Hyfforddiant 'Ni all basio ymlaen' ar gyfer gofal cymdeithasol
Nod ein cwrs hyfforddiant ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o HIV, sut mae’n cael ei basio ymlaen a’r neges ‘Ni all basio ymlaen’/Anghanfyddadwy = Anhrosglwyddadwy (Undetectable = Untransmissible, U = U). Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n gallu darparu gofal rhagorol i bobl sy’n byw gydag HIV sy’n cael mynediad i’ch cymorth.
Mae’r adnodd dysgu hunangyfeiriedig hwn ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn ogystal ag unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl sy’n heneiddio gydag HIV. Mae wedi’i rannu’n adrannau gwahanol fel y gallwch ddysgu yn eich pwysau a dychwelyd ato i fwrw golwg fanylach ar rywbeth eto. Ar ôl adolygu’r holl adrannau, rhowch gynnig ar gwis i brofi eich gwybodaeth.
Defnyddiwch ein ffurflen adborth i roi gwybod sut hwyl gawsoch chi a’n helpu i ddatblygu’r cwrs hwn ymhellach.
Dyw HIV ddim yn cael ei basio ymlaen drwy gyswllt achlysurol, poeri neu beswch, trwy rannu eitemau’r cartref, neu drwy ddarparu neu dderbyn gofal personol gan bobl eraill.
Mae ‘Ni all basio ymlaen’ ac Anghanfyddadwy = Anhrosglwyddadwy (U=U), yn golygu na all pobl sy’n byw gydag HIV ac ar driniaeth effeithiol basio’r feirws ymlaen i’w partneriaid rhywiol.
Mae triniaeth HIV yn gweithio drwy leihau faint o’r feirws sydd yn y gwaed i lefelau ‘anghanfyddadwy’, sy’n golygu bod ganddyn nhw lwyth feirysol anghanfyddadwy.
Mae’r ffaith bod llwyth firysol anghanfyddadwy yn golygu nad oes risg o drosglwyddo HIV trwy ryw yn neges iechyd cyhoeddus bwysig, ynghyd â’r ffaith bod triniaeth yn sicrhau bod pobl sy’n byw gydag HIV yn gallu byw bywydau hir ac iach.
Mae U=U yn helpu i chwalu stigma HIV; gan hyrwyddo profion, annog triniaeth ac aros mewn gofal; ac fe allai drawsnewid bywydau atgenhedlu, rhywiol, cymdeithasol a phersonol pobl sy’n byw gydag HIV .
Er hynny, mae ymchwil yn dangos bod llawer o bobl yn dal i gredu llawer o’r mythau hirhoedlog am sut mae HIV yn cael ei basio ymlaen, a bod ganddyn nhw ofnau a phryderon am ddal HIV gan bobl maen nhw’n gofalu amdanynt.
Cynnwys yr hyfforddiant: