Gwella eich dealltwriaeth o HIV a sut mae'n cael ei drosglwyddo.

Ffeithiau am HIV

Feirws imiwnoddiffygiant dynol (human immuno deficiency) yw HIV. Mae diffyg imiwnedd yn golygu gwanhau’r system imiwnedd.

Ystyr AIDS yw syndrom diffyg imiwnedd caffaeledig (Acquired Immune Deficiency Syndrome) felly mae un yn feirws a’r llall yn syndrom.

Diffyg imiwnedd yw pan fydd y feirws yn gwanhau’r system imiwnedd i’r graddau nad yw’n gallu ei amddiffyn rhag unrhyw fath o feirysau neu glefydau.

Mae AIDS yn gasgliad o afiechydon sy’n cael eu hachosi gan HIV heb ei drin. Allwch chi ddim cael AIDS oni bai eich bod chi eisoes wedi cael diagnosis o HIV.

Bydd rhywun sy’n cael diagnosis cynnar ar ôl cael ei heintio ac sy’n dechrau ar driniaeth yn syth bin, yn byw bywyd hir ac iach.

Diolch i driniaeth HIV, mae problemau iechyd difrifol ac AIDS bellach yn bethau prin iawn yn y DU.

{Text on screen during video} HIV feirws imiwnoddiffygiant dynol
{Text on screen during video} AIDS syndrom diffyg imiwnedd caffaeledig

Beth yw HIV?

Feirws imiwnoddiffygiant dynol yw HIV.

‘Imiwnoddiffygiant’ yw pan fydd y system imiwnedd wedi ei gwanhau gan y feirws.

Cafodd HIV ei ddarganfod yn y 1980au.

Beth yw AIDS?

Syndrom diffyg imiwnedd caffaeledig yw AIDS. Mae’n gasgliad o afiechydon (‘syndrom’) sy’n cael ei achosi gan feirws y mae pobl yn ei ddal (‘caffael’) sy’n gwneud eu system imiwnedd yn wan (‘diffyg imiwnedd’).

Allwch chi ddim cael diagnosis o AIDS oni bai eich bod eisoes yn HIV positif.

HIV neu AIDS?

Diolch i driniaeth HIV effeithiol, mae’r camau datblygu i afiechyd difrifol ac AIDS bellach yn brin iawn yn y DU.

Wrth sôn am bobl sy’n byw â’r feirws mae’n well gennym ni ddweud ‘pobl sy’n byw gydag HIV ’. Peidiwch byth â dweud bod ‘gan rywun AIDS’ os ydyn nhw’n byw yn dda gydag HIV.

HIV hwyr neu AIDS?

Yn yr 1980au a’r 90au cynnar, cafodd y rhan fwyaf o bobl ag gydag HIV ddiagnosis o AIDS yn y pen draw.

Nawr, diolch i driniaeth wrth-retrofeirysol fodern, ychydig iawn o bobl yn y DU sy’n datblygu salwch difrifol sy’n gysylltiedig ag HIV.

Dydy’r term AIDS ddim yn cael ei ddefnyddio llawer gan feddygon y DU. Yn hytrach, maen nhw’n siarad am HIV hwyr neu ddatblygedig.

Trosglwyddo HIV

Dwi’n gwybod bod llawer o ‘nghydweithwyr yn dal i ofni HIV, ond does dim angen iddyn nhw deimlo felly. Dwi wedi dysgu na all pobl ar driniaeth HIV effeithiol basio’r feirws ymlaen i unrhyw un.

Mae hyn wedi rhoi mwy o hyder i mi pan fydda i’n gofalu am bobl sy’n byw ag HIV. Dwi’n gwybod nad oes gen i unrhyw beth i boeni amdano a gallaf ganolbwyntio ar ddarparu gofal o’r radd flaenaf. Dylai pawb gael eu trin â pharch ac urddas.


Title Card

Trosglwyddo HIV.

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael eu heintio gydag HIV yn y DU yn ei gael trwy gael rhyw gyda rhywun nad yw’n gwybod ei fod yn HIV positif. Yr hylifau corfforol sy’n cludo HIV yw gwaed, hylif y wain, semen, mwcws yr anws a llaeth y fron. {words appear on screen in text}

Does dim angen poeni am gael HIV gan rywun sy’n tisian. Allwch chi ddim cael HIV drwy chwyd, wrin neu ysgarthion.

Allwch chi ddim cael HIV trwy gusanu, cofleidio na dal dwylo rhywun. Allwch chi ddim cael HIV drwy boer neu beswch rhywun.

Allwch chi ddim chwaith gael HIV drwy rannu eitemau’r cartref fel cwpanau, platiau a chyllyll a ffyrc. Allwch chi ddim cael HIV drwy ofalu am rywun sy’n byw gydag HIV , eu golchi, rhannu ystafell ymolchi neu ddefnyddio’r un toiled. Dydy HIV ddim yn goroesi’n hir iawn unwaith y bydd y tu allan i’r corff dynol.

Dim ond trwy’r hylifau corfforol hyn y mae modd pasio HIV:

  • gwaed
  • semen
  • hylif y wain
  • mwcws yr anws
  • llaeth y fron.

Does dim modd pasio HIV ymlaen drwy’r hylifau neu wastraff corfforol hyn:

  • ymgarthion (pŵ)
  • secretiadau trwynol
  • poer
  • secretiadau gastrig
  • sbwtwm (fflem)
  • chwys
  • dagrau
  • wrin
  • chwydu.

Allwch chi ddim cael HIV drwy’r canlynol:

  • Poeri, tisian neu beswch.
  • Cusanu, cofleidio, dal dwylo neu gyswllt achlysurol.
  • Rhoi gofal i rywun, fel golchi, ymolchi, neu roi sylw meddygol neu glinigol iddyn nhw, fel meddyginiaethau gan gynnwys trwy bigiad.
  • Rhannu eitemau’r cartref, fel cwpanau, platiau a chyllyll a ffyrc, neu drwy ddefnyddio’r un cyfleusterau fel ystafelloedd ymolchi neu ystafelloedd therapiwtig.
  • Cyswllt cymdeithasol cyffredinol.
  • Hylifau corfforol sy’n dod i gysylltiad â’r croen.

Dyw HIV ddim yn gallu para’n hir iawn unwaith y bydd y tu allan i’r corff dynol.

Llwyth feirysol anghanfyddadwy

Mae astudiaethau wedi dangos nad yw person sydd ar driniaeth effeithiol sydd â llwyth firysol anghanfyddadwy yn gallu pasio HIV ymlaen.

 

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button