Gweithio'n ddiogel

Does dim un achos o drosglwyddo HIV mewn lleoliad gofal cymdeithasol wedi bod erioed.

Mae’r tebygolrwydd o ddod i gysylltiad ag HIV wrth ofalu am rywun sy’n byw gydag HIV yn brin iawn.

Trwy ddilyn eich prosesau a’ch arferion rheoli heintiau safonol gallwch sicrhau eich bod chi’n gofalu am bobl sydd gydag HIV yn ogystal â chi’ch hun.

Does dim angen i chi ofalu am bobl sy’n byw gydag HIV yn wahanol i’r rhai sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor eraill.

A bod yn onest, dwi’n aml ddim yn gwybod a oes gan rywun dwi’n gofalu amdano gyflwr fel HIV.

Dwi yno i’w helpu i baratoi ar gyfer ei ddiwrnod, i’w helpu i ymolchi a gwisgo a rhoi sylw i unrhyw anghenion eraill.

Mae pobl weithiau’n rhannu’r ffaith eu bod nhw’n byw gydag HIV neu dwi wedi gweld meddyginiaeth HIV o gwmpas, a dwi’n gwybod y dylwn eu trin nhw’n union fel pawb arall.

Mae pawb yn haeddu cael gofal gyda pharch ac urddas p’un a oes ganddyn nhw HIV ai peidio. Mae’n ddiogel i rywun sy’n byw gydag HIV weithio ym maes gofal cymdeithasol.

Dydyn nhw ddim yn achosi unrhyw berygl i unrhyw un sy’n gofalu amdanyn nhw. Efallai bod rhai o’ch cydweithwyr chi’n byw gydag HIV ac maen nhw’n haeddu’r un parch ag unrhyw aelod arall o’r staff.

Mae pobl sy’n byw gydag HIV yn gallu gweithio’n unrhyw le, fel pawb arall.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi HIV fel anabledd ac felly mae’n rhoi amddiffyniad i bobl sy’n byw gydag HIV rhag dioddef gwahaniaethu.

Mae’r tebygolrwydd o ddod i gysylltiad ag HIV wrth ddarparu gofal i rywun sy’n byw gydag HIV yn anghyffredin iawn.

Trwy ddilyn rhagofalon cyffredinol ac arferion gorau rheoli heintiau safonol, cewch chi eich amddiffyn, a’r rhai rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.

Fel mae’r adran ffeithiau am HIV yn ei phwysleisio, dim ond trwy rai hylifau corfforol mae HIV yn cael ei basio ymlaen – nid trwy roi neu dderbyn gofal personol.

Wrth ddarparu gofal a chymorth i bobl, dylid cadw at ragofalon cyffredinol a pholisïau rheoli heintiau, a rhaid i reolwyr sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu i unrhyw un sy’n gweithio yn eu gwasanaethau.

Ar gyfer tasgau lle mae angen defnyddio menig, does dim angen gwisgo pâr ychwanegol.

Ni ddylai pobl sydd gydag HIV gael eu trin yn wahanol i bobl eraill sy’n derbyn gofal; os ydyn nhw, byddai hyn yn achos o wahaniaethu.

Amddiffyn mewn argyfwng

Dwi’n gwybod nad oes angen i fi ofni HIV, ond dwi’n gwybod sut i amddiffyn fy hun petawn i mewn sefyllfa brin iawn o fod wedi dod i gysylltiad ag HIV.

Dwi wedi dysgu am PEP – triniaeth frys sy’n gallu atal HIV. Mae PEP neu broffylacsis ôl-gysylltiad (post exposure prophylaxis) yn driniaeth frys y gellir ei defnyddio i atal HIV rhag heintio’r corff unwaith y bydd y feirws wedi mynd i mewn iddo.

Dim ond mewn argyfwng mae’n cael ei defnyddio.

Os ydych chi’n meddwl bod angen PEP arnoch, dylech gysylltu â chlinig iechyd rhywiol neu fynd i adran damweiniau ac achosion brys o fewn 24 awr ac o leiaf o fewn 72 awr – dyw PEP ddim yn gweithio ar ôl hynny.

Dylid cymryd PEP cyn gynted â phosibl.

Ni fyddwch yn cael PEP oni bai bod siawns uchel eich bod wedi dod i gysylltiad gydag HIV, er enghraifft, os cawsoch eich anafu gan offer miniog wrth ofalu am rywun sy’n byw gydag HIV ond nad yw’n derbyn triniaeth HIV.

Byddan nhw’n eich asesu ac yn penderfynu a oes angen PEP arnoch.

Mae triniaeth PEP (proffylacsis ôl-gysylltiad ar gyfer HIV) yn gallu atal haint HIV ar ôl i’r feirws fynd i mewn i gorff unigolyn. Dylid ei gymryd cyn gynted â phosibl ar ôl dod i gysylltiad, ond o fewn 72 awr.

Dim ond dan amgylchiadau lle mae tebygolrwydd bod rhywun wedi dod i gysylltiad gydag HIV y caiff PEP ei roi i rywun, e.e. anaf gan offer miniog wrth ofalu am rywun sy’n byw gydag HIV nad yw’n cael triniaeth HIV.

Mae PEP ar gael o glinigau iechyd rhywiol, neu Adrannau Achosion Brys. Byddant yn cynnal asesiad i benderfynu a yw’n briodol rhoi PEP.

Staff sy'n byw gydag HIV

Does dim unrhyw reswm pam na all person sy’n byw gydag HIV weithio mewn unrhyw rôl gofal cymdeithasol.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud rhai mathau o wahaniaethu yn anghyfreithlon.

Mae gan unrhyw un sy’n cael diagnosis o HIV yr un amddiffyniad â phobl anabl, waeth beth fo’i statws iechyd.

Darllenwch fwy am y Ddeddf Cydraddoldeb a’r gweithle.

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button