Bydd angen cymorth ar bobl gydag HIV am yr un rhesymau â’r boblogaeth yn gyffredinol, a go brin y bydd eu hanghenion yn ymwneud yn uniongyrchol â’r HIV ei hun.

Bydd angen cymorth ar y mwyafrif oherwydd eu bod yn llai symudol, bod angen help arnyn nhw gyda thasgau dyddiol, neu am eu bod yn gwella ar ôl cyfnod o waeledd ac angen gofal seibiant.

Efallai y bydd gan rai pobl broblemau gwybyddol, a dylid eu cefnogi yn yr un modd â phobl sy’n byw heb HIV.

Gall plant, pobl ifanc, ac oedolion ag anghenion dysgu ac anableddau sy’n byw gydag HIV hefyd gael mynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol, a dylid eu cefnogi yn yr un modd â’u cyfoedion HIV-negatif.

Disgwyliadau gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol

Dwi’n poeni am stigma HIV mewn cartrefi gofal. Dwi wir ddim eisiau i ni, y bobl sy’n byw gydag HIV nawr, fynd yn ôl i mewn i’r ‘closet’ HIV.

Fyddai pobl ddim yn datgelu eu statws oherwydd eu bod yn ofni’r stigma a’r gwahaniaethu o’i gwmpas.

Rydyn ni wedi symud ymlaen ac fel rhywun 75 oed sy’n edrych i’r posibilrwydd o fod angen gofalwr neu fynd i gartref gofal yn y dyfodol, dwi i ddim eisiau bod yn y sefyllfa lle mae’n rhaid i mi guddio fy statws HIV, peidio â chymryd fy meddyginiaeth yn iawn a byw celwydd.

Pe bawn i angen gofal yn y dyfodol, byddwn i’n poeni rhywfaint am gael fy nhrin yn wahanol, er enghraifft pe bai rhywun yn dod i ‘nghartref, yn gweld fy meddyginiaeth ac yn fy nhrin i’n wahanol.

Byddai hynny wir yn fy mhoeni i.

Dylai pobl sy’n byw gydag HIV gael gofal yn union fel unrhyw un arall sy’n byw gyda chyflwr iechyd hirdymor. Mae’n gwbl hanfodol bod pobl sy’n gweithio yn y diwydiant gofal yn cael y wybodaeth gywir am HIV.

Mae hynny’n eu galluogi i wneud eu gwaith heb boeni. Mae’n golygu y galla i gael gofalwr heb boeni, ac mae pawn ar eu hennill gan fod cymaint o wybodaeth â phosibl gan y ddwy ochr.

Mae’n hollbwysig bod unrhyw un sy’n cefnogi neu’n gofalu am rywun sy’n byw gydag HIV yn cael y ffeithiau cywir a’r wybodaeth gywir am HIV.

Dylai pobl sy’n byw gydag HIV gael yr un gofal ag unrhyw un arall.

Mae’n hollbwysig i mi a phobl eraill sy’n byw gydag HIV y gallwn ni gynnal ein hannibyniaeth, a’n lles meddyliol a chorfforol hefyd.

Heddiw mae 50% o’r bobl sy’n byw gydag HIV yn y DU dros 50 oed ac mae’r nifer hwnnw’n cynyddu.

Felly bydd mwy ohonom angen cael gafael ar ofal cymdeithasol.

Mae cymaint o newyddion da i’w wybod am HIV a dwi wir am i bobl mewn gofal cymdeithasol ddysgu am hyn.

Does gan y rhan fwyaf o bobl sy’n heneiddio gydag HIV ddim profiad o gael gafael ar gymorth gan wasanaethau gofal cymdeithasol, ond maen nhw’n ymwybodol o’r ffaith y gall fod ei angen yn y dyfodol.

Mae gan lawer y gwnaethom ni siarad â nhw bryderon penodol am wneud hynny, yn enwedig o ran cael eu stigmateiddio am eu bod nhw’n byw gydag HIV .

Cofiwch, mae gan bob unigolyn yr hawl i asesiad o dan Ddeddf Gofal 2014, ac ailasesiad os bydd ei anghenion yn newid, a sicrwydd y bydd ei anghenion yn cael eu diwallu.

Efallai y bydd rhai pobl sydd gydag HIV wedi defnyddio cymorth gofal cymdeithasol yn y gorffennol, ond bydd ganddyn nhw anghenion penodol bellach wrth heneiddio gydag HIV.

Efallai y bydd pobl sydd gydag HIV yn cael cymorth gofalwr neu aelod o’r teulu, a’u bod yn gymwys i gael asesiad o’u hanghenion am gymorth.

Darparu cymorth yn y cartref neu yn y gymuned

  • Mae pobl eisiau cael eu trin â’r un parch ac urddas ag eraill sy’n derbyn gofal yn eu cymdogaeth.
  • Maen nhw’n poeni y gallai cymdogion neu bobl eraill sy’n byw gerllaw ddod i wybod am eu statws os yw pobl yn hel clecs am y peth.
  • Dydyn nhw ddim eisiau derbyn gofal o safon wahanol oherwydd bod pobl yn credu’r mythau am sut mae HIV yn cael ei basio ymlaen.
  • Dylen nhw dderbyn gofal personol, gan gynnwys ymolchi a golchi, yn ogystal â phrydau bwyd yr un fath yn union ag eraill sy’n cael mynediad at ofal.

Darparu cymorth mewn cartref gofal preswyl

  • Mae pobl eisiau cael eu trin gyda’r un parch ac urddas â phreswylwyr eraill.
  • Maen nhw am barhau i fod mor annibynnol â phosib, gan gynnwys cymryd eu meddyginiaethau HIV.
  • Maen nhw eisiau gallu cymdeithasu a rhyngweithio â thrigolion eraill heb gael eu trin yn wahanol.
  • Dylent dderbyn gofal personol, gan gynnwys ymolchi a golchi, yn ogystal â’u prydau bwyd yn yr un ffordd â phreswylwyr eraill.
  • Ni ddylai pobl sy’n dewis cael gofal preifat orfod talu mwy dim ond am eu bod yn byw gydag HIV.

Perthnasoedd, rhyw a heneiddio

  • Mae gan bobl sy’n heneiddio gydag HIV yr hawl i berthnasoedd rhywiol a rhamantus.
  • Mae gan bobl iau sy’n cael gofal cymdeithasol (ee gydag anabledd dysgu) yr hawl i gael gafael ar gymorth a gwybodaeth am eu hiechyd rhywiol.
  • Maen nhw eisiau i gydweithwyr gofal cymdeithasol ddeall na allan nhw basio ymlaen HIV wrth gymryd triniaeth HIV effeithiol.
  • Mae dynion hoyw a deurywiol sydd gydag HIV am barhau i fod yn agored a hyderus am eu rhywioldeb.
  • Pan fo angen, maen nhw eisiau gallu cael gafael ar wasanaethau cymorth iechyd rhyw ac atal STIs a HIV.

Os hoffech ragor o wybodaeth i gefnogi pobl sydd gydag HIV yn eich gwasanaeth, cysylltwch â ni.

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button